Ffôn sydd ar goll neu wedi’i ddwyn


Byddai llawer ohonom ar goll heb ein ffôn symudol.

Yn anffodus, mae miloedd o ffonau’n mynd ar goll bob blwyddyn a bydd llawer ohonynt wedi cael eu dwyn.

Os byddwch yn colli eich ffôn, fe allech chi wynebu problem fwy na dim ond gorfod cael ffôn newydd yn ei le.

Mae nifer o ffonau clyfar yn werth cannoedd o bunnoedd ac mae lladron hefyd yn gallu defnyddio ffonau symudol mewn ffordd sy’n arwain yn gyflym at filiau enfawr.

Efallai y byddwch chi’n atebol am yr holl gostau sydd wedi cronni ar eich ffôn hyd nes byddwch chi’n rhoi gwybod i’ch darparwr ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn. Cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted â phosib er mwyn osgoi wynebu costau uchel oherwydd bod rhywun wedi’i ddefnyddio heb awdurdod.