Talu-wrth-ddefnyddio symudol: defnyddio neu golli


Er bod gan bron i bedwar o bob pump o bobl yn y DU gontract erbyn hyn, mae rhai eraill yn dal i ffafrio pecyn talu-wrth-ddefnyddio (PAYG).

Mae pecyn talu-wrth-ddefnyddio yn golygu eich bod yn talu dim ond am y galwadau a negeseuon testun rydych yn eu defnyddio. Hefyd gallwch newid eich pecyn neu ddod ag ef i ben unrhyw bryd.

Gall y pecynnau hyn fod yn hyblyg ac yn gyfleus, yn enwedig i bobl sydd ond yn defnyddio eu ffôn o bryd i'w gilydd.

Er enghraifft, efallai eich bod yn cadw ffôn symudol talu-wrth-ddefnyddio yn y car rhag ofn y bydd yn torri i lawr, neu wedi rhoi un i berthynas hŷn neu blentyn er mwyn iddynt allu ffonio mewn argyfwng.

Ond os nad ydych yn defnyddio’ch ffôn talu-wrth-ddefnyddio o leiaf unwaith bob ychydig o fisoedd, efallai na fydd signal gennych pan fyddwch yn ceisio ei ddefnyddio.

Gall rhifau heb eu defnyddio gael eu hailgylchu

Os nad ydyw rhif talu-wrth-ddefnyddio'n cael ei ddefnyddio i wneud galwad, anfon neges destun neu ddefnyddio data, gall y darparwr symudol stopio'r gwasanaeth ac ailgylchu’r rhif. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y rhifau’n cael eu defnyddio’n effeithlon.

Mae hyd yr amser cyn y bydd darparwr yn pennu bod ffôn yn anactif yn amrywio: i rai darparwyr gall fod cyn lleied â 70 diwrnod tra bod eraill yn aros chwe mis neu ragor. Gwiriwch delerau ac amodau eich darparwr i gael gwybod faint o amser sydd gennych.

Os ydych chi’n poeni y gallai eich ffôn talu-wrth-ddefnyddio gael ei stopio am nad ydych yn ei ddefnyddio ddigon, gofynnwch i'ch darparwr:

  • Faint o amser yw'r cyfnod cyn eu bod yn stopio ffôn sy'n anactif?
  • Beth sy’n rhaid ei wneud i sicrhau bod eich rhif yn parhau’n actif? Oes angen i chi wneud galwad neu a allwch chi ond anfon neges destun neu ddefnyddio data symudol?

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?