Adroddiad: Dewis y darparwr band eang, symudol a llinell dir orau

10 Awst 2023

Dyma seithfed adroddiad blynyddol Ofcom ar sut mae lefelau gwasanaeth yn cymharu ar gyfer cwsmeriaid preswyl ar draws y diwydiant telathrebu.

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â phrofiadau cwsmeriaid yn 2021. Yn gyffredinol roedd lefelau boddhad cwsmeriaid yn uchel, yn benodol ar gyfer gwasanaethau symudol, er bod hyn wedi gostwng ers 2021. Mae rhai agweddau ar ansawdd y gwasanaeth wedi gwella; er enghraifft, mae maint y cwynion a wnaed i Ofcom wedi gostwng o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, bu cynnydd yng nghanran y cwsmeriaid a oedd â rheswm dros gwyno ar gyfer gwasanaethau llinell dir a symudol.

Parhaodd boddhad ar drin cwynion ar yr un lefel ag yn 2021 ac mae lle i wella o hyd. At hynny, mae amserau aros ar alwad a chyfraddau gadael galwad cyfartalog wedi codi ers 2021. Ar amser pan fydd llawer o gwsmeriaid wedi profi ymchwydd sylweddol mewn prisiau, mae'n hanfodol bod darparwyr yn gwneud mwy i wella'r gwasanaeth i gwsmeriaid a rhoi trin cwsmeriaid yn deg wrth wraidd eu busnes.

Mae Ofcom yn cynnig lleihau amlder y tri offeryn tracio Cymharu Gwasanaeth Cwsmeriaid - yr Offeryn Tracio Boddhad Cwsmeriaid, yr Offeryn Tracio Rheswm dros Gwyno a'r Offeryn Tracio Ymdrin â Chwynion - i bob yn ail flwyddyn. Ar ôl gwneud gwaith maes ar gyfer yr arolygon yn 2022, byddem yn symud i donnau bob dwy flynedd o waith maes o 2024.

I gael mwy o wybodaeth am y newid hwn, darllenwch ein hysbysiad o newidiadau (PDF, 268.5 KB). Os ydych chi'n credu y byddai'r newid yn achosi unrhyw broblemau i'ch sefydliad, e-bostiwch marketresearch@ofcom.org.uk erbyn 9am ar 27 Gorffennaf 2023.

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg.

Adroddiad llawn

Adroddiad rhyngweithiol

Atodiadau

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?