Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Sut mae pobl yn cael gafael ar gynnwys a gwasanaethau ar-lein

05 Tachwedd 2009

Crynodeb gweithredol

  • Prif ddiben yr ymchwil ansoddol ymchwiliol hwn yw edrych ar sut y mae pobl yn asesu cywirdeb, dibynadwyaeth, annibyniaeth a chydbwysedd cynnwys a gwasanaethau ar-lein. Yr ail ddiben yw edrych ar sut y gall canfyddiadau am bresenoldeb neu absenoldeb rheoleiddio ar-lein ategu neu ddylanwadu ar ymddygiad pobl ar-lein.
  • Ar y cyfan cymrodd 122 o bobl (-1-) ran yn yr astudiaeth oedd yn cynnwys trafodaethau grŵp, astudiaeth dyddiadur gyda chyfweliadau i ddilyn ac ymarfer olrhain llygad. Roedd y sampl yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddwyr rhyngrwyd cartref: o ddefnyddwyr ysgafn i drwm a mabwysiadwyr diweddar i ddefnyddwyr hir dymor, beunyddiol o gynnwys ar-lein. 
  • Darganfu’r astudiaeth bod mwyafrif y cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r rhyngrwyd yn fawr iawn ac yn ei weld fel rhywbeth sydd wedi newid eu bywydau. Mae cyfranogwyr hefyd yn gweld ei ochr negyddol ac yn mynegi nifer o bryderon, yn bennaf dros eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu teulu ar-lein. Mae pryderon yn cynnwys firysau cyfrifiadurol, cael eu twyllo, cadw plant yn ddiogel ar-lein yn ogystal â phryderon am wneud rhywbeth yn anfwriadol yn anghyfreithlon fel lawr lwytho cerddoriaeth hawlfraint o safle rhannu ffeiliau. Darganfu’r ymchwil nad oedd pryderon am gywirdeb cynnwys ar-lein yn cael eu mynegi mor aml ac roeddent yn fwy tebygol o gael eu crybwyll mewn perthynas â gweithgaredd fel gwaith cartref neu gyngor meddygol.
  • Os oedd cyfranogwyr yn gwerthuso safle o ran diogelwch neu o ran ei gywirdeb, roeddent yn cael eu dylanwadu gan nifer o ffactorau yn cynnwys faint o brofiad rhyngrwyd oedd ganddynt, eu hyder ar-lein, eu profiad bywyd cyffredinol a’u sgiliau gwybyddol.
  • Yn yr astudiaeth hon dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr eu bod wedi prynu a gosod meddalwedd gwrth firws. Ond y tu hwnt i hynny, roedd y rhan fwyaf yn arddangos lefelau isel o ddealltwriaeth a defnydd ymwybodol o’r offer a ddarparwyd gan ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd (ISPs) neu beiriannau chwilio i wneud y rhyngrwyd yn ddiogelach.
  • Mewn perthynas ag asesu dibynadwyaeth cynnwys ar-lein, darganfu’r astudiaeth hon mai canfyddiad o fod yn gyfarwydd oedd y ffactor pwysicaf. Nid oedd barn bob amser yn farn ymwybodol nac yn un oedd wedi’i feddwl drwyddo. Roedd bod yn gyfarwydd fel pe bai yn digwydd mewn dwy ffordd: i ddechrau, trwy adnabod cyfeiriadau yn ymwybodol (fel enw neu logo cwmni) yn seiliedig ar brofiadau blaenorol ar-lein neu oddi ar-lein ac yn ail trwy farn greddfol cyflym (-2-). Er enghraifft, gall safle newydd edrych yn debyg i safleoedd eraill sydd yn wybyddus i’r cyfranogwyr o ran ei gynllun neu pa mor hawdd yw ei ddefnyddio, neu gall edrych yn debyg i gyfeiriad byd go iawn (fel ffenestr siop yn achos gwefan teithio). Mewn achosion o’r fath, gallai barn greddfol ar adegau arwain at ganfyddiad ffug o fod yn gyfarwydd ac felly hefyd ymddiriedaeth.
  • Dangosodd yr astudiaeth nad argraffiadau cyntaf o anghenraid yw diwedd y broses. Gall ymatebion greddfol cychwynnol gael eu dilyn gan broses werthuso fwy ymwybodol gan ddefnyddio amrediad o sgiliau gwybyddol a gweithrediadol i ryngweithio gyda, ac i werthuso cynnwys ar-lein. Roedd y broses hon yn amrywio yn ôl unigolion ac yn ôl gweithgaredd ar-lein ac roedd yn ymgorffori amrediad o ffactorau: 
  • Roedd y rhain yn cynnwys darllen y safle am arwyddion fel manylion cyswllt daearyddol, gwerthuso golwg a theimlad safle gyda’r cyfranogwyr yn teimlo’n ddiogel gyda ‘chyflwyniad proffesiynol’, neu yn gwirio i weld os yw’r wybodaeth wedi’i diweddaru. I’r rhai oedd yn ymwybodol o symbolau diogelwch roedd y rhain yn rhoi synnwyr o ymddiriedaeth. Ond ychydig o gyfranogwyr a grybwyllodd chwilio am symbol clo fel arwydd o ddiogelwch wrth wneud trafodion ar-lein.
  • Roedd ffactorau eraill yn cynnwys llywio yn hawdd ac enw da. Roedd nifer o gyfranogwyr yn dibynnu ar enw da oddi ar-lein neu argymhellion ar lafar gan ffrindiau neu deulu wrth benderfynu pa safleoedd i’w defnyddio ac ymddiried ynddynt. Roedd rhai cyfranogwyr oedd yn gyfarwydd gyda sut y mae peiriannau chwilio yn gweithio yn teimlo bod gwefannau poblogaidd yn darparu dangosydd da o’r hyn i ymddiried ynddo, ar hyd y llinellau, bod beth sydd yn boblogaidd yn llwyddiannus ac mae beth sydd yn llwyddiannus yn rhywbeth y gellir ymddiried ynddo. Roedd gwirio poblogrwydd safle yn ôl y nifer o ddefnyddwyr yn aml yn cael ei ddyfynnu fel mesur o ymddiriedaeth.
  • Dim ond canran fechan o’r cyfranogwyr a ddywedodd eu bod yn cynnal ymchwil trylwyr neu yn traws wirio yn erbyn ffynonellau eraill fel rheol. I’r rhan fwyaf o gyfranogwyr, wrth ymchwilio a gwirio, roedd hynny fel rheol yn cael ei gyfyngu i gymariaethau prisiau a darllen adolygiadau cyd ddefnyddwyr.
  • Darganfu’r astudiaeth nad yw URL (-3-) safle fel rheol yn cael ei wirio wrth ymweld â safle am y tro cyntaf ac nid yw’n cael ei ddefnyddio chwaith fel cyfeiriad dilynol gan lawer wrth edrych o gwmpas safle newydd a gwneud penderfyniad i ymddiried ynddi ai peidio.
  • Amlygodd yr ymchwil hefyd sut y mae gan awydd cyfranogwyr am gynnwys y potensial i fod yn bwysicach na’r holl ffactorau eraill wrth sefydlu ymddiriedaeth. Felly mae natur diddordeb personol a dyfnder ymgysylltiad emosiynol gyda’r cynnwys yn ffactorau all effeithio ar y broses werthuso. Gall y wobr am bwrcasiad newydd er enghraifft fod yn bwysicach na’r risgiau canfyddedig ynghlwm ag ymgymryd â thrafodiad ar-lein. 
  • O ran ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyfranogwyr o reoleiddio, nid oedd y rhan fwyaf yn meddwl bod y rhyngrwyd wedi’i reoleiddio’n ffurfiol. Roeddent yn deall ac yn derbyn y rhyngrwyd fel y byd go iawn heb unrhyw fecanwaith cyffredinol i’w diogelu. Roeddent yn teimlo bod rhaid iddynt benderfynu drostynt eu hunain beth y gallant ymddiried ynddo a chymryd cyfrifoldeb personol pan maent ar-lein. Ond roedd ychydig o’r cyfranogwyr yn ansicr a oedd y rhyngrwyd wedi’i reoleiddio ac roedd rhai yn dweud eu bod yn tybio bod rhaid iddo gael ei reoleiddio. 
  • Roedd canfyddiad hefyd bod y bobl neu’r cyrff oedd yn darparu gwasanaethau neu gynnwys penodol ar-lein yn gyfrifol am sicrhau bod defnyddwyr yn gallu ymddiried yn eu safleoedd a bod yn ddiogel ar-lein. Hefyd roedd disgwyl i ddefnyddwyr safleoedd sydd yn cyfrannu cynnwys (fel Facebook) ddangos synnwyr cyffredin, integriti a pharch tuag at aelodau eraill o’r gymuned ar-lein.
  • Wrth drafod y syniad o reoliad rhyngrwyd ffurfiol roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn teimlo nad oedd yn ymarferol oherwydd ei raddfa byd-eang, cymhlethdod ac amrywiaeth. Roedd barn gymysg am y syniad: roedd rhai yn teimlo y byddai rheoleiddio yn nod cadarnhaol, er yn afrealistig; roedd eraill yn teimlo y gallai gyfyngu ar ryddid defnyddwyr oherwydd eu bod yn meddwl bod ‘unrhyw beth yn iawn’ ar y rhyngrwyd – ein bod fel unigolion yn cymryd cyfrifoldeb personol ac yn dewis mynd ar-lein ai peidio a pha safleoedd i ymweld â nhw.
  • Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr fodd bynnag yn ymwybodol bod teledu wedi’i reoleiddio’n ffurfiol. Roeddent yn teimlo bod rheoliad teledu yn bwysig oherwydd ei fod yn cynnwys cynulleidfaoedd torfol ac amrywiol sydd yn rhannu digwyddiadau cyhoeddus ac unwaith y mae rhywbeth wedi’i ddarlledu mae’n rhy hwyr i’w gywiro os oes problem. Roedd teledu yn cael ei ystyried yn endid cyhoeddus sydd yn adlewyrchu côd ymddygiad ar y cyd cymdeithas a safonau sydd yn gymdeithasol dderbyniol. Oherwydd hynny roedd cyfranogwyr yn credu ei fod yn haeddu cael ei reoleiddio er mwyn diogelwch unigolion rhag ymyrraeth ddigroeso ac i ddiogelu gwylwyr rhag cynnwys niweidiol neu amhriodol potensial.
  • Ar y cyfan darganfu’r astudiaeth bod cyfranogwyr yn defnyddio barn greddfol a phrosesau manwl, ymwybodol wrth werthuso pa gynnwys ar-lein i ymddiried ynddo. Roedd cyfranogwyr yn meddwl y byddai darparu gwybodaeth ac offer yn ddefnyddiol iddynt wneud penderfyniadau am gynnwys a gwasanaethau ar-lein.

Footnotes:

  1.- Roedd y sampl yn cynnwys 48 o bobl mewn 6 grwp ffocws, 34 o gyfranogwyr y gofynwyd iddynt gadw dyddiadur am bythefnos ac yna fe’u holwyd a 40 o bobl a gymrodd ran mewn ymarferiad olrhain llygad i fonitro beth yr oedd pobl yn edrych arno yn ystod 10 eiliad cyntaf o weld gwefan.

  2.- Mae barn greddfol yn gysylltiedig gyda’r ddamcaniaeth seicolegol o ‘hewristig’ sydd yn berthynol i brtosesu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau. Gellir disgrifio hewristig fel llwybr cyflym mesur y fawd sydd yn caniatau i fodau dynol lunio barn yn gyflym ac yn effeithiol. Mae strategaethau mesur y fawd o’r fath yn caniatau i bobl weithredu heb fod angen maros i feddwl yn barhaus am beth i’w wneud nesaf.

  3.- URL yw Lleolwr Adnawdd Cyffredinol. Mewn geiriau cyffredin mae’n cynrychioli cyfeiriad gwefan ac mae i’w weld yn y bar cyfeiriad wrth ymweld â gwefan. Er enghraifft URL ar gyfer hafan Ofcom yw http://www.ofcom.org.uk.