Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Media Literacy Audit - Report on UK adults’ media literacy

16 Mai 2008

Crynodeb gweithredol

Mae hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau yn gyfrifoldeb a osodwyd ar Ofcom gan Adran 11 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Diffiniad Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau, a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori ffurfiol gyda rhanddeiliaid yw ‘y gallu i gael gafael ar, deall a chreu cyfathrebiadau mewn amrywiol gyd-destunau’. Mae’r adroddiad hwn wedi’i strwythuro yn ôl yr elfennau yn y diffiniad hwn.

Mae cael gafael ar gyfathrebiadau yn cynnwys y nifer sydd yn manteisio ar ddyfeisiadau cyfryngau, swm ac ehangder defnydd.

Mae deall yn cynnwys diddordeb a gallu mewn defnyddio’r nodweddion sydd ar gael ar bob platfform, graddau a lefelau pryderon, ymddiriedaeth mewn cynnwys teledu a chynnwys ar-lein a rheoliadau diogelwch y rhyngrwyd.

Mae creu yn cynnwys hyder pobl o ran ymwneud â chynnwys creadigol a’u diddordeb mewn ymgymryd â thasgau creadigol, yn fwyaf penodol, defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol .

Tra bod bron pawb yn ymwneud â’r cyfryngau i rhyw raddau, mae graddau llythrennedd yn y cyfryngau yn amrywio ar draws y boblogaeth ac mae’r amrywiad hwn yn amlwg ar draws y dair elfen o lythrennedd yn y cyfryngau a amlinellir uchod. Rydym wedi darganfod bod oedran a grŵp cymdeithasol economaidd yn chwarae rhan hanfodol yng ngraddau llythrennedd cyfryngol person.

Mae’r defnydd o dechnolegau cyfryngau ymysg pobl dan 55 oed yn parhau i dyfu. Mae’r rhai rhwng 16-24 oed yn enwedig ar y blaen o ran defnydd, a nhw sy’n elwa fwyaf oddi wrth ddyfeisiadau cyfryngau o ran defnydd yn y cartref, y modd y maent yn defnyddio cyfryngau a’u hyder mewn defnyddio’r amrywiol ddyfeisiadau. Mae cartrefi gyda phlant a’r rhai yn y grwpiau cymdeithasol economaidd AB a C1 hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio cyfryngau.

Yn groes i hyn, mae pobl hŷn, ar y cyfan dros 65 oed, a phobl yn y grwpiau cymdeithasol economaidd C2DE yn tueddu i ymwneud llai â chyfryngau nag eraill yn y boblogaeth.

Mae graddau llythrennedd yn y cyfryngau hefyd yn dibynnu ar ddealltwriaeth pobl o gyfryngau; a ydynt yn deall dylanwadau’r cynnwys a ddefnyddiant, a ydynt yn gwerthuso’r hyn a welant ac a glywant, a ydynt yn bryderus am unrhyw agweddau o’r byd aml gyfryngau y maent yn byw ynddo.

Mae canfyddiadau ein hymchwil yn y maes hwn yn awgrymu nad yw brwdfrydedd pobl ifanc am y cyfryngau newydd a’u sgiliau technegol o anghenraid wedi’i ategu gan ddealltwriaeth dda o’r modd y mae cynnwys cyfryngau’n cael ei gyllido a’i reoleiddio. Yn yr un modd, gall eu hyder wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd olygu nad ydynt o anghenraid yn meddwl yn ddigon beirniadol nac yn cymryd gofal wrth ddefnyddio gwefannau. Gallai hyn eu gwneud yn agored i ddeunydd anaddas neu i risgiau eraill, fel rhai’n berthynol i ddiogelwch eu gwybodaeth bersonol. Gall eu hyder fod yn ganlyniad i’w diffyg hymwybyddiaeth o’r risgiau potensial sydd yn gysylltiedig â defnydd o’r rhyngrwyd.

Mae pobl hŷn a phobl C2DE (yn enwedig DE) yn defnyddio llai o weithrediadau ac maent yn llai tebygol o fod yn hyderus i ddefnyddio amrediad o blatfformau cyfryngau, yn enwedig y rhyngrwyd. Maent yn fwy tebygol o fod yn bryderus am beth sydd ar y rhyngrwyd a’r teledu, ac mae eu pryderon yn cyfyngu ar y modd y maent yn defnyddio gwefannau. Mae hyder (neu ddiffyg hyder) hefyd yn chwarae rhan. O’i gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol, mae’r rhai dros 65 oed yn llai tebygol o ddefnyddio gwefannau newydd nac i werthuso gwefannau newydd y maent yn eu defnyddio yn feirniadol. Maent hefyd yn llai tebygol o rannu eu manylion personol i fynd ar wefannau ac maent yn llai tebygol o ofyn am gefnogaeth dysgu i oresgyn eu pryderon.

Yn gyffredinol mae cyflawni tasgau creadigol angen mwy o sgiliau soffistigedig na darganfod gwybodaeth yn unig, y mae pobl yn fwy hyderus i’w wneud.

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn enghraifft o weithgarwch creadigol ar y rhyngrwyd. Dywed un o bob pump defnyddiwr rhyngrwyd bod ganddynt broffil ar safle rhwydweithio cymdeithasol. Mae pobl yn tueddu i’w defnyddio ar gyfer ystod o weithgareddau, er mai’r prif un yw cyfathrebu gyda phobl y maent yn eu hadnabod.

Cael gafael ar gyfryngau

Mae’r nifer sydd yn defnyddio cyfryngau yn parhau i gynyddu

Mae gan dros bedwar o bob pump person ffôn symudol, teledu digidol neu radio digidol yn y cartref ac mae gan dri o bob pump ryngrwyd yn y cartref. Mae’r nifer sydd â ffonau symudol, teledu digidol a rhyngrwyd wedi parhau i dyfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ynghyd â dyfeisiadau digidol eraill fel chwaraewyr MP3 a DVDs y gellir recordio arnynt. Mae’r twf hwn wedi digwydd ar draws pob grŵp demograffig, ond ar amrywiol lefelau. Y grwpiau sydd wedi profi y twf mwyaf mewn perchnogaeth platfformau lluosog (symudol, teledu digidol a’r rhyngrwyd) yw’r rhai rhwng 20-24 oed a 35-44 oed, pobl sydd yn gweithio a’r rhai’n byw mewn ardaloedd gwledig.

O ganlyniad i’r twf yn y nifer sydd â theledu digidol a rhyngrwyd yn y cartref, mae argaeledd gwasanaethau radio digidol hefyd wedi cynyddu’n sylweddol. Ond, nid yw canran sylweddol o’r rhai sydd â radio digidol yn y modd hwn yn gwrando ar wasanaethau radio digidol. Hefyd bu gostyngiad yn y ganran sydd yn dweud eu bod yn gwrando ar radio, waeth pa blatfform a ddefnyddiant, o 77% yn 2005 i 69% yn 2007.

Yn ogystal ag arwain yn y defnydd o gyfryngau newydd, mae pobl ifanc (dan 35 oed, ond yn enwedig 16-24 oed) hefyd yn cymryd rhan mewn ystod ehangach o weithgarwch cyfryngau, yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd ac yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer ystod eang o weithgarwch na grwpiau demograffig eraill.

Ar draws y boblogaeth yn gyffredinol, mae teledu yn parhau i fod yn brif blatfform cyfryngau, yn berthynol i gyfryngau eraill, a mynegir hyn gryfaf ymysg pobl hŷn a’r grwpiau cymdeithasol economaidd C2DE. Pan ofynnwyd i oedolion pa ddyfais cyfryngau y byddent yn eu colli fwyaf y teledu oedd y ddyfais a enwyd amlaf. Ond, roedd pobl iau yn llai tebygol o enwi teledu. I’r oedolion iau (16-19 0oed) byddai dau o bob pump yn colli eu ffôn symudol fwyaf a byddai un o bob pump yn colli defnyddio’r rhyngrwyd neu wylio teledu fwyaf. Ymysg y rhai 20-24 oed, mae’r ddyfais cyfryngau y byddent yn ei golli fwyaf wedi’i rannu ar draws tair platfform, ac mae un o bob tri yn dweud y byddent yn colli gwylio teledu fwyaf, byddai un o bob pedwar yn colli eu ffôn symudol fwyaf a byddai un o bob pedwar yn colli’r rhyngrwyd fwyaf.

Ers 2005 bu cynnydd ar draws y boblogaeth yn y canran o’r bobl sydd yn dweud y byddent yn colli gwylio teledu, defnyddio ffonau symudol neu’r rhyngrwyd fwyaf. Dros yr un cyfnod o amser, bu gostyngiad yn y rhai sydd yn dweud y byddent yn colli gwrando ar y radio neu gerddoriaeth dros ddyfais hi-fi fwyaf..

Mae pobl hŷn a grwpiau cymdeithasol economaidd yn parhau i ddefnyddio llai ar gyfartaledd

Rhwng 2005 a 2007 cynyddodd y nifer rhwng 2-24 oed oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd a theledu digidol; roedd hyn yn wir hefyd am bobl yn byw mewn ardaloedd gwledig; a hynny ar raddfa cyflymach nag ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol.

Ffigur 1: Twf mewn defnydd yn ôl platfform, 2005 a 2007, yn ôl oedran a grŵp cymdeithasol economaidd

Ymysg pobl hŷn (dros 65 oed) mae’r nifer sydd â theledu digidol wedi cynyddu; ymysg rhai rhwng 65-74 oed mae wedi cynyddu o 56% i 69% ac ymysg y rhai dros 75 oed mae wedi cynyddu o 36% i 58%. Ond, mae’r nifer sydd â theledu digidol ymysg y rhai 64-74 oed a dros 75 oed yn parhau i fod y tu ôl i’r cyfartaledd cenedlaethol (82%). Hefyd mae’r cynnydd ymysg y rhai dros 65 oed sydd â rhyngrwyd yn y cartref dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn is na’r cyfartaledd ar gyfer y DU. Mae hyn yn golygu bod y bwlch rhwng pobl hŷn a’r boblogaeth yn gyffredinol o ran defnyddio’r rhyngrwyd wedi parhau’r un fath, os nad ychydig yn fwy.

Mae’r nifer sydd â theledu digidol a’r rhyngrwyd ymysg pobl yn y grŵp cymdeithasol economaidd DE yn cynyddu ar yr un raddfa â’r cyfartaledd ar gyfer poblogaeth y DU. Ond mae lefelau perchnogaeth teledu digidol (72% vs 82%) a rhyngrwyd yn y cartref (35% vs 62%) yn dal yn is na’r cyfartaledd ymysg y grŵp DE.

Mae pobl heb deledu digidol, rhyngrwyd na ffôn symudol yn y cartref yn fwy tebygol o roi rhesymau gwirfoddol dros beidio â bod yn berchen arnynt. Rhesymau bwriadol fel peidio â bod angen dyfais, neu boddhad gyda dyfeisiadau sydd ganddynt eisoes, yw’r prif resymau a roddir dros beidio â chael dyfais yn hytrach na rhesymau anfwriadol fel fforddiadwyedd a modd o gael gafael arnynt.

  • Teledu digidol – 44% yn rhoi rheswm bwriadol tra bod 12% yn rhoi rheswm anfwriadol
  • Rhyngrwyd yn y cartref – 42% yn rhoi rheswm bwriadol tra bod 24% yn rhoi rheswm anfwriadol
  • Ffôn symudol – 65% yn rhoi rheswm bwriadol tra bod 8% yn rhoi rheswm anfwriadol

Mae’r gweddill yn bwriadu cael y ddyfais yn y 12 mis nesaf neu ddim yn gwybod a fyddent ai peidio

Mae pobl yn defnyddio mwy nag un ddyfais cyfryngau ar yr un pryd

Yn ogystal â chynnydd yn y defnydd o ddyfeisiadau cyfryngau mae pobl hefyd yn defnyddio mwy nag un ddyfais ar yr un pryd. Tra’n gwylio teledu, dywed dau o bob tri pherson eu bod hefyd yn sgwrsio ar y ffôn, yn defnyddio’r rhyngrwyd, yn gwrnado ar gerddoriaeth/radio neu yn chwarae gemau. Dywed tri chwarter eu bod yn defnyddio dyfais cyfryngau arall ar yr un pryd ag y maent yn defnyddio’r rhyngrwyd. Pan fo pobl yn defnyddio dyfais cyfryngau arall tra’n gwylio teledu neu ddefnyddio’r rhyngrwyd, yna ffôn symudol neu ffôn llinell sefydlog yw hynny ar y cyfan.

Unwaith eto mae pobl ifanc ar y blaen yn hyn o beth. Mae presenoldeb plant yn y cartref hefyd yn gysylltiedig gyda defnyddio dyfeisiadau cyfryngau ar yr un pryd.

Deall

Mae pobl hŷn a C2DE yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o weithrediadau a gwasanaethau cyfryngau, na chwaith deall y manteision a bod yn hyderus wrth eu defnyddio

Mae mwyafrif y bobl yn mynegi diddordeb mewn rhai o’r gweithrediadau sydd ar gael ar deledu a radio digidol, y rhyngrwyd a ffonau symudol.

Mae diddordeb a hyder wrth ddefnyddio gweithrediadau rhyngweithiol yn amrywio o fewn a rhwng platfformau. Ond mae’r diddordeb cyffredinolo uchaf ar gyfer gweithrediadau rhyngrwyd a ffonau symudol ac isaf ar gyfer teledu a radio digidol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o weithrediadau y gwnaethom eu hasesu, dywedodd y mwyafrif a fynegodd ddiddordeb yn y gweithrediad eu bod hefyd yn teimlo’n hyderus ynglŷn â’i ddefnyddio (yr eithriadau oedd radio DAB). Ond mae gan grwpiau o bobl ddiddordeb ond dim hyder.

Y rhai sydd â’r lefelau isaf o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth o’r manteision a hyder mewn defnyddio’r gweithrediadau yw’r rhai dros 45 oed, menywod, C2DE, pobl nad ydynt yn gweithio neu rhai heb blant yn y cartref. Mae gan bobl sydd yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon lefelau is o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a hyder hefyd o ran defnyddio’r gweithrediadau, er y gall hyn fod yn berthynol i broffiliau demograffig yn hytrach na gwahaniaethau rhwng gwledydd.

Dywed y rhan fwyaf o bobl eu bod yn gwerthuso gwefannau nad ydynt wedi eu defnyddio o’r blaen ar-lein

Mae nifer o bobl, ond nid pawb, yn dweud eu bod yn gwerthuso gwefannau newydd; maent yn gwneud gwiriadau wrth ymweld â gwefan newydd neu cyn rhoi eu manylion personol. Er enghraifft, wrth ymweld â gwefan newydd mae pobl bellach yn fwy tebygol o wirio pa mor ddiweddar ydy’r wefan (49%) o’i gymharu â 2005 (28%). Mae mwyafrif defnyddwyr y rhyngrwyd yn gwneud rhyw fath o feirniadaeth am wefan cyn rhoi eu manylion personol. Mae ABC1 yn mynegi mwy o bryderon ac yn fwy tebygol o wirio gwefannau newydd, ac eto maent yn fwy parod o roi eu manylion personol wrth gofrestru ar wefan newydd. Gall hyn olygu bod ABC1 yn teimlo yn fwy sicr oherwydd eu bod wedi cynnal gwiriadau cyn penderfynu rhoi eu manylion personol.

Yn groes i hyn C2DE a rhai dros 65 sydd â’r lleiaf o hyder mewn defnyddio’r rhyngrwyd ac nid ydynt fel rheol yn llunio barn wybodus am wefannau; maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud na fyddent fyth yn rhoi eu manylion personol i gofrestru gyda gwefan newydd. Mae lefelau eu defnydd hefyd yn is; efallai o ganlyniad nad ydynt mor debygol o werthuso beth a welant ac oherwydd lefelau is o hyder.

Mae graddfeydd ymddiriedaeth pobl mewn cynnwys yn amrywio yn ôl y genre y maent yn ei weld neu yn ei glywed, neu’r wybodaeth y maent yn ei defnyddio. Wrth edrych yn benodol ar ganfyddiad o newyddion a rhaglenni ffeithiol ar y teledu mae 46% yn credu y rhan fwyaf o’r hyn a welant, dywed 27% bod eu cred yn amrywio yn ôl sianel ac mae 24% yn amheus. Y rhai sydd fwyaf tebygol o gredu newyddion a rhaglenni ffeithiol yw menywod 45-54 oed a C1. Y rhai sydd yn fwy tebygol o fod yn amheus yw dynion a rhai rhwng 16-24 oed.

Mae ymwybyddiaeth pobl o gyllido a rheoleiddio cynnwys yn gwahaniaethu yn ôl platfform ac yn ôl grŵp demograffig. Yn gyffredinol mae pobl yn fwy cyfarwydd gyda’r trefniadau ar gyfer darlledu, yn enwedig teledu a chynnwys y BBC ar deledu a radio. Ond mae mwy o ddryswch am sut y caiff cynnwys gwefannau a ffonau symudol eu cyllido a’u rheoleiddio.

Y rhai rhwng 16-24 oed, sef y rhai yr ydym wedi eu nodi fel y defnyddwyr cyfryngau mwyaf lluosog, yw’r rhai sydd yn lleiaf tebygol o wybod am gyllido a rheoleiddio cynnwys cyfryngau. Maent yn fwy tebygol o feddwl bod cynnwys wedi’i reoleiddio pan nad yw hynny’n wir.

Mae pryder ynglŷn â beth sydd ar y teledu a’r rhyngrwyd wedi cynyddu ers 2005

Gall y cynnydd mewn pryder rhwng 2005 a 2007 fod yn dystiolaeth o ymwybyddiaeth cynyddol pobl o’r hyn y maent yn ei wylio, ei ddarllen a’i glywed. Er enghraifft, dywed y bobl sydd yn fwyaf tebygol o grybwyll eu bod yn bryderus am ddiogelwch ariannol ar-lein eu bod yn cynnal gwiriadau ar wefannau newydd ac yn dod i benderfyniad cyn rhoi eu manylion personol.

Mae pobl yn fwy tebygol o grybwyll rhywbeth y maent yn bryderus ynglŷn ag ef ar y rhyngrwyd nag ar blatfformau eraill. Mae’r canran cyffredinol sydd yn mynegi pryder am y rhyngrwyd wedi cynyddu o 58% yn 2005 i 63% yn 2007. Y pryderon a grybwyllir amlaf yw cynnwys tramgwyddus (57%), risg i gymdeithas/gwerthoedd (38%) a risg i arian a dyfeisiadau (25%). Mae pryder am risg i arian a dyfeisiadau hefyd yn cael ei yrru gan bryderon cynyddol am dwyll hunaniaeth. Fel y crybwyllwyd uchod, adlewyrchir hyn hefyd yn y graddau y mae pobl yn dweud eu bod yn cymryd gofal cyn rhoi eu manylion personol. Y prif dri phwnc yn 2005 oedd cynnwys tramgwyddus (45%), risg i gymdeithas/safonau/gwerthoedd (312%) a risg i breifatrwydd personol (20%)

Ond nid yw’r dystiolaeth yn awgrymu bod y pryderon hyn yn lleihau awydd cyffredinol pobl dros ddefnyddio’r rhyngrwyd. Er enghraifft y bobl sydd yn fwyaf tebygol o grybwyll pryder mewn perthynas â’r rhyngrwyd (BC1, rhai rhwng 35-54, pobl â phlant) yw’r defnyddwyr rhyngrwyd mwyaf lluosog hefyd.

Dywedodd dros hanner y bobl y buom yn siarad â nhw eu bod yn bryderus am yr hyn sydd ar y teledu (55%), cynnydd o 46% yn 2005. Y rheswm dros y cynnydd hwn yw’r cynnydd yn y ganran o bobl oedd yn crybwyll pryderon am gynnwys o ansawdd gwael, o 10% yn 2005 i 35% yn 2007. Y tri pheth a grybwyllwyd amlaf yn 2007 oedd cynnwys o ansawdd gwael (35%), cynnwys tramgwyddus (34%) a peidio ag ymddiried mewn cynnwys/ credu ei fod yn dwyll neu yn un ochrog (7%). Yn 2005 y pryder a grybwyllwyd amlaf oedd cynnwys tramgwyddus (35%) ac yna cynnwys o ansawdd gwael (10%) a risgiau i gymdeithas/gwerthoedd/safonau (7%).

Mae dau o bob pump defnyddiwr rhyngrwyd yn ymwybodol o wasanaethau rhannu ffeiliau ‘am ddim’. Er bod y mwyafrif o bobl yn ymwybodol ei bod yn aml yn anghyfreithlon i lawrlwytho cynnwys o’r gwasanaethau hyn, mae barn yn rhanedig ynglŷn â ddylai hyn fod yn wir. Mae pobl ifanc yn enwedig (16-24 oed) yn cefnogi’r farn na ddylai hyn fod yn anghyfreithlon.

Creu

Ag eithrio uwchlwytho ffotograffau, cymharol ychydig sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol ar-lein

Nid yw cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn gyffredinol ymysg defnyddwyr rhyngrwyd. Ymysg y gweithgarwch creadigol a ystyriwyd yn yr ymchwil, uwchlwytho ffotograffau yw’r unig weithgarwch sydd naill ai wedi’i wneud, neu sydd o ddiddordeb i fwyafrif defnyddwyr rhyngrwyd. Dywed dwy ran o dair o leiaf nad oes ganddynt ddiddordeb yn y gweithgareddau creadigol eraill a drafodwyd, fel creu gwefan neu gyfrannu at wiki [(-1-)]. Mae pobl ifanc 16-19 oed (75%) a rhai rhwng 20-24 oed (74%) yn fwy tebygol na defnyddwyr rhyngrwyd eraill (51%) o fod wedi gwneud gweithgarwch creadigol.

Mae dwy ran o dair o ddefnyddwyr rhyngrwyd yn hyderus y gallant ddefnyddio elfennau creadigol, er nad yw chwarter yn hyderus. Mae’r rhai sydd leiaf hyderus yn fwy tebygol o fod dros 45 oed neu yn fenywod.

Rhwydweithio cymdeithasol oedd y ffenomenon yn 2007 gyda llawer o sylw yn y cyfryngau a meddwl academaidd wedi’i neilltuo iddo. Dywed un rhan o bump o ddefnyddwyr rhyngrwyd bod ganddynt dudalen neu broffil ar safle rhwydweithio cymdeithasol. Yr oedolion iau yw’r mwyaf tebygol o fod â phroffil; dywed dros dri o bob pump o’r rhai 16-19 oed a dau o bob pump o’r rhai 20-24 oed bod ganddynt broffil o’i gymharu â dim ond tri o bob deg person dros 35 oed.

Cyfathrebu gyda phobl y maent yn eu hadnabod yw’r prif weithgarwch ar gyfer defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol meddai pobl. Mae rhai pobl hefyd yn defnyddio’r safleoedd i gyfarfod ffrindiau ffrindiau (35%) a phobl nad ydynt yn eu hadnabod (17%). Mae dros un o bob pump o’r rhai 16-24 oed yn dweud eu bod wedi cyfarfod rhywun ar-lein nad oeddent yn eu hadnabod o’r blaen, canran uwch nag yn y boblogaeth yn gyffredinol.

Dysgu

Mae dysgu anffurfiol yn fwy dymunol na dysgu yn y dosbarth

Dydy’r rhan fwyaf o oedolion heb brofi hyfforddiant am swyddogaethau digidol fel creu cynnwys a gosod rheoliadau mynediad, er bod y ganran sydd wedi derbyn hyfforddiant o’r fath wedi cynyddu o 22% yn 2005 i 27% yn 2007. O ystyried y diffyg profiad hwn o hyfforddiant TCG ffurfiol, nid yw’n syndod bod pobl yn dweud bod yn well ganddynt ddysgu am y cyfryngau trwy ffrindiau a theulu, trwy ddarllen llawlyfrau a thrwy ddysgu trwy eu camgymeriadau. Mae gwahanol grwpiau yn mabwysiadu strategaethau dysgu gwahanol. Er enghraifft mae’n well gan fenywod ddysgu gan ffrindiau a theulu ac mae dynion yn fwy tebygol o ddweud bod yn well ganddynt ddefnyddio llawlyfr, neu ddysgu trwy eu camgymeriadau.

Pobl hŷn (dros 65 oed) sydd leiaf tebygol o fod wedi profi unrhyw ddysgu neu sydd â hoffter am unrhyw ddull dysgu. Mae’r diffyg cyfranogiad hwn, ynghyd â diffyg hyder pobl a’u lefelau is o ddiddordeb a phrofiad o ddefnyddio’r rhyngrwyd, yn cyfyngu yn sylweddol ar y manteision y gallant eu gwireddu o fod â rhyngrwyd yn y cartref.

Agweddau ac ymddygiad

Nododd dadansoddiad o agwedd ac ymddygiad bum grŵp, wedi’u diffinio yn ôl lefel eu hymwneud â phlatfformau cyfryngau

Rydym wedi enwi pum grŵp yn seiliedig ar berthynas pobl gyda dyfeisiadau cyfryngau: Cysylltiedig, Economeiddwyr, Pragmatwyr, Oedwyr a Gwrthodwyr. Dengys ein dadansoddiad bod llythrennedd yn y cyfryngau pobl yn gwahaniaethu yn ôl eu hagweddau tuag at gyfryngau a’u hymddygiad tuag at gyfryngau.

Fel y trafodwyd eisoes rydym wedi nodi bylchau mewn llythrennedd yn y cyfryngau yn ôl demograffeg fel oedran, grŵp cymdeithasol economaidd, a phresenoldeb plant yn y cartref. Wrth edrych ar sut y mae pobl yn gwahaniaethu ar sail eu hagweddau a’u hymddygiad tuag at gyfryngau gallwn nodi sut y gellir mynd i’r afael â’r bylchau amrywiol hyn mewn llythrennedd yn y cyfryngau.

Cysylltiedig(20%)

Pragmatwyr (30%)

Economeiddwyr (8%)

Oedwyr (31%)

Gwrthodwyr (9%)

Y grŵp ieuengaf; mae 58%dan 35

59% rhwng 35 a 64 oed

yr ail grŵp ieuengaf; 52% dan 35

yr ail grŵp hynaf; 53% yn 35- 64, a 29% yn 65 neu drosodd

y grŵp hynaf segment; 71% yn 65 neu drosodd

57% yn ddynion

 

57% yn fenywod

51% yn ddynion

54% yn fenywod

54% yn fenywod

66% yn ABC1

 

69% yn ABC1

60% yn C2DE

57% yn C2DE

67% yn C2DE

73% yn gweithio llawn neu rhan amser

70% yn gweithio llawn neu rhan amser

54% yn ddi-waith

55% yn ddi-waith

84% yn ddi-waith

Y Cysylltiedig A’r Pragmatyddion sydd â’r berthynas gryfaf gyda dyfeisiadau cyfryngau. Mae’r Cysylltiedig yn frwdfrydig iawn am y cyfryngau a sut y mae’n ffitio i’w bywydau. Mae cyfryngau’n chwarae rhan bwysig ym mywydau Pragmatyddion, ond maent yn fwy gweithrediadol yn eu hymagwedd tuag at y cyfryngau nag ydy’r Cysylltiedig. Mae’r ddau grŵp yn weddol hyderus ac yn defnyddio’r sgiliau llythrennedd cyfryngau sydd ganddynt eisoes i benderfynu ar eu defnydd o amrywiol ddyfeisiadau cyfryngau.

Mae gan yr Economeiddwyr, sydd yn tueddu i fod yn iau, berthynas gadarnhaol gyda thechnoleg cyfryngau ond maent yn gyfyngedig i rhyw raddau gan gostau, boed yn ganfyddedig neu yn wirioneddol. Er mwyn annog llythrennedd cyfryngol y grŵp hwn mae angen eu hysbysu ar ddau ffrynt: am y manteision posibl y gallant eu derbyn o wneud y mwyaf o ddyfeisiadau ac am y dewisiadau ar gyfer cael gafael ar a defnyddio cyfryngau yn fforddiadwy. Mae economeiddwyr hefyd angen cefnogaeth i sicrhau eu bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r cyfryngau.

Mae dadansoddiad wedi dangos bod Oedwyr yn ymwybodol nad ydynt yn cael y mwyaf allan o dechnoleg ond mae ganddynt duedd hefyd i anwybyddu technoleg (oherwydd diffyg hyder) yn hytrach nag arbrofi ag ef. Mae cefnogaeth llythrennedd yn y cyfryngau yn debygol o fod o fudd i’r grŵp hwn, yn fwy felly nag unrhyw grŵp arall. Dylai’r gefnogaeth gynnwys helpu’r Oedwyr i ddeall technoleg cyfryngau, gan ddechrau o’r sgiliau sylfaenol a dangos y manteision iddynt.

Y Gwrthodwyr sydd â’r berthynas wannaf gyda dyfeisiadau cyfryngau ac yn dangos ychydig os dim diddordeb mewn newid y sefyllfa; naill ai trwy gael dyfeisiadau, cynyddu eu diddordeb neu hyder mewn defnyddio cyfryngau neu ddod yn feirniadol ymwybodol. Mae diffyg diddordeb y Gwrthodwyr yn wahaniaeth allweddol rhwng y grŵp hwn a’r Oedwyr. Bydd angen i unrhyw gefnogaeth llythrennedd yn y cyfryngau ddarparu rheswm yn y lle cyntaf pam y dylai’r grŵp hwn ddangos diddordeb mewn dyfais arall neu mewn dyfais newydd.

Trefol a gwledig

Ag eithrio perchnogaeth a defnydd rhyngrwyd, ychydig o wahaniaethau sydd rhwng y rhai sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Mae pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod â rhyngrwyd yn y cartref (67%) na’r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd trefol (61%), canlyniad i dwf uwch na’r cyffredin mewn cael rhyngrwyd mewn cartrefi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Er gwaethaf y lefel is o berchnogaeth, mae pobl mewn ardal trefol yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd yn y cartref (8.3 awr yr wythnos o’i gymharu â 7.3 awr yr wythnos) na defnyddwyr gwledig ac yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer ystod ehangach o weithgareddau (3.3 gweithgarwch o’i gymharu â 2.9 gweithgarwch) allan o restr o 18 gweithgarwch), yn enwedig ar gyfer cyfathrebu, a gwaith. Mae pobl mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd i gyfathrebu, chwilio am waith/astudiaethau ac ar gyfer newyddion .

Mae gwahaniaethau trefol/gwledig gyda theledu hefyd. Mae pobl mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o wybod bod rhaglenni teledu wedi’u rheoleiddio. Yn groes i hyn, mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o wybod am y trothwy 9pm.

Gwledydd a rhanbarthau

Ar draws y pedair gwlad a’r rhanbarthau yn Lloegr, mae nifer o nodweddion tebyg yng ngraddfa llythrennedd yn y cyfryngau. Bydd rhai o’r amrywiaethau yn digwydd oherwydd gwahaniaethau demograffig yn hytrach na daearyddol, diwylliannol neu fframweithiau statudol. Er enghraifft yn Llundain mae pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio’u ffonau symudol yn rheolaidd a phan ofynnwyd iddynt, roeddent yn dweud y byddent yn colli eu ffonau symudol neu’r rhyngrwyd fwyaf. Mae hefyd yn nodweddiadol o ymatebion gan rai 16-24 oed.

Nod y crynodebau canlynol yw amlygu’r gwahaniaethau allweddol o’r cyfartaledd DU. Ceir amlinelliad manwl o bob gwlad yn adran 8 o’r adroddiad hwn.

Mae’r ychydig amrywiadau mewn llythrennedd yn y cyfryngau yn y rhanbarthau yn Lloegr yn digwydd yn bennaf oherwydd gwahaniaethau demograffig

Mae poblogaeth Lloegr yn cynnwys 83% o boblogaeth y DU; felly ychydig iawn o enghreifftiau sydd yn bodoli lle mae llythrennedd yn y cyfryngau yn Lloegr yn gwahaniaethu o’r DU yn gyfan. Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau yn y rhanbarthau yn Lloegr.

Mae rhai gwahaniaethau rhanbarthol mewn perchnogaeth dyfeisiadau cyfryngau, ac mae perchnogaeth ffonau symudol uchaf yn Llundain ac isaf yn yr East Midlands. Mae pobl yn fwy tebygol o gael rhyngrwyd yn y cartref yn y De Ddwyrain ac isaf yn y Gogledd Orllewin. Nid yw perchnogaeth teledu digidol yn amrywio ar draws y gwledydd ond yn Lloegr mae teledu digidol yn gymharol llai cyffredin yn yr East Midlands.

Yn y Gogledd Orllewin a’r East Midlands mae pobl yn tueddu i ddefnyddio cyfryngau mwy traddodiadol nag mewn rhanbarthau eraill. Mae pobl yn y Gogledd Orllewin yn fwy tebygol o wylio teledu, tra bod y rhai yn y West Midlands yn fwy tebygol o ddarllen papurau newydd/cylchgronau a gwylio DVDs. Yn wahanol i Lundain, mae pobl yn y Gogledd Orllewin a’r West Midlands yn fwy tebygol o ddweud y byddent yn colli gwylio teledu fwyaf.

Mae pobl yn y Gogledd Orllewin yn fwy tebygol o ddweud eu bod y tueddu i ymddiried yn yr hyn a welant ac a glywant ar y teledu a’r rhyngrwyd na phobl mewn rhanbarthau eraill.

Mae defnyddwyr rhyngrwyd yn Nwyrain Lloegr yn fwy tebygol o fod â phroffil rhwydweithio cymdeithasol a phobl yn y West Midlands yn llai tebygol o fod ag un .

Mae pobl yn yr Alban yn fwy tebygol na phobl yn unman arall yn y DU o ddefnyddio mwy nag un dyfais cyfryngau ar yr un pryd

Mae perchnogaeth teledu digidol, ffonau symudol a’r rhyngrwyd wedi cynyddi yn yr Alban ers 2005 ond mae rhyngrwyd yn y cartref yn dal yn is (51%) na chyfartaledd y DU (62%).

Tra bod gemau electronig [(-2-)] yn is yn yr Alban nag yn y DU (25% vs 31%) mae pobl yr Alban yr un mor frwdfrydig â gweddill pobl y DU gan wario cymaint o amser yn chwarae.

Mae oedolion yn yr Alban yn llai tebygol o ddefnyddio ffonau symudol neu’r rhyngrwyd yn rheolaidd. Mae pwysigrwydd teledu yn amlwg; pan ofynnwyd pa ddyfais y byddent yn ei golli fwyaf, maent yn fwy tebygol o ddweud teledu, o’i gymharu â’r DU yn gyffredinol.

Mae defnyddio mwy nag un dyfais tra’n gwylio teledu neu defnyddio’r rhyngrwyd yn uwch yn yr Alban:

  • Mae 80% o oedolion yn yr Alban yn defnyddio dyfais arall ar yr un pryd â gwylio teledu, o’i gymharu â’r DU yn gyfan (69%);
  • Mae 83% o oedolion yn yr Alban yn defnyddio dyfais arall ar yr un pryd â defnyddio’r rhyngrwyd, o’i gymharu â’r DU yn gyfan (74%);

Ar y cyfan mae llai o bobl yn yr Alban yn crybwyll pryder am y dyfeisiadau cyfryngau allweddol: teledu, rhyngrwyd, radio, ffonau symudol a gemau.

Mae pobl yn yr Alban hefyd yn wahanol i’r DU yn gyffredinol o ran dewisiadau dysgu. Maent yn fwy tebygol o ddweud bod yn well ganddynt ddysgu trwy ffrindiau a theulu neu trwy ddysgu o’u camgymeriadau.

Mae defnyddwyr rhyngrwyd yn yr Alban yn fwy tebygol o fod â phroffil rhwydweithio cymdeithasol (27%) na rhai yn y DU (22%).

Mae pobl yng Nghymru yn llai tebygol o ddefnyddio mwy nag un ddyfais tra’n gwylio teledu neu ddefnyddio’r rhyngrwyd, na’r DU yn gyffredinol

Mae perchnogaeth teledu digidol a ffonau symudol wedi cynyddu’n sylweddol ers 2005 er bod perchnogaeth rhyngrwyd yng Nghymru (53%) yn is nag yn y DU gyfan (62%).

O’i gymharu â’r DU mae pobl yng Nghymru yn llai tebygol o wrando yn rheolaidd ar gerddoriaeth ar chwaraewr HI-FI/CD/tâp ac yn llai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd. Mae pobl yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol na phobl yn y DU yn gyffredinol o ddweud y byddent yn colli’r teledu fwyaf.

Mae pobl yng Nghymru yn llai tebygol na phobl yn y DU yn gyffredinol i ddefnyddio mwy nag un ddyfais ar yr un pryd:

  • Mae 61% of o oedolion yng Nghymru yn defnyddio dyfais arall ar yr un pryd â gwylio teledu o’i gymharu â (69%).
  • Mae 63% o oedolion yng Nghymru yn defnyddio dyfais cyfryngau arall tra’n defnyddio’r rhyngrwyd o’i gymharu â’r DU (74%).

Mae pobl yn mynegi lefel tebyg o bryder am gynnwys a dyfeisiadau cyfryngau yn gyffredinol ag eithrio beth sydd ar y teledu; mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol na’r cyfartaledd DU i fod â phryderon am yr hyn sydd ar y teledu.

Mae lefelau ymddiriedaeth mewn cynnwys teledu a rhyngrwyd yn is yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol; dywed bron i hanner (49%) nad ydynt yn ymddiried yn yr hyn a welant a glywant ar y teledu, o’i gymharu â 41% yn y DU. Maent yn fwy tebygol o gytuno nad oes ots sut y caiff gwefannau eu cyllido (62%) o’i gymharu â chyfartaledd y DU (52%).

Er bod perchnogaeth rhyngrwyd yn y cartref yn gymharol i gyfartaledd y DU mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn treulio llai o amser ar y rhyngrwyd

Mae perchnogaeth aml blatfformau yng Ngogledd Iwerddon yn debyg i gyfartaledd y DU. Mae perchnogaeth teledu digidol, ffonau symudol a rhyngrwyd wedi cynyddu yn sylweddol ers 2005 gyda lefelau yn debyg i’r DU yn gyffredinol (52%).

Er bod cael rhyngrwyd adref a defnydd rhyngrwyd ar lefelau tebyg i weddill y DU mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn tueddu i dreulio llai o amser ar y rhyngrwyd nag mewn mannau eraill o’r DU. Maent hefyd yn fwy tebygol o sôn yn ddigymell am rhywbeth sydd yn eu pryderu ar y rhyngrwyd (59%) o’i gymharu â chyfartaledd y DU (54%).

Er gwaethaf perchnogaeth isel gemau electronig yng Ngogledd Iwerddon (23%) o’i gymharu â’r DU (31%), mae pobl yn fwy tebygol o grybwyll pryder am gemau (29% vs 22%).

Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn mynegi lefel uwch o ddiffyg ymddiriedaeth yn yr hyn a welant ac a glywant ar y rhyngrwyd. Mae dau o bob pump (41%) yn anghytuno eu bod yn tueddu i ymddiried yn yr hyn a welant neu a glywant ar y teledu o’i gymharu â’r DU (31%).

Troednodiadau:

1.- Wiki yw meddalwedd sydd yn caniatau i ddefnyddwyr cofrestredig neu unrhyw un i greu, golygu, cysylltu as threfnu cynnwys gwefan ar y cyd, fel rheol ar gyfer deunydd cyfeirio

2.-mae gemau electronig yn cynnwys consolau gemau llaw, consolau gemau wedi’u cysylltu i deledu, gemau cyfrifiadur ar-lein, gemau cyfrifiadur ar PC neu gemau CD ROM

Mae’r ddogfen lawn ar gael isod