Sicrwydd rheoleiddiol i gefnogi buddsoddiad tymor hir mewn band eang ffibr llawn

24 Gorffennaf 2018

Bydd band eang ffibr llawn yn dod yn fwyfwy pwysig i bobl a busnesau, wrth iddyn nhw fynnu cael mwy allan o’u gwasanaethau cyfathrebu dros y degawd nesaf ac wedi hynny. Bydd rhwydweithiau ffibr llawn yn chwarae rhan bwysig hefyd wrth leoli gwasanaethau ffonau symudol 5G, sydd â’r nod o ddarparu cyflymder uwch a mwy o gapasiti i ddefnyddwyr ffonau symudol, yn ogystal â braenaru’r tir ar gyfer rhaglenni newydd dyfeisgar.

Yn Chwefror 2016, fe wnaeth Ofcom gyhoeddi ei Adolygiad Strategol o Gyfathrebiadau Digidol. Mae’r adolygiad yn nodi ein strategaeth ar gyfer rheoleiddio'r marchnadoedd cyfathrebiadau hyd at 2026. Mae’n golygu newid strategol pwysig i gymell mwy o fuddsoddi mewn rhwydweithiau ffibr llawn. Ers hynny, rydyn ni wedi gweld nifer o gwmnïau’n ymrwymo i fuddsoddi mewn ffibr llawn.

Mae’r ddogfen hon yn nodi sut rydyn ni'n bwriadu diwygio'r ffordd rydyn ni’n asesu’r gystadleuaeth mewn marchnadoedd telegyfathrebu er mwyn rhoi rhagor o gymorth i fuddsoddiadau yn y rhwydwaith yn y tymor hir. Rydyn ni hefyd yn esbonio'r materion y byddwn ni’n eu hystyried wrth reoli'r newid o rwydweithiau copr i rai ffibr dros y blynyddoedd nesaf.

Sicrwydd rheoleiddiol i gefnogi buddsoddiad tymor hir mewn band eang ffibr llawn Cynllun gweithredu Ofcom ar gyfer band eang ffibr llawn (PDF, 214.5 KB)

Regulatory certainty to support long-term investment in full-fibre broadband: Ofcom’s full-fibre broadband implementation plan (PDF, 534.0 KB)