Hygyrchedd Canllawiau Rhaglenni Electronig (EPG) 2022

03 Mai 2022

Mae pobl sydd â namau gweledol yn gwylio cymaint o deledu â phobl eraill ond maent yn wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio canllawiau rhaglenni ar setiau teledu (sy'n cael eu galw'n ganllawiau rhaglen electronig neu 'EPG') i dod o hyd i raglenni a'u gwylio.

Mae'r Cod EPG (PDF, 233.7 KB) yn nodi disgwyliad Ofcom y dylai canllawiau rhaglenni electronig gynnwys nodweddion chwyddo testun, cyferbyniad uchel, hidlo neu amlygu rhaglenni hygyrch a swyddogaethau 'testun i leferydd' fel y gall pobl anabl eu defnyddio.

Dyma ein pedwerydd adroddiad blynyddol ers y diwygiadau i'r Cod EPG yn 2018. Rydym wedi cydnabod yn flaenorol ei fod yn cymryd amser i weithredu'r newidiadau gofynnol. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl erbyn hyn y bydd darparwyr EPG wedi gweithredu'r nodweddion gofynnol neu fod ganddynt gynlluniau pendant i wneud hynny, pan fo'n ymarferol.

Rydym yn ddiolchgar i RNIB am sefydlu grŵp ffocws eleni sydd wedi galluogi ni i ymgysylltu â defnyddwyr y nodweddion hyn a deall yn well sut y maent yn gweithio'n ymarferol ar gyfer defnyddwyr ar draws ystod o ddyfeisiau a ddefnyddir i gyrchu'r EPG (e.e. setiau teledu cysylltiedig neu flychau pen set).

Crynodeb o gynnydd

  • Mae pob darparwr bellach yn cynnig sgriniau cyferbyniad uchel. Mae amlygu cynnwys hygyrch ar gael yn helaeth ond nid yw wedi cael ei weithredu eto gan YouView.
  • Dim ond Digital UK sy'n darparu hidlo ar gyfer cynnwys darlledu, nodwedd sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan ddefnyddwyr â nam ar y golwg sy'n chwilio am raglenni â disgrifiadau sain.
  • Bu rhywfaint o gynnydd wrth weithredu nodweddion testun i leferydd ('TTS'), sydd hefyd yn cael ei alw'n 'EPG siarad'. Mae Sky bellach yn darparu TTS ar draws yr holl flychau Sky Q ac mae Digital UK yn cynnig datrysiad blaengar sy'n defnyddio EPG ar wahân a gyrchir trwy sianel 555 ar bron pob dyfais Freeview Play. Mae darparwyr eraill yn defnyddio swyddogaethau ar wahân systemau gweithredu symudol, rhai setiau teledu clyfar (Freesat) neu integreiddio â thaclau cymorth digidol megis Amazon Alexa (YouView), nad ydynt eto'n cynnig swyddogaethau sy'n gyfwerth â TTS.

Dylai darparwyr EPG:

  • gynnwys tystiolaeth fanylach yn eu hadroddiadau ar sut y maent wedi gwneud 'ymdrechion rhesymol' i roi'r nodweddion hygyrchedd gofynnol ar waith
  • canolbwyntio ar weithredu swyddogaethau hidlo a TTS
  • ymgysylltu â grwpiau defnyddwyr

Bydd Ofcom yn:

  • parhau i ofyn i ddarparwyr EPG ddarparu gwybodaeth wirfoddol am fesurau ychwanegol y maent wedi'u cymryd i wella rhwyddineb mynediad ar draws eu rhyngwyneb i ddefnyddwyr
  • cychwyn trafodaethau bord gron i hyrwyddo cydweithio a rhannu arfer gorau rhwng darparwyr EPG a rhyngddynt hwy a'u partneriaid gweithgynhyrchu.

Adroddiad ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig 2022 - Trosolwg (PDF, 162.3 KB)