Gwasanaethau rhaglenni teledu ac ar-alw: Adroddiad gwasanaethau mynediad 2021 (Channel 4)

28 Ionawr 2022

Mae Ofcom wedi penderfynu lansio ymchwiliad, yn dilyn methiant estynedig y llynedd yn eu gwasanaethau isdeitlo, disgrifiadau sain ac arwyddo (sydd ar cyd yn cael eu galw'n 'wasanaethau mynediad'.)  Er bod Channel 4 wedi llwyddo i fodloni ei gwotâu blynyddol statudol ar gyfer gwasanaethau mynediad yn 2021, ni gyflawnodd y darlledwr ei gwota ar gyfer isdeitlau ar y llwyfan lloeren Freesat. Yn ogystal ag ymchwilio i hyn, a'r amgylchiadau cysylltiedig, rydym yn cynnal adolygiad ehangach o drefniadau darlledu a chyfleusterau wrth gefn Channel 4 a'r darlledwyr eraill yr effeithiwyd arnynt ar adeg y methiant.

British Sign Language video transcript: Television Access Services Report 2021 (Channel 4)  (PDF, 84.8 KB)

Ym mis Medi 2021, bu diffyg mewn canolfan ddarlledu a redir gan Red Bee Media a achosodd aflonyddwch sylweddol i weithrediadau nifer o ddarlledwyr, gan gynnwys darpariaeth eu gwasanaethau mynediad (isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain). Mewn perthynas â gwasanaethau mynediad, effeithiwyd gwaethaf ar Channel 4, gyda methiant estynedig ar eu sianeli darlledu a ddechreuodd ar 25 Medi 2021 ac na chafodd ei ddatrys yn llawn tan 19 Tachwedd 2021.

Oherwydd arwyddocâd y broblem a'r amser a gymerodd i'w datrys, rydym wedi symud ymlaen dyddiad cyhoeddi'r data a ddarperir gan Channel 4 yn nodi lefel y ddarpariaeth isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain ar sianeli Channel 4 yn 2021 yn erbyn eu gofynion.

Pennwyd lefel y gwasanaethau mynediad y mae'n rhaid i sianeli penodol eu darparu gan Senedd y DU o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae'n rhaid i'r sianeli hyn sicrhau bod isafswm cyfrannau o gyfanswm eu horiau rhaglennu'n cynnig darpariaeth gwasanaethau mynediad benodol dros gyfnod o 12 mis.

Nodir cwotâu a pherfformiad gwirioneddol gwasanaethau Channel 4 yn 2021 isod.

Camau nesaf

Mae Ofcom wedi penderfynu lansio ymchwiliad i dan-ddarpariaeth Channel 4 o is-deitlo ar y llwyfan Freesat a'r amgylchiadau cysylltiedig, gan gynnwys i ba raddau yr oedd Channel 4 wedi hyrwyddo ymwybyddiaeth o argaeledd eu gwasanaethau mynediad ar draws ei holl sianeli a llwyfannau yn ystod cyfnod y methiant.

Er i ni gydnabod bod Channel 4 wedi bodloni eu gofynion eraill, o ganlyniad i or-berfformiad y tu allan i gyfnod y methiant, mae gennym bryderon o hyd am y digwyddiad hwn. Fe arweiniodd at fethiant hir yn y ddarpariaeth o wasanaethau mynediad Channel 4 ac amharodd yn ehangach hefyd ar eu darllediadau cyffredinol. Effeithiwyd ar nifer o ddarlledwyr eraill hefyd gan y diffyg yn Red Bee Media, ond i raddau llai arwyddocaol.

Felly rydym hefyd yn cynnal adolygiad o drefniadau trawsyrru a chyfleusterau wrth gefn Channel 4 a'r darlledwyr yr effeithiwyd arnynt ar adeg y methiant, a pha newidiadau y maent wedi'u gwneud o ganlyniad iddo. Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen cymryd camau rheoleiddio pellach i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau mynediad dibynadwy i gynulleidfaoedd yn parhau – ni waeth pa bethau a allai ddigwydd i'r seilwaith darlledu a ddefnyddir i'w darparu.