Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Archwiliad Llythrennedd yn y Cyfryngau - Adroddiad ar lythrennedd yn y cyfryngau plant y DU

16 Mai 2008

Crynodeb gweithredol

Mae hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau yn gyfrifoldeb a osodwyd ar Ofcom gan Adran 11 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Diffiniad Ofcom o lythrennedd cyfryngau, a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori ffurfiol gyda rhan ddeiliaid yw ‘y gallu i gael gafael ar, deall a chreu cyfathrebiadau mewn amrywiol gyd-destunau’. Mae’r adroddiad hwn wedi’i strwythuro yn ôl yr elfennau yn y diffiniad hwn.

  • Mae cael gafael ar gyfathrebiadau yn cynnwys y nifer sydd yn manteisio ar ddyfeisiadau cyfryngau, swm ac ehangder defnydd .
  • Mae deall yn cynnwys diddordeb a gallu mewn defnyddio’r nodweddion sydd ar gael ar bob platfform, graddau a lefelau pryderon, ymddiriedaeth mewn cynnwys teledu a chynnwys ar-lein a rheoliadau diogelwch y rhyngrwyd.
  • Mae creu yn cynnwys hyder pobl o ran ymwneud â chynnwys creadigol a’u diddordeb mewn ymgymryd â thasgau creadigol, yn fwyaf penodol, defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.

Mae plant ymysg y grwpiau mwyaf brwdfrydig mewn cymdeithas o ran eu defnydd o amrediad eang o gyfryngau. Mae cartrefi gyda phlant yn llawer mwy tebygol o fod ag amrediad ehangach o dechnolegau na chartrefi heb blant. Mae ein dadansoddiad hefyd yn dangos mai oedran, rhyw a grŵp cymdeithasol economaidd yw’r pethau allweddol i benderfynu pa fathau o gyfryngau a ddefnyddir, lle y cânt eu defnyddio a sut y cânt eu defnyddio.

Wrth ddeall llythrennedd yn y cyfryngau plant, mae’n bwysig ystyried ym mha gyd-destun y maent yn defnyddio cyfryngau, yn enwedig yn y cartref. Am y rheswm hwn rydym wedi dal ac olrhain gwybodaeth fanwl ynglŷn â pha gyfryngau sydd gan blant adref, naill ai mewn mannau y mae pawb yn eu rhannu neu yn eu hystafelloedd gwely eu hunain, a sut y maent yn defnyddio ac yn ystyried yr offer hwn. Lle mae’n bosibl rydym hefyd yn edrych ar y defnydd y tu allan i’r cartref.

Mae’r tirwedd cyfryngau yn y cartref wedi parhau i ddatblygu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mynediad i, a’r defnydd o’r rhyngrwyd yn arbennig wedi cynyddu’n sylweddol ers yr Archwiliad diwethaf. Wrth i natur mynediad plant i gyfryngau newid, felly hefyd y mae’r modd y mae plant yn defnyddio ac yn cyfuno cyfryngau yn newid. Yn rhan gyntaf yr adroddiad hwn rydym yn trafod y newidiadau hyn ac yn edrych pa grwpiau sydd wedi’u heffeithio fwyaf a pham.

Gan fod amrediad a math o gyfryngau sydd ar gael mewn cartrefi yn amrywio’n sylweddol i bob plentyn, felly hefyd y mae gallu rhieni i ymdopi gyda galwadau’r dechnoleg hon – rydym yn edrych ar y defnydd o reolau, dealltwriaeth ac anghenion gwybodaeth yn fanylach yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.

Cael gafael ar gyfathrebiadau

Cynnydd yn y defnydd a’r modd o gael gafael ar gyfryngau allweddol, gwahaniaethau yn ôl oedran a rhyw

Ar draws y DU rydym yn parhau i weld cynnydd yn y nifer sydd yn defnyddio cyfryngau allweddol a thechnolegau mwy newydd, yn enwedig y rhyngrwyd, ffonau symudol, chwaraewyr MP3 a chamerâu digidol, mewn cartrefi lle mae plant.

Mae’r defnydd o rai cyfryngau allweddol, yn cynnwys teledu, consolau gemau a’r rhyngrwyd, wedi’u hen sefydlu erbyn bod plentyn yn 5 oed; tra bod swm ac amrediad y defnydd o gyfryngau yn cynyddu gydag oedran, mae’n cael ei yrru yn bennaf gan gynnydd mewn defnydd o ffonau symudol a rhyngrwyd. Mae lefelau uchel o weithgarwch cyfryngau mewn ystafelloedd gwely plant ers 2005 (3% o’i gymharu â 9% i blant 8-11 oed a 13% o’i gymharu â 20% i blant 12-15 oed). Mewn gwirionedd mae ystafelloedd gwely plant yn dod yn gynyddol yn ganolfannau aml gyfryngau ac mae gan blant 12-15 oed ar gyfartaledd chwe dyfais cyfryngau yn eu hystafelloedd gwely ac mae gan blant 8-11 bedwar ar gyfartaledd.

Mae tua dwy ran o dair o blant yn tueddu i wylio teledu, gwrando ar y radio a defnyddio’r rhyngrwyd mewn ystafell heb oedolyn yn bresennol. Mae defnyddwyr solo yn cynnwys 16% o blant 8-15 oed sydd yn gwylio teledu a 14% o’r holl blant 8-15 oed sydd yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae’r cydberthynas  rhwng oedran a’r defnydd o ffonau symudol yn neilltuol o gryf, gyda’r canran o blant sydd yn defnyddio ffonau symudol yn dyblu bron rhwng 9 oed( 52%) a 15 oed (95%). Yn 2005 gwelsom gynnydd amlwg yn y defnydd o ffonau symudol rhwng 10 ac 11 oed, yn 2007 mae’r cynnydd yn fwy graddol ac mae’n cychwyn ar oedran cynharach gyda lefelau defnydd sylweddol uwch ymysg plant 9 a 10 oed; mae plant yn cael ffonau symudol yn iau ac yn eu defnyddio’n amlach.

Mae patrymau ymddygiad a dewis o gyfathrebiadau yn amrywio’n fawr yn ôl rhyw; mae bechgyn o bob oedran yn fwy tebygol na merched o ddefnyddio consolau gemau ac i ddyfynnu’r cyfryngau hyn fel y cyfrwng y byddent yn ei golli fwyaf. Dewis cyfryngau merched iau yw teledu, ond mae merched hŷn yn defnyddio llawer mwy ar ffonau symudol ac maent yn fwy tebygol o golli eu ffôn symudol nag unrhyw gyfrwng arall.

Mae cyfathrebu hefyd yn yrrwr allweddol o ran defnydd o’r rhyngrwyd ymysg merched hŷn; maent yn llawer mwy tebygol na bechgyn hŷn o ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer cysylltu â phobl eraill (84% o’i gymharu â 75% yn defnyddio’r rhyngrwyd o leiaf unwaith yr wythnos ar gyfer negeseuon ar y pryd a 79% o’i gymharu â 64% yn defnyddio’r rhyngrwyd unwaith yr wythnos o leiaf ar gyfer rhwydweithio cymdeithasol.Defnydd llai o’r rhyngrwyd yng nghartrefi’r grŵp cymdeithasol economaidd C2DE

Tra bod defnydd o’r rhyngrwyd a’r modd o gael gafael arno yn parhau i gynyddu yn gyffredinol, mae gwahaniaeth amlwg rhwng y defnydd o’r rhyngrwyd mewn cartrefi yn ôl grŵp cymdeithasol economaidd (ABC1 86% o’i gymharu â C2DE 63%). Mae bron pob plentyn yn cael gafael ar ac yn defnyddio’r rhyngrwyd mewn rhyw ffordd ond mae’r rhai yn y grŵp cymdeithasol economaidd CD2E yn fwy tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd y tu allan i’r cartref yn unig (ABC1 12% o’i gymharu â CD2E 31%); yn bennaf yn yr ysgol ond hefyd yng nghartrefi plant sydd â chysylltiad rhyngrwyd.Defnydd o gyfryngau ar y pryd yn cynyddu, yn enwedig ymysg plant hŷn

Bu cynnydd yn lefelau defnydd pob cyfrwng ers 2005, yn enwedig y rhyngrwyd a radio (ar draws pob oedran) a ffonau symudol (ymysg plant hŷn). Mae hyn yn arwydd o dueddiad allweddol arall: mae plant yn defnyddio mwy nag un ddyfais ar yr un pryd. Mae hyn yn arbennig o gyffredin ymysg plant hŷn sydd â ffôn symudol a modd o ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Mae teledu yn parhau’n blatfform allweddol i blant: mae mynediad yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o blant yn ei wylio’n ddyddiol ac mae’n parhau yn weithgarwch y byddai plant yn ei golli fwyaf ar draws pob oedran. Ond mae patrymau defnydd cyfredol yn awgrymu bod teledu yn gorfod cystadlu fwyfwy am sylw gyda phresenoldeb cynyddol a defnydd ar yr un pryd o dechnolegau eraill, yn enwedig y rhyngrwyd. Mae hyn yn bendant yn wir o ran plant hŷn a’r rhai mewn cartrefi ABC1.

I’r gwrthwyneb mae cynnydd yn y defnydd o’r rhyngrwyd hefyd yn chwarae rôl hanfodol mewn cynyddu’r rhyngweithio gyda chyfryngau eraill, yn cynnwys teledu; mae rhyngweithio gyda’r teledu ar y cyfan wedi dirywio ond mae rhyngweithio gyda gwefannau rhaglenni wedi cynyddu, yn ddi-os oherwydd dylanwad y defnydd ar yr un pryd o deledu a rhyngrwyd.

Mae plant hefyd yn dechrau defnyddio’r rhyngrwyd fwyfwy ar gyfer gwylio rhaglenni teledu, ffilmiau neu glipiau fideo; mae bron i un o bob pump plentyn yn dweud eu bod yn gwneud hyn o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos, er bod canran llawer uwch, tua un o bob tri, yn dweud eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd i lawr lwytho fideos cerddoriaeth neu gynnwys wedi’i greu gan ddefnyddwyr. Efallai bod gan y math hwn o ryngweithio gweithredol trwy gyfrwng gwefannau y potensial i gynyddu lefelau cyfranogiad a newid natur perthynas plant gyda’r cyfryngau hyn.

Deall

Mae ymddiriedaeth mewn cynnwys teledu yn amrywio yn ôl genre

Mae ymddiriedaeth plant mewn rhaglenni teledu yn amrywio yn ôl y math o raglen (43% o rai 8-11 oed a 47% o rai 12-15 oed). Mae lefelau uwch o ymddiriedaeth ar gyfer newyddion a rhaglenni natur (dros 80% ymysg plant 8-15 oed) nag ar gyfer rhaglenni teledu realiti (dan 50% ymysg plant 8-15 oed).

Ar lefel gyffredinol mae plant yn hawlio eu bod yn ymddiried mewn cynnwys ar-lein (59% o 8-11 oed a 61% o 12 15 oed). Ond mae dadansoddiad pellach yn awgrymu darlun mwy cymhleth gyda llai nag un mewn deg plentyn yn cytuno’n gryf eu bod  yn credu’r rhan fwyaf o’r hyn a welant ar y rhyngrwyd, mae hyn yn awgrymu bod plant ar ryw lefel yn gwerthuso’r cynnwys a welant ar-lein.

Mae dros hanner y plant rhwng 12 – 15 oed hefyd yn gwneud rhyw fath o wiriad wrth ymweld â gwefan newydd; er enghraifft trwy ofyn i eraill, gwerthuso golwg a theimlad y wefan, adolygu pa mor ddiweddar ydy hi neu ystyried pwy sydd wedi creu’r safle a pham.

Gall y gwahanol lefelau o ymddiriedaeth mewn cynnwys rhyngrwyd a theledu adlewyrchu rolau a defnydd gwahanol y ddau blatfform; mae’r rhyngrwyd yn llawer mwy tebygol o gael ei ddefnyddio i chwilio am wybodaeth nag ydy’r teledu, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer hwyl ac ymlacio..Mae gan blant a rhieni amrywiol bryderon ynglŷn â’r defnydd o gyfryngau

Y peth y mae plant yn ei gasáu fwyaf am deledu yw bod yno ormod o hysbysebion; mae 47% o blant 8-11 oed a 57% o blant 12-15 oed yn casáu'r nifer o hysbysebion a welant ar y teledu. Er bod hyn ar lefelau cymharol isel dywedodd rhai plant eu bod yn gweld a chlywed pethau ar y teledu sydd yn gwneud iddynt deimlo’n drist, yn ofnus neu yn gwneud iddynt deimlo’n chwithig (19% o blant 8-11 oed a 12% o blant 12 - 15 oed) neu eu bod yn ystyried eu bod yn rhy hen iddynt.(11% o blant 8-11 oed a 7% o blant 12-15 oed).

Y peth y mae plant yn ei gasáu yn fwyaf cyffredinol ynglŷn â’r rhyngrwyd yw bod gormod o hysbysebion yn neidio’i fyny (41% o blant 8-11 oed a 41% o blant 12-15 oed). Er bod hyn ar lefelau cymharol isel. Fel gyda theledu, mae rhai plant yn gweld a chlywed pethau ar-lein sydd yn eu dychryn, yn eu gwneud yn drist neu yn gwneud iddynt deimlo’n chwithig (8% o blant 8-11 oed, a 9% o blant 12-15 oed) neu eu bod  yn ystyried eu bod yn rhy hen iddynt (12% o blant 8-11 oed a 8% o blant 12-15 oed)

Mae’n werth nodi nad yw’r cynnwys y mae plant yn ddweud y maent yn ei gasáu o anghenraid yn gynnwys y dylid eu cysgodi rhagddo. Er enghraifft gall gweld lluniau o dlodi neu greulondeb at anifeiliaid fod yn drist neu yn ddychryn, ond maent yn amlygu materion y gellid dadlau y dylai plant fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae’r rhan fwyaf o blant yn hyderus ynglŷn â defnyddio’r rhyngrwyd ac mae canran uchel yn hawlio y gallant bob amser ddarganfod yr hyn y maent yn chwilio amdano (94%); mae’r rhai sydd yn fwy hyderus ynglŷn â defnyddio’r rhyngrwyd yn llai tebygol o ddatgan eu bod wedi gweld rhywbeth ar y rhyngrwyd sydd wedi achosi pryder iddynt.

Mae rhieni yn fwy tebygol na phlant i boeni am y platfformau cyfryngau allweddol, er nad yw lefelau cyffredinol o bryder yn ymddangos yn neilltuol o uchel; mae llai nag un o bob deg rhiant yn ystyried y rhyngrwyd fel un o’u prif bryderon ac o ran teledu, mae hyn yn syrthio i lai nag un mewn ugain.

Mae tensiwn amlwg yn rôl y rhyngrwyd i rieni sydd yn ei weld fel y platfform mwyaf manteisiol a’r mwyaf pryderus a ddefnyddir gan eu plant. Pan ofynnwyd iddynt yn uniongyrchol mae’r mwyafrif yn cytuno bod y manteision yn fwy na’r peryglon (70% o rieni plant 8-11 oed a 75% o rieni plant 12-15 oed).Mae plant yn rhannu pryderon cyhoeddus am gemau treisgar

Mae barn plant am gemau yn neilltuol o ddiddorol. Mae tua dwy ran o dair o blant hŷn yn cytuno bod trais mewn gemau yn effeithio ar ymddygiad pobl y tu allan i’r gêm a bod gan drais mewn gemau fwy o effaith ar ymddygiad pobl na thrais ar deledu neu ffilmiau.. Mae lefelau uchel o gytundeb am gael rheoliadau ar gonsolau sydd yn gallu cyfyngu ar y gemau a chwaraeir yn ôl oedran.

Er nad yw ymchwil hyd yn hyn wedi profi’n derfynol bod cysylltiad rhwng gemau treisgar ac ymddygiad treisgar mewn plant, mae plant eu hunain yn amlwg yn rhannu’r pryder cyhoeddus ehangach am y pwnc hwn. Ffactor posibl yn hyn yw’r lefel barhaus uchel o sylw yn y cyfryngau am droseddau treisgar lle yr honnir bod gemau treisgar wedi bod yn ffactor.Diffyg rheolau ar y defnydd o gyfryngau mewn rhai cartrefi

Nid oes gan bron i un o bob deg rhiant sydd â phlant yn defnyddio mwy nag un platfform unrhyw reolau ar ddefnydd eu plant o’r cyfryngau; mae’r rhain yn fwy tebygol o fod yn rhieni plant hŷn mewn cartrefi DE.

Dywed tuag un rhan o dair o rieni nad oes ganddynt bryderon am unrhyw un o’r platfformau cyfryngau; unwaith eto roedd y rhain yn rhieni plant hŷn a’r rhai o’r grŵp cymdeithasol economaidd C2DE. Mae rhieni bechgyn hefyd yn llai tebygol na rhieni merched i fod â phryderon.

Hefyd mae plant sydd yn tueddu i wylio teledu neu i ddefnyddio’r rhyngrwyd ar eu pennau’u hunain, yn aml yn eu hystafell wely, yn llai tebygol o fod â rheolau na’r rhai sydd yn gwylio gydag eraill (71% o’i gymharu â 84%), er bod hyn yn cael ei ddylanwadu i ryw raddau gan blant hŷn yn fwy tebygol o fod yn defnyddio’r dyfeisiadau hyn ar eu pennau’u hunain.
Yn gyffredinol dim ond ychydig dan un rhan o dair o rieni sydd yn defnyddio PIN neu reolaeth cyfrinair i gyfyngu ar wylio teledu eu plant. Ers 2005 bu cynnydd sylweddol mewn ymwybyddiaeth/defnydd rhieni o PIN ar gyfer teledu aml sianeli ymysg rhieni plant iau (25% o’i gymharu â 31%).

Nid oes gan dros hanner o gartrefi gyda rhyngrwyd feddalwedd blocio neu reoliadau eraill dros fynediad ar-lein. Mae’r nifer o gartrefi sydd yn defnyddio darpariaethau diogelwch o’r fath wedi syrthio ers 2005, mewn cartrefi plant 8-11 oed (55% i lawr i 50%) a chartrefi plant 12-15 oed (51% i lawr i 43%). Y prif reswm pam nad oes gan rieni reoliadau o’r fath yw eu cred yng ngallu eu plentyn i hunan reoli eu hymddygiad ar y rhyngrwyd (54% o rieni plant 8-11 oed a 72% o rieni plant 12-15 oed).

Creu

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn cynyddu gweithgarwch creu

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol n yrrwr allweddol o awydd a gallu plant i greu cynnwys ar-lein ac rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y math hwn o ymddygiad creadigol ers 2005 o ganlyniad i gynnydd ym mhoblogrwydd  safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Mae cynnydd mewn dyfeisiadau recordio fel ffonau camera, camerâu digidol, chwaraewyr MP3 a gwecam hefyd yn ffactor yn y tueddiad hwn. Mae dros hanner y plant rhwng 12-15 oed sydd â rhyngrwyd yn y cartref yn datgan bod ganddynt broffil rhwydweithio cymdeithasol.

Mae merched yn fwy tebygol na bechgyn i gymryd rhan mewn  ystod o weithgareddau ar-lein creadigol yn enwedig y rhai’n berthynol i gyfathrebu neu rannu cynnwys gyda phobl eraill. Mae cymryd rhan mewn rhwydweithio cymdeithasol wedi dod yn weithgarwch poblogaidd yn gyflym ac yn beth cymdeithasol ymysg plant. Er bod safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn cael eu defnyddio yn bennaf fel offeryn cyfathrebu i reoli cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli mae lleiafrif sylweddol yn eu defnyddio i gyfathrebu gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod (11%).

Ymysg nifer o ddefnyddwyr safleoedd rhwydweithio cymdeithasol mae diffyg ymwybyddiaeth neu bryder am faterion diogelwch potensial. Mae nifer yn teimlo nad ydynt yn agored i unrhyw risgiau potensial a hyd yn oed pe bai ganddynt broblemau, yna byddent yn gallu delio â nhw.

Ar yr un pryd mae canran sylweddol o blant yn parhau i fynegi diffyg diddordeb mewn gweithgarwch creadigol; dywed un rhan o dair ohonynt nad oes ganddynt ddiddordeb mewn creu proffil safle rhwydweithio cymdeithasol ac nid oes gan hanner ohonynt ddiddordeb mewn creu cynnwys fel gwneud ffilmiau byr, cynhyrchu albwm lluniau neu ysgrifennu blogiau

Dysgu

Mae plant hŷn yn fwy tebygol na phlant iau i ddysgu am dechnoleg ddigidol yn yr ysgol. Ers 2005 bu cynnydd yn y plant 8-11 oed sydd yn adrodd eu bod wedi cael gwersi am deledu (er enghraifft sut y mae rhaglenni teledu’n cael eu gwneud, talu amdanynt) a chynnydd yn y plant 12-15 oed sydd yn adrodd eu bod wedi cael gwersi am y rhyngrwyd (er enghraifft, sut mae’r rhyngrwyd yn gweithio, sut i ymchwilio ar y rhyngrwyd neu sut i osgoi gwefannau nad ydych eisiau eu gweld).

Trefol a gwledig

Er nad yw lefelau cyffredinol y defnydd o gyfryngau yn amrywio’n sylweddol rhwng plant sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig a threfol, mae gwahaniaethau diddorol wedi ymddangos o ran y patrymau defnyddio. Mae’r defnydd o ffonau symudol yn sylweddol uwch ymysg plant sydd yn byw mewn ardaloedd trefol o’i gymharu â’r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig (87% o’i gymharu â 83%) tra bod y defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn uwch ymysg plant mewn ardaloedd gwledig (61% o’i gymharu â 54%).

Cenhedloedd

Mae rhai gwahaniaethau diddorol wedi ymddangos rhwng plant sydd yn byw mewn gwahanol genhedloedd yn y DU:

  • Ers 2005 bu gostyngiad yn y canran o rieni yn Lloegr sydd â rheolau ar gyfer defnydd eu plant o’r rhyngrwyd (o 86% i 79%) a defnyddio ffôn symudol (o 75%i 69%). Yn yr Alban yn yr un cyfnod bu cynnydd sylweddol yn y nifer o rieni sydd yn dweud bod ganddynt reolau ar gyfer pob platfform. O ganlyniad, mae’r rheolau ar gyfer y defnydd o blatfformau cyfryngau allweddol yn yr Alban yr un fath ag ar gyfer y DU gyfan.
  • Yn gyffredinol mae rhieni yng Ngogledd Iwerddon yn fwy tebygol na’r DU ar y cyfan i gael rheoliadau ar gyfer cynnwys teledu (64% o’i gymharu â 52%) a chynnwys rhyngrwyd (78% o’i gymharu â 67%). Mae cartrefi gyda theledu digidol yng Ngogledd Iwerddon yn fwy tebygol o fod wedi gosod rheoliadau i gyfyngu’r sianeli sydd ar gae; ac mae gosod rheoliadau teledu digidol wedi cynyddu ers 2005. Maent hefyd yn fwy tebygol na’r DU gyfan i fod â rheolau am ddefnyddio’r rhyngrwyd ac i gael rheoliadau rhyngrwyd neu feddalwedd blocio.
  • Mae plant yn yr Alban (81%) ac yng Nghymru (84%) yn tueddu i fod yn hyderus wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ac yn fwy tebygol na phlant y DU gyfan (75%) i ddweud y gallant bob amser ddarganfod beth y maent yn chwilio amdano ar-lein. Mae plant yng Ngogledd Iwerddon yn llai hyderus y gallant ddarganfod beth y maent yn chwilio amdano bob amser ar-lein (60%)
  • Ym mhob un o genhedloedd y DU mae’r nifer o blant sydd yn dweud eu bod yn cael gwersi am y rhyngrwyd wedi cynyddu ers 2005. Ond o’i gymharu â chyfartaledd y DU (74%) mae plant yng Nghymru (66%) ac yng Ngogledd Iwerddon (59%) yn llai tebygol o ddweud eu bod yn cael gwersi yn yr ysgol am y rhyngrwyd.

Ceir y ddogfen lawn Saesneg isod.