14 Tachwedd 2023

Awgrymiadau gwych i gadw'n ddiogel rhag y sgamwyr

Yr wythnos hon yw'r Wythnos Ymwybyddiaeth Twyll Genedlaethol, menter fyd-eang sydd â'r nod o isafu effaith twyll drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth ac addysg wrth-dwyll. Dangosodd ein hymchwil fod 41 miliwn o bobl wedi derbyn galwad ffôn neu neges destun amheus yn ystod yr haf y llynedd, felly mae'n werth chweil bod yn ymwybodol o risgiau sgamiau a thwyll.

Yn ffodus, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu'ch hun rhag y twyllwyr. Rydym wedi rhoi ein holl awgrymiadau da at ei gilydd i gadw'ch hun yn ddiogel.

Byddwch yn effro a dilynwch dri cham hawdd

Os ydych chi'n teimlo bod neges destun neu alwad ffôn rydych chi wedi'i derbyn yn amheus, dilynwch eich greddf. Mae tri cham hawdd y gallwch eu cymryd os ydych yn derbyn neges destun neu alwad ffôn yr ydych yn poeni amdano:

Os byddwch yn derbyn neges destun amheus...

Pwyllwch

Pwyllwch! Gallai'r neges fod yn sgam. Darllenwch yn ofalus a chadwch lygad allan am fanylion sydd i'w gweld yn amheus.

Peidiwch glicio

Peidiwch glicio unrhyw ddolenni neu roi manylion personol neu fanc.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am unrhyw neges amheus i 7726 a rhowch wybod i ffrindiau a theulu hefyd.

Os byddwch yn derbyn galwad ffôn amheus...

Pwyllwch

Pwyllwch! Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol neu fanc.

Datgysylltwch

Datgysylltwch a ffoniwch y cwmni maen nhw'n honni ei gynrychioli i wirio a yw'n sgam.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am alwadau sgam i Action Fraud a rhowch wybod i'ch ffrindiau a theulu hefyd.

Cofiwch - 7726

Rhif yw 7726 a ddefnyddir gan bob un o'r prif gwmnïau ffôn symudol er mwyn i'w cwsmeriaid adrodd am negeseuon testun neu alwadau symudol dieisiau.

Gallwch anfon neges destun amheus ymlaen at 7726 am ddim neu ei ddefnyddio i roi gwybod am alwad symudol. Pan fyddwch wedi gwneud hyn, gall eich darparwr symudol ymchwilio i'r rhif. Dilynwch ein canllaw i ddysgu sut i roi gwybod i 7726.

Gwiriwch yr atebion technegol

Yn achos defnyddwyr ffonau symudol, gellir defnyddio nodweddion naill ai ar eich ffôn neu ar y rhwydwaith ffonau symudol i ostwng y risg o negeseuon sgam neu ddrwgwedd. Efallai bod rhai o'r rhain wedi'u gosod ymlaen llaw neu eu rheoli gan weithredwr eich rhwydwaith, a gallwch chi eich hunain roi rhai eraill ar waith.

Os ydych yn ansicr a yw'r atebion hyn ar gael i chi, neu i gael gwybod mwy am sut maen nhw'n gweithio, cysylltwch â'ch darparwr symudol neu ffôn cartref. Dylent fedru darparu mwy o wybodaeth i chi am y mesurau technegol all gael eu rhoi ar waith i'ch diogelu chi.

Gweler ein canllaw am fwy o wybodaeth.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, rhowch wybod

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosib. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 0300 123 2040 neu fynd i wefan Action Fraud yn www.actionfraud.police.uk.

Action Fraud yw'r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn Yr Alban dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall i'r Heddlu ar 101.

Lledaenwch y gair

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gweld sgam, peidiwch â chadw'n dawel amdano. Trwy ddweud wrth bobl rydych yn eu nabod, byddwch yn helpu i wneud mwy o bobl yn ymwybodol o'r sgamiau sy'n bodoli, a allai helpu eraill i osgoi gael eu twyllo.

Mae lledaenu ymwybyddiaeth ymhlith eich ffrindiau a'ch teulu – neu hyd yn oed drwy rannu ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio sgrinluniau, er enghraifft – yn golygu y bydd modd i fwy o bobl gadw llygad barcud ar dactegau diweddaraf y sgamwyr.

Mwy o wybodaeth

Yn ogystal â sgamiau, mae mathau eraill o alwadau a negeseuon dieisiau efallai y byddwch eisiau diogelu'ch hun yn eu herbyn. Bwrw golwg ar ein harweiniad ar sut i wneud hynny.

Related content