Cyflymder Band Eang: beth sydd angen i chi wybod


Gallwch gael cyflymder wedi ei warantu pan rydych yn siopa am fargen band eang newydd. 

Os yw cyflymder eich band eang yn arafu popeth, mae newid i ddarparwr arall fydd yn gwarantu cyflymder eich rhyngrwyd yn haws nag erioed. Gallech chi arbed arian hefyd hyd yn oed.

Mae Cod Ymarfer Cyflymder Band eang Ofcom yn golygu y dylech gael gwybodaeth gliriach am gyflymder pan fyddwch chi’n prynu gwasanaeth band eang.

Os nad yw eich gwasanaeth yn gallu darparu’r cyflymder a addawyd gan eich darparwr, dylech gysylltu â nhw yn gyntaf. Os yw’r broblem ar eu rhwydwaith nhw ac nid oes modd ei datrys cyn pen 30 niwrnod, mae’n rhaid iddynt ganiatáu i chi adael eich contract heb orfod talu ffi gadael cynnar.

Noder bod y mesurau diogelu a ganlyn yn berthnasol dim ond i’r cwmnïau band eang hyn: BT, EE, NOW Broadband, Plusnet, Sky, TalkTalk, Utility Warehouse, Virgin Media a Zen Internet.

Cyflymder cywir pan fyddwch yn prynu gwasanaeth band eang

Pan fyddwch yn prynu gwasanaeth band eang, fe ddylech chi gael rhywfaint o wybodaeth bwysig heb orfod gofyn amdani. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gywir am gyflymder eich band eang.

Fe ddylech chi gael amcangyfrif o’r cyflymder rydych chi’n debygol o’i dderbyn ar adegau prysur, pan fydd y cyflymder cyfartalog yn aml yn is.  Yr adegau prysur hyn yw rhwng 8 a 10pm ar gyfer gwasanaethau cartref a rhwng 12 a 2pm ar gyfer gwasanaethau busnes.

Gwarant cyflymder gofynnol personol

Dylai eich darparwr bob amser roi isafswm cyflymder wedi’i warantu i chi ar gyfer eich gwasanaeth band eang. Ar gyfer cynnyrch band eang cyflym iawn, mae'r wybodaeth hon nawr wedi ei seilio ar allu'r llinell sy'n eich cartref neu swyddfa, sy'n golygu bydd yn fwy cywir.

Gallwch wirio pa gyflymder rydych chi'n ei gael drwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau sydd wedi ei hachredu gan Ofcom fel Broadband Comparedbroadbanddeals.co.ukbroadband.co.uk. Er mwyn cynnal y prawf cyflymder mwyaf cywir sy'n bosib, defnyddiwch gyfrifiadur neu lechen all gael ei gysylltu â’ch llwybrydd gan ddefnyddio cebl ‘ethernet’, oherwydd y gall wi-fi arafu’r signal.

I gael gwybod pa gyflymder y dylech chi ei dderbyn, gwiriwch eich cytundeb, neu holwch eich darparwr.

Os ydych chi’n meddwl bod eich band eang yn arafach nag y dylai fod, cysylltwch â’ch darparwr er mwyn gweld beth yw’r broblem. Os yw’r broblem ar eu rhwydwaith nhw ac nid oes modd ei datrys cyn pen 30 niwrnod, mae’n rhaid iddynt roi'r hawl i chi adael eich contract heb gosb

Mae’r hawl hon i adael eich contract yn berthnasol hefyd i gynhyrchion ‘wedi’u bwndelu’. Hyd at 21 Rhagfyr 2022, bydd hyn yn berthnasol i wasanaethau wedi'i bwndelu fel gwasanaethau llinell dir ar yr un llinell, neu wasanaethau teledu drwy dalu a brynwyd yr un adeg â'r gwasanaeth band eang. O'r 22 Rhagfyr 2022, bydd y bwndel yn cynnwys unrhyw gynnyrch sydd wedi'u cysylltu'n ariannol, yn gytundebol, neu'n dechnegol.

Cofiwch, os ydych chi ar gontract treigl bob mis, nid yw’r broses hon yn berthnasol i chi. Ond fel rheol, gallwch roi rhybudd (mis fel arfer) er mwyn gadael eich contract beth bynnag.

Ar ôl prynu gwasanaeth band eang

Ar ôl i chi brynu eich gwasanaeth band eang, bydd eich darparwr newydd yn anfon rhywfaint o wybodaeth atoch chi - fel rheol mewn llythyr, e-bost neu yn yr adran ‘eich cyfrif’ ar eu gwefan.

Bydd hyn yn cynnwys eich holl amcangyfrifon cyflymder, manylion am unrhyw bolisïau a allai effeithio ar gyflymder eich band eang, a beth ddylech ei wneud os bydd y cyflymder rydych chi’n ei dderbyn yn is na’r hyn a gafodd ei warantu i chi. Cadwch yr wybodaeth hon yn ddiogel er mwyn i chi droi ati os bydd gennych chi broblem.

Os nad yw eich gwasanaeth yn dechrau ar y dyddiad a gytunwyd, neu os ydych chi wedi colli eich apwyntiad peiriannwr, bydd eich darparwr yn talu iawndal yn awtomatig.

Mwy o wybodaeth

Gall llawer o bethau effeithio ar gyflymder y band eang rydych chi’n ei dderbyn. Cymerwch gip ar ein hawgrymiadau ymarferol ar sut mae gwella cyflymder eich band eang.

Mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yn gosod rheolau ynghylch sut mae cwmnïau yn hysbysebu cyflymder band eang.  Mae’n rhaid iddynt ddangos y cyflymder cyfartalog mae o leiaf 50% o’u cwsmeriaid yn ei dderbyn yn ystod amser prysuraf y rhwydwaith (8-10pm). Os oes gennych chi bryder am hysbyseb band eang, ewch i wefan ASA i gael rhagor o wybodaeth ac i gwyno.

Mae yna rai ffactorau eraill heblaw am gyflymder efallai hoffech chi eu hystyried cyn arwyddo cytundeb. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer cael y bargeinion gorau.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?