Cyngor i ddefnyddwyr: Sgamiau colli galwadau ‘Wangiri’


Rydyn ni wedi derbyn adroddiadau am gynnydd mewn math o alwadau twyll sy’n cael eu hadnabod fel galwadau ffôn ‘Wangiri’.

Mae’r rhain yn alwadau lle mae’r sgamiwr yn ffonio rhif ffôn person ac yna’n gorffen yr alwad yn syth gan obeithio bydd y derbynnydd yn ffonio nôl.

Os mae’r person yn ffonio’r rhif yn ôl, gallent gael eu cysylltu i rif costus, fel rhif rhyngwladol, sy’n codi ffioedd premiwm.

Mae rhai pobl yn dweud eu bod wedi derbyn nifer o’r galwadau hyn.

Daw’r galwadau’n bennaf o wledydd bach neu sy’n datblygu. Mae’r achosion diweddaraf, er enghraifft, yn cynnwys galwadau sy’n dod o wledydd fel Botswana, Guinea a Guyana. Codau deialu’r rhain yw +267, +224, +592 yn y drefn honno.

Os ydych yn colli galwad wrth rif nad ydych yn ei adnabod -yn arbennig os ydyw o wlad dramor -peidiwch ffonio’r rhif nôl.

Hefyd dylech chi wahardd unrhyw rifau dieithr o dramor neu rifau premiwm a’u rhannu gyda’ch cwmni ffôn er mwyn iddynt archwilio’r mater.

Rydyn ni’n deall mai cwsmeriaid O2 ac EE sydd wedi cael eu targedu hyd yn hyn. Ond dylai cwsmeriaid pob rhwydwaith wirio’u cyfrifon am daliadau diweddar i weld os ydyn nhw wedi talu yn ddiwybod am alw un o’r galwadau hyn.

Os ydych chi’n meddwl bod y sgam yma wedi effeithio arnoch chi, cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted ag sy’n bosibl yn ogystal ag Action Fraud, y ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd am dwyll yn y DU.

Mae gennym hefyd ganllawiau ynglŷn â mynd i’r afael â galwadau a negeseuon niwsans a sgamiau ‘colli galwadau’.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?