Uned Monitro Openreach
Trwy waith Uned Monitro Openreach (OMU), mae Ofcom yn sicrhau bod Openreach yn cyrraedd ein digsywliadau o ran sut mae'n ymdrin â'i gwsmeriaid a'i gystadleuwyr ill dau.
Ym mis Mawrth 2017, rhoddodd BT wybod i Ofcom am ei ymrwymiadau gwirfoddol i ddiwygio Openreach ymhellach, gan ei wneud yn gwmni ar wahân gyda’i staff, ei reolwyr, ei bwrpas a’i strategaeth ei hun. Yn wreiddiol, sefydlodd Ofcom Uned Monitro Openreach (OMU) i fonitro cydymffurfiaeth Openreach a BT â’r ymrwymiadau. Bob blwyddyn ers hynny, rydym wedi adrodd am y canfyddiadau o'n gwaith monitro.
Beth mae OMU yn ei wneud
Mae OMU yn monitro Openreach fel ei fod yn:
- parhau i weithredu gan gynnal annibyniaeth strategol rhangach o Grŵp BT, fel y gall ac y bydd yn gweithredu er budd ei holl gwsmeriaid ac nad yw, er enghraifft, yn rhoi blaenoriaeth i frandiau Grŵp BT; a
- bodloni'r gofynion a disgwyliadau rheoleiddio a osodwyd arno gennym yn yr Adolygiad o Farchnad Telathrebiadau Sefydlog Cyfanwerthol (WFTMR) i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau cyfradd gigabit.
Mae ein gwaith yn wahanol i waith rheoleiddio arall Ofcom mewn perthynas â BT ac Openreach. Mae Ofcom yn parhau i gyflawni gweithgareddau polisi a gorfodi'n unol â'r gofynion deddfwriaethol perthnasol ac unrhyw weithdrefnau a gyhoeddir.
Beth nad yw'n ei wneud
Ni fydd yr Uned yn ymwneud â materion unigol sy’n codi rhwng defnyddwyr a BT neu Openreach. Ac er ein bod yn awyddus i glywed gan randdeiliaid am faterion cysylltiedig y gallent fod yn eu hwynebu, ni fydd yr Uned o anghenraid yn datrys materion unigol rhwng cwmnïau a BT neu Openreach. Dylid cyflwyno anghydfodau rheoleiddio rhwng partïon i Ofcom lle bo hynny’n briodol o dan y broses bresennol (PDF, 276.7 KB).
Os oes gennych bryderon am agweddau penodol ar y gwasanaeth a ddarperir gan BT neu Openreach, dylech gysylltu â BT neu Openreach yn y lle cyntaf.
Cysylltu â ni
Rydym yn annog rhanddeiliaid i gysylltu ag OMU os oes ganddynt bryderon am gydymffurfiaeth Openreach âr ymdrwymiadau, neu broblemau sy'n gysylltiedig â'r fframwaith WFTMR.
I gysylltu ag OMU, gyrrwch e-bost OMU@ofcom.org.uk
Adroddiad diweddaraf
Ar 27 Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad monitro blynyddol (PDF, 141.4 KB). Rydym wedi parhau i weld tystiolaeth bod yr ymrwymiadau'n sefydledig ac wedi'u hymwreiddio'n dda ar draws BT ac Openreach.
Mae'r adroddiad hefyd yn ymdrin â ffocws OMU ar graffu ar weithgareddau Openreach yn erbyn y fframwaith WFTMR, yn ogystal ag ystyried nifer o bryderon gan y diwydiant.
BT progress report Nov 2018 (PDF, 1010.7 KB)
Openreach progress report Nov 2018 (PDF, 1.5 MB)
Ofcom/BT Memorandum of Understanding (PDF, 530.1 KB)
Ofcom/Openreach Memorandum of Understanding (PDF, 416.9 KB)
BT’s non-confidential submission on implementation (PDF, 1.3 MB)
Openreach’s non-confidential submission on implementation (PDF, 2.3 MB)