Weithiau bydd ffonau symudol yn cael eu ‘cloi’ i’r rhwydwaith y cafodd y ffôn hwnnw ei brynu oddi wrtho. Mae hyn yn golygu mai dim ond drwy ei ddefnyddio gyda’r darparwr penodol hwnnw y bydd y ffôn yn gweithio.
Os ydych chi eisiau newid i ddarparwr gwahanol ond cadw eich ffôn, efallai bydd angen i chi ei ddatgloi.
Efallai byddwch chi hefyd angen datgloi eich ffôn os ydych chi eisiau defnyddio cerdyn SIM lleol yn eich ffôn pan fyddwch chi’n teithio dramor i osgoi costau crwydro.
Mae polisïau cloi ffonau symudol yn wahanol rhwng darparwyr neu maen nhw’n gallu dibynnu ar y math o ddyfais a phecyn sy’n cael eu gwerthu i chi.
Er enghraifft, mae pob un o ffonau symudol EE a BT Mobile, a’r rhan fwyaf o ffonau Voafone yn cael eu gwerthu wedi eu ‘cloi’ i’w rhwydweithiau. Mae Tesco Mobile hefyd yn cloi'r rhan helaeth o’u ffonau symudol talu wrth fynd a rhai o’i ffonau talu’n fisol. Mae ffonau symudol Sky, Three, Virgin Mobile ac O2 oll yn cael eu gwerthu wedi eu datgloi.
Gallwch gael gwybod os ydy eich ffôn wedi’i gloi drwy holi darparwr eich ffôn symudol, neu drwy roi cynnig ar ddefnyddio cerdyn SIM rhwydwaith gwahanol ynddo.
Os cewch chi neges sy’n dweud bod problem ac nad oes modd i chi ffonio, mae’n bosibl bod eich ffôn wedi cael ei gloi.
Os ydy eich ffôn wedi’i gloi gallwch chi ofyn i’ch darparwr ei ddatgloi i chi. Fydd ffonau sydd wedi cael eu riportio fel ffonau coll neu wedi’u dwyn ddim yn cael eu datgloi.
Mae gan ddarparwyr ffonau symudol bolisïau a phrosesau gwahanol ar gyfer datgloi ffonau. Er enghraifft, fydd rhai ond yn datgloi eich ffôn ar ôl cyfnod penodol ac yn codi ffi arnoch chi, a bydd rhai eraill yn datgloi eich ffôn am ddim unrhyw bryd. Os ydych chi ar gytundeb talu wrth fynd, a thu allan i'ch cyfnod contract sylfaenol, fel arfer bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn datgloi eich ffôn am ddim.
Mae’n weddol hawdd datgloi rhai ffonau. Ar gyfer ffonau eraill, mae’r broses yn gallu cymryd mwy o amser yn enwedig os oes yn rhaid i’ch darparwr gysylltu â gwneuthurwr y ffôn i gael y cod datgloi.
Dylai fod manylion am drefn datgloi ffonau symudol ar wefan eich darparwr.
Beth os nad wyf yn defnyddio'r un darparwr?
Efallai byddwch chi eisiau datgloi eich ffôn ar ôl i chi adael eich darparwr. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig y gwasanaeth yma ar yr amod bod y cais i ddatgloi yn cael ei wneud gan gyn berchennog cyfrif y ffôn symudol. Gwiriwch wefan eich darparwr neu siaradwch â'r tîm gwasanaeth cwsmeriaid i ddysgu am y broses sydd angen i chi ei dilyn.