Ffioedd ychwanegol


Os ydych chi’n meddwl dechrau contract ffôn symudol newydd neu efallai eich bod eisiau newid cyflenwr eich ffôn cartref, eich band eang neu deledu drwy dalu, yna mae nifer o bethau y dylech chi feddwl amdanyn nhw cyn gwneud y penderfyniad hwnnw. Yn aml nid y pris sy’n cael ei hysbysebu ydy'r unig ffi y byddwch chi’n ei thalu o anghenraid.

Mae’r ffioedd ychwanegol efallai y bydd angen i chi eu talu ar ben y prisiau sy’n cael eu hysbysebu fel rheol am: dalu gydag arian parod neu siec (yn hytrach na drwy ddebyd uniongyrchol), cael biliau manwl neu bapur, talu’n hwyr (neu ddim o gwbl) neu adael eich darparwr cyn i’ch contract ddod i ben.

Mae’r canllaw hwn yn nodi’r pethau y dylech chi eu hystyried cyn llofnodi contract newydd. Ni fydd pob darparwr yn codi ffioedd ychwanegol a gall y ffioedd amrywio. Felly mae hi’n werth chwilio o gwmpas.

Dulliau talu

Ni ddylai fod ffi ychwanegol am dalu gyda cherdyn debyd, cerdyn credyd neu PayPal o 13 Ionawr 2018 ymlaen ar gyfer cwsmeriaid preswyl a busnes o dan gontractau a ddechreuwyd ar neu ar ôl 18 Gorffennaf 2017. Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o daliadau cardiau ac eithrio cardiau corfforaethol (hy cardiau sy’n cael eu rhoi i weithwyr i dalu am wariant busnes fel offer a chyflenwadau swyddfa).

Dylech chi holi a oes ffi ychwanegol am dalu gydag arian parod, siec neu fancio ar-lein/ffôn. Dylai darparwyr ddweud wrthych chi beth ydy'r rhain, ond dylech chi bob amser ddarllen eu telerau ac amodau a’u deunyddiau marchnata. Holwch os nad ydych chi’n siŵr.

Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid preswyl a ddechreuodd gontract ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013 a chwsmeriaid sy’n defnyddio cardiau corfforaethol a ddechreuodd gontract ar neu ar ôl 18 Gorffennaf 2017 hefyd yn cael eu diogelu gan  reolau sy’n datgan na ddylai ffioedd am ddefnyddio dulliau talu penodol wneud dim mwy na thalu'r costau a gaiff y cwmni wrth brosesu’r taliad.

Gadael eich darparwr cyfathrebiadau

  • Holwch i weld a oes unrhyw ffioedd os byddwch chi’n penderfynu gadael eich darparwr cyn diwedd y tymor y cytunwyd arno. Dylech chi gadarnhau’r rhain gyda’ch darparwr ar ddechrau’r contract. Ni ddylai’r ffi fyth fod yn fwy na’r taliadau sydd ar ôl ar y contract, ac fel rheol dylent fod yn llai, i roi cyfrif am y costau y mae’r darparwr yn eu harbed wrth beidio â darparu’r gwasanaeth mwyach;
  • Efallai fod ffi am ganslo eich gwasanaeth band eang hyd yn oed os nad ydych chi dan gontract mwyach. Ni ddylai gostio mwy na’r costau go iawn y mae’n rhaid i’r darparwr eu talu i unrhyw gyfanwerthwr. Dylech chi ymchwilio i hyn pan fyddwch chi’n ymrwymo i gontract; a
  • Dylech chi hefyd holi faint o rybudd bydd angen i chi ei roi i’ch darparwr cyn i chi ganslo eich gwasanaeth. I ddefnyddwyr, ni ddylai hyn fyth fod yn fwy na mis.

Telerau'r contract

Pan fyddwch chi’n llofnodi contract, bydd hwnnw am gyfnod penodol - 12, 18 neu 24 mis fel rheol - a dylai pob darparwr ddweud wrthych chi ar ddechrau’r contract am ba mor hir bydd yn para. Weithiau pan fyddwch chi’n newid eich gwasanaeth mewn rhyw ffordd neu’n symud tŷ, bydd darparwyr yn gofyn i chi a ydych chi’n dymuno ymestyn neu adnewyddu cyfnod eich contract. Dylid egluro hyn i chi a dylid cynnwys hyn yn nhelerau eich contract.

Os ydych chi’n gwsmer preswyl neu’n fusnes bach gwasanaethau llais sefydlog a/neu fand eang sefydlog, ni ddylech chi gael eich trosglwyddo’n awtomatig i gontract arall heb i chi roi eich caniatâd pendant gan fod Ofcom wedi gwahardd yr arfer hwn.

Ffioedd am daliadau hwyr neu fethu taliadau

Weithiau efallai byddwch chi’n methu taliad neu efallai bydd eich debyd uniongyrchol yn methu a bydd eich cyflenwr yn codi ffi arnoch chi. Dylai’r ffioedd hyn ond fod cymaint ag y mae’n ei gostio i’r darparwr fynd ar drywydd a chasglu taliadau hwyr.

Ffioedd bilio

Bydd rhai darparwyr yn codi ffi arnoch os ydych chi’n dymuno cael bil papur yn hytrach na bil ar-lein neu os ydych chi eisiau bil manwl. Dylai eich darparwr nodi’n glir beth ydy'r ffioedd hyn, ond dylech chi eu holi os nad ydynt yn gwneud hyn.