Cyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth llwyfannau fideo cymdeithasol
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth ddiweddar, pan wnaethom ofyn i bobl ifanc sut maen nhw'n teimlo y gallai llwyfannau fideo cymdeithasol gael eu gwneud yn fwy diogel i'r bobl sy'n eu defnyddio.
Mae llwyfannau fideo cymdeithasol fel TikTok, Snapchat a Twitch yn rhan enfawr o'n bywydau ar-lein – ac mae hyn yn arbennig o wir ymhlith pobl ifanc.
Rhan o rôl Ofcom yw rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU a sicrhau eu bod yn cymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr rhag mathau penodol o gynnwys fideo niweidiol.
Felly, roeddem am glywed barn pobl ifanc am y pwnc hwn. Gofynnwyd y cwestiwn canlynol i bobl 16 i 18 oed:
Pa newidiadau sydd eu hangen i wneud llwyfannau fideo cymdeithasol yn lleoedd mwy caredig a diogel i bobl ifanc?
Roedd y gystadleuaeth yn agored i geisiadau ysgrifenedig, fideo a sain, ac rydym wedi dewis dau gais ysgrifenedig ac un cais fideo fel yr enillwyr.
Roedd rhai ceisiadau rhagorol a thasg anodd oedd dewis yr enillwyr. Gwnaeth ansawdd y gwaith a'r ymdrech a wnaed gan yr ymgeiswyr argraff fawr arnaf..
Mae helpu pobl i fyw bywyd mwy diogel ar-lein yn flaenoriaeth i ni, ac roedd yn ysbrydoledig iawn i weld pa mor feddylgar a chreadigol yr oedd y ceisiadau ysgrifenedig a fideo.
Sachin Jogia, prif swyddog technoleg Ofcom
Ein henillwyr:
Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi profi i ni dros y blynyddoedd diwethaf ei fod yn ffenomenon hanfodol a chynyddol. Mae wedi golygu bod y llinell gyfathrebu a dorrwyd fel arall gan y pandemig COVID-19 wedi'i hachub, gan ddarparu cyswllt uniongyrchol i ni â theulu a ffrindiau a gweithredu fel ffurf ar ryddhad yn ystod yr amseroedd anoddaf. Dyma ffactor positif amlwg.
Fodd bynnag, heb eisiau swnio'n ystrydebol, mae'n rhaid hefyd i ni ymdrin â'r ochr dywyll.
Gadewch i mi ddefnyddio Tik Tok fel enghraifft. Mae'r gyfran fwyaf o ddefnyddwyr yn perthyn i'r grŵp oedran 12 – 18. Prin yr ydych hyd yn oed yn nabod eich hun yr oedran yna, ac eto rydych chi'n cael niferoedd di-rif o fideos sy'n hyrwyddo ffordd o fyw afiach, delwedd afrealistig o'r corff, hyrwyddo hunan-niwed a llu o sylwadau creulon a hiliol. Mae'n hynod o hawdd gwneud argraff ar bobl ifanc, a dyna lle mae'r perygl.
Ni allwn ddweud wrthynt am ddiffodd eu ffonau, na dileu'r apiau y mae 'pawb' yn eu defnyddio. Mae angen newid go iawn ac os na chaiff ei weithredu nawr, byddwn yn annog pobl ifanc i weld cynnwys fideo niweidiol a bygythiol yn weithredol. Gall y bobl ifanc hyn fod yn dargedau naïf a hawdd gwneud argraff arnynt, ond maent hefyd yn haeddu defnyddio llwyfannau fideo cymdeithasol gymaint â'r gweddill ohonom. Mae bywydau pawb ar-lein bellach. Ni allwn esgus nad yw hyn yn berthnasol i blant hefyd. Yn hytrach na chuddio o'r broblem, mae'n rhaid i ni ei hwynebu.
Felly, dyma'r hyn yr wyf yn ei gynnig:
Rydym yn gwahardd creu cyfrifon ffug. Bydd hyn yn atal pobl rhag cuddio y tu ôl i ddiogelwch y bysellfwrdd. Os ydynt yn gwybod bod eu gwybodaeth ar gael i'r byd ei gweld, bydd saib yn y cynnwys camdriniol hwn, gan ei fod yn ffaith amlwg bod adnabyddiaeth gudd yn darparu cysur a diogelwch i gachgi.
Awgrymaf hefyd fod gennym fersiynau 'sy'n addas i blant' o'r apiau amrywiol hyn. Nid oes diben mewn gwahardd plant o'r rhyngrwyd yn awr; yr ydym wedi rhoi cynnig ar hynny ac nid yw ond wedi datgelu i ni i ba raddau y mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi siapio ein bywydau ac y byddant yn parhau i'w wneud. Fodd bynnag, os byddwn yn creu fersiynau o apiau at ddefnydd plant yn unig, bydd modd i ni fonitro'r cynnwys yn haws a medru sicrhau nad yw cynnwys cas ac ymosodol yn digwydd ar yr un raddfa ag y mae ar hyn o bryd.
Nid wyf am funud yn awgrymu nad oes gan blant y pŵer i rannu pethau ofnadwy hefyd. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud serch hynny, yw y gellir monitro ap sydd â llai o ddefnyddwyr yn graffach. Gallwn roi gwaharddiad torfol ar hashnodau niweidiol a sicrhau na all defnyddwyr gael mynediad oni bai bod eu hoedran, gwybodaeth bersonol a phopeth arall yn cael eu gwirio.
Efallai eich bod yn meddwl bod hyn oll yn eithafol?
Rwy'n anghytuno.
Yr hyn sy'n eithafol yw caniatáu i blant y dylanwadir arnynt yn hawdd fod yn agored i'r erchyllterau o fewn y rhyngrwyd, a chael eu targedu gan wybodaeth niweidiol neu ddifrïol di-ben-draw dim ond drwy glicied botwm unigol.
Mae graddau'r hegemoni cyfryngau rhannu fideo yn y diwydiant adloniant ieuenctid wedi gwneud y gwaith o'i reoleiddio'n drafferthus tu hwnt. Gyda TikTok yn unig â thros 1 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol, a llawer o'r defnyddwyr hyn yn postio fideos byr lluosog bob dydd, mae i'w weld yn afrealistig - ac yn afresymol - i awgrymu y gallai un corff gymedroli'r llwyfannau hyn. Ond mewn rheoleiddio, gall rhwystr mwyaf y cyfryngau cymdeithasol – ei nifer monolithig o ddefnyddwyr - fod hefyd eu hased mwyaf.
Pam felly, y mae'r system bresennol o adrodd am gynnwys niweidiol wedi methu â diogelu defnyddwyr?
Mor sinigaidd ag y mae'n ymddangos, gall amharodrwydd i ddefnyddio swyddogaethau'r adrodd fod o ganlyniad i ddifaterwch. Heblaw am awydd i ddiogelu defnyddwyr eraill – a all fod yn fyrhoedlog ac â diffyg brwdfrydedd – nid oes unrhyw gymhelliant i gymryd camau yn erbyn cynnwys niweidiol.
Er mwyn cynllunio newid i gyfryngau rhannu fideo i fynd i'r afael â'r syrthni moesol hwn, gallwn edrych ar yr economegydd Richard Thaler, sydd wedi ennill Gwobr Nobel, a'i thesis ynghylch 'Damcaniaeth Ysgogi’. Mae ei ddamcaniaeth yn honni bod newid ymddygiad rheolaidd yn dibynnu ar ysgogiadau, tebyg i wthiadau bach, awgrymiadau bach ac atgyfnerthu cadarnhaol drwy weithredoedd bach a rheolaidd o gadarnhad.
Gallwn gymhwyso'r egwyddor hon i'n hymgais i gymedroli drwy ddefnyddio gwobrau bach pan fydd defnyddwyr yn adrodd am gynnwys niweidiol. Gallai system seiliedig ar bwyntiau lle mae defnyddwyr sy'n cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddiogelu'r gymuned ar-lein yn cael eu blaenoriaethu mewn algorithmau chwilio ac yn gweld eu cynnwys a bostiwyd yn cael ei hyrwyddo uwchben eraill sydd â sgorau diogelu cymunedol is ddarparu gymhelliad i gymedroli ar raddfa unigol. Gallai'r gweithredu cyfunol hwn fod yn sail i ymosodiad o'r gwaelod i fyny ar gynnwys peryglus.
Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y polisi hwn, fodd bynnag, byddai angen iddo fod yn ddiogel rhag camfanteisio.
Yn gyntaf, i rai, byddai cyflwyno'r system hon i'w weld yn gyfle ffrwythlon i gael sylw yn artiffisial a heb ei haeddu drwy gynyddu eu sgôr diogelu cymunedol (efallai drwy adrodd am gynnwys diogel). Yna, rhaid i'r protocolau dyrannu pwyntiau sicrhau mai dim ond cynnwys y cadarnheir ei fod yn beryglus – drwy fecanweithiau sy'n bodoli eisoes – sy'n arwain at roi pwyntiau.
Yn ail, rhaid i'r sgôr diogelu cymunedol beidio ag ymyrryd yn rhy gryf ag algorithmau cyfredol o ran dosbarthu cynnwys. Er y dylai'r system sgorio diogelu cymunedol fod yn gymhelliant sylweddol i gymedroli unigol, rhaid iddo beidio â disodli'r trefniant cydnabyddedig o gynnwys sy'n seiliedig ar farn a dilynwyr. Fodd bynnag, gallai weithredu fel is-faen prawf ar gyfer cysoni cynnwys o fewn grwpiau o gyfrifon sydd â chynulleidfaoedd tebyg.
Yn olaf, er mwyn sicrhau bod y polisi hwn yn annog gwarchodaeth weithredol mewn cymunedau ar-lein yn llawn, rhaid i'r broses o weithredu'r newid hwn fod yn uchel ei chloch – ar ffurf ymgyrchoedd hysbysebu helaeth – ac yn addasol – rhaid teilwra tincran yn aml ag effaith pwyntiau ar y cyfryngau i ddata dadansoddol.
I gloi, dim ond drwy ddefnyddio cymhellion y gellir ysgogi defnyddwyr ar-lein i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gymedroli cynnwys. Y system yr wyf wedi'i chynnig yw'r defnydd mwyaf effeithiol o'r egwyddorion economaidd a drafodwyd. Fodd bynnag, rhaid i'r newidiadau hyn gyd-fynd â newid radical mewn agweddau cymdeithas at gyfrifoldebau llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Fel y haerodd John Maynard Keynes, 'Nid yn y syniadau newydd y ceir yr anhawster, ond wrth ddianc rhag yr hen rai.’
Mae'r enillwyr wedi ennill gwobr daleb o £100 yr un a byddant yn cael eu gwahodd i dreulio diwrnod yn Ofcom i ddysgu mwy am y gwaith a wnawn.
Noder – mae'r ceisiadau hyn i'r gystadleuaeth yn adlewyrchu barn ein hymgeiswyr ac nid ydynt yn adlewyrchu barn Ofcom.