Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Argaeledd gwasanaethau cyfathrebu yn y DU

18 Mawrth 2013

Crynodeb gweithredol

1.1 Mae'r adroddiad hwn yn archwilio i sut a pham mae argaeledd gwasanaethau cyfathrebu'n amrywio ledled y DU a sut y gellid ei wella. Rydym yn ystyried argaeledd saith gwasanaeth cyfathrebu: llais sefydlog, band eang sefydlog, llais symudol, band eang symudol, teledu digidol, radio a phost.

1.2 Mae argaeledd gwasanaethau cyfathrebu'n bwysig oherwydd bod cyfathrebu digidol yn rhan fwyfwy annatod o fywyd bob dydd. Mae gwasanaethau cyfathrebu'n darparu adnoddau gwleidyddol, addysgol, diwylliannol ac economaidd hanfodol i ddefnyddwyr. Maent yn rhoi cyfle i fusnesau wella effeithlonrwydd, datblygu gwasanaethau newydd, a chyrraedd marchnadoedd newydd. Maent hefyd yn ei gwneud yn bosibl darparu dull newydd a mwy effeithiol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion.

1.3 Wrth galon y newid hwn yw'r defnydd helaeth o'r rhyngrwyd. Mae cael mynediad band eang at y rhyngrwyd, sefydlog a symudol, yn hollbwysig i sicrhau y gellir manteisio i'r eithaf ar y buddion hyn ac yn cael eu mwynhau gan gynifer â phosibl o aelodau o gymdeithas.

1.4 Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod rhai gwasanaethau cyfathrebu ar gael yn eang ledled y DU:

1.4.1 Mae gwasanaethau post a theleffoni sefydlog yn destun rhwymedigaethau gwasanaethau cyffredinol (RhGC - USO) ac felly maent ar gael ledled y DU gyfan bron.
1.4.2 Mae teledu daearol digidol ar gael hefyd ar draws y DU i gyd bron, gan fod y newid i'r digidol wedi'i gwblhau erbyn hyn, sy'n sicrhau bod darllediadau gwasanaethau cyhoeddus sydd ar gael am ddim ar gael yn eang. Mae teledu lloeren hefyd ar gael yn eang.

1.5 Fodd bynnag, mae amrywiadau sylweddol yn y gwasanaethau cyfathrebu eraill sydd ar gael:

1.5.1 O ran cael mynediad band eang sefydlog i'r rhyngrwyd, mae llawer mwy o amrywiaeth o ran argaeledd a chyflymder. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr amrywiaeth yn y cyflymder a ddarperir gan fand eang y genhedlaeth gyfredol, ac yn rhannol oherwydd bod darparu band eang cyflym iawn yn dal ar y gweill, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig.
1.5.2 Mae'r un peth yn wir am wasanaethau symudol, llais a data. Hyd yn oed lle mae'r ddarpariaeth symudol awyr agored a ddarperir i gartrefi'n dda, mae heriau penodol yn gysylltiedig â'r ddarpariaeth y tu mewn i adeiladau, ar ffyrdd ac ar y rheilffordd.
1.5.3 O ran radio, er bod y ddarpariaeth analog ar gael ymhobman bron, nid felly radio digidol DAB.

1.6 Mae'r amrywiadau'n fwyaf amlwg rhwng ardaloedd trefol a gwledig, a hefyd rhwng gwledydd a rhanbarthau gwahanol y DU.

Canfyddiadau

1.7 Efallai nid yn annisgwyl, mae rhan fwyaf o'r amrywiaeth rhwng y gwledydd a'r rhanbarthau yn bodoli i bob pwrpas oherwydd bod rhannau o'r DU yn fwy gwledig na'r rhannau eraill. Unwaith i ffactorau megis dwysedd y boblogaeth a natur y dirwedd (bryniau, dyffrynnoedd ac adeiladau) gael eu hystyried, mae'r tebygolrwydd o gael darpariaeth dda yn gymharol debyg rhwng gwahanol rannau o'r DU.

1.8 Ein dull yw hyrwyddo marchnadoedd cystadleuol sy'n gweithredu'n dda fel y brif ffordd o ddarparu ansawdd, dewis a phrisiau isel i ddefnyddwyr ac ysgogi arloesedd ymysg darparwyr. Gall deinameg cystadleuaeth hefyd ddarparu lefelau uchel o argaeledd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy trefol, sy'n cael ei ddangos gan y ffaith bod band eang cyflym iawn wedi'i ddarparu'n sydyn iawn yn ddiweddar i oddeutu dwy ran o dair o'r wlad.

1.9 Fodd bynnag, os nad yw marchnadoedd yn darparu'r canlyniadau gorau posibl i gymdeithas yn gyffredinol, gall gwahanol gyrff cyhoeddus weithredu ac maent yn gwneud hynny. Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sawl astudiaeth achos, er mwyn ystyried effeithiolrwydd ymyriadau o'r fath.

1.10 Mae'r dadansoddiad hwn yn awgrymu y gall ymyriadau, os cânt eu cynllunio a'u cyflenwi'n dda, wneud gwahaniaeth sylweddol iawn mewn cyfnod byr. Mae ymyriad yr Adran Menter, Masnach a Buddsoddiad (DETI) i ddarparu band eang cyflym iawn yng Ngogledd Iwerddon yn enghraifft glir iawn o hyn. Roedd DETI wedi amcangyfrif y byddai band eang y genhedlaeth nesaf yn cyrraedd 50-60% yn unig o fusnesau yng Ngogledd Iwerddon heb ymyrraeth. Trwy ymyrraeth, llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth band eang cyflym iawn i 95%. Mae hyn yn arwydd cynnar o ganlyniad posibl y rhaglen ar draws y DU sy'n cael ei rheoli gan BDUK.

Sylwadau

1.11 Mae ardaloedd sydd heb elwa'n flaenorol ar gyflwyno masnachol yn fwy tebygol o ddioddef diffygion marchnad yn y dyfodol. O ganlyniad, gall cyrff cyhoeddus sydd wedi ymyrryd i estyn argaeledd yn y gorffennol ddisgwyl wynebu'r un pwysau i wneud hynny eto yn y dyfodol. Os gellir rhagweld hyn yn llwyddiannus, gall fod yn bosibl cynllunio ymyriadau yn ddigon cynnar er mwyn sicrhau nad oes rhaid i'r ardaloedd hynny geisio dal i fyny bob amser â gweddill y DU.

1.12 Lle mae cyrff cyhoeddus yn ymyrryd, y brif her yw sicrhau cynaliadwyedd a gwerth am arian. Dylai ymyriadau gael eu targedu'n ofalus ar ardaloedd lle na fydd y farchnad yn sicrhau argaeledd, heb ystumio cystadleuaeth mewn ardaloedd lle mae'r farchnad yn gweithredu'n dda. Does dim rhaid i ymyriadau bob amser ymwneud â gwario arian cyhoeddus. Gall newidiadau i ddeddfau cynllunio, er enghraifft, leihau costau adeiladu rhwydweithiau cyfathrebu, gan wella argaeledd.

1.13 Mae'r fframweithiau i fynd i'r afael ag argaeledd cyffredinol yn cael eu gosod orau o hyd gan gynrychiolwyr etholedig. Rôl Ofcom yn y cyd-destun hwn yw sicrhau bod y wybodaeth ofynnol ar gael i gyfrannu at y ddadl, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd y rôl hon.

1.14 O fewn y fframwaith hwn, bydd y cyfrifoldeb dros weithredu i wella argaeledd yn dibynnu ar natur yr ymyrraeth sy'n cael ei hystyried. Os bydd angen arian cyhoeddus a chymhorthdal i ymestyn argaeledd, penderfyniad i lywodraeth leol, llywodraeth ddatganoledig a llywodraeth ganol fydd hynny. Yn yr un modd, mae rhwymedigaethau gwasanaethau cyffredinol (USO) yn cael eu gosod gan swyddogion etholedig a fydd yn gorfod ystyried pa wasanaethau ddylai fod yn destun USO yn y dyfodol ac ar ba lefel. Mae'r drefn gynllunio yn faes arall lle mae'r cyfrifoldeb gan swyddogion etholedig.

1.15 Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod amrywiaeth eang o wasanaethau cyfathrebu electronig, teledu, radio a phost ar gael yn eang ledled y DU. Ac er nad yw'r gallu gennym i gyflawni'r ddyletswydd hon drwy ddefnyddio arian cyhoeddus, mae gennym rai dulliau pwysig at ein defnydd, gan gynnwys, er enghraifft, y gallu i osod rhwymedigaethau darpariaeth (coverage obligations) ar drwyddedau symudol.

Mentrau Allweddol

1.16 Mae sawl cynllun pwysig gan y Llywodraeth sy'n ceisio gwella'r gwasanaethau band eang a symudol sydd ar gael ledled y DU.

1.17 Y cyntaf yw ymrwymiad y Llywodraeth i ddarparu band eang cyflym iawn i o leiaf 90% o adeiladau yn y DU a mynediad cyffredinol at fand eang safonol gyda chyflymder o 2Mbit/s o leiaf. Maent wedi neilltuo £530m rhwng 2011/12 a 2014/15 i ysgogi buddsoddiad masnachol yn y gwaith cyflwyno, gyda phrosiectau unigol yn y Rhaglen Band Eang Gwledig hon yn gyfrifoldeb i awdurdodau lleol a gweinyddiaethau datganoledig. Derbyniodd y Llywodraeth ganiatâd cymorth gwladwriaethol ym mis Tachwedd 2012 ar gyfer y cytundebau fframwaith y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i ddyfarnu contractau o dan y cynllun hwn, ac mae contractau bellach yn cael eu llofnodi.

1.18 Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu hyd at £150m ar gyfer y 0.3% o adeiladau yn y DU nad oes ganddynt dderbyniad symudol ar hyn o bryd, a hynny o dan brosiect seilwaith symudol (MIP) DCMS. Dylai'r prosiect seilwaith symudol (MIP) sicrhau y bydd oddeutu dwy ran o dair o'r safleoedd hyn yn derbyn gwasanaeth symudol o 2015 ymlaen, a disgwylir y bydd yn cynyddu'r ddarpariaeth 2G i 99.9% o safleoedd. Mae MIP hefyd yn ceisio gwella'r ddarpariaeth ar hyd o leiaf 10 o'r ffyrdd prysuraf yn y DU lle mae'r derbyniad yn dal yn wael.

1.19 Er mwyn lleihau costau cyflwyno seilwaith newydd, mae'r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi nifer o ddiwygiadau i ddeddfau cynllunio. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau i leihau'r beichiau gweinyddol y mae cwmnïau yn eu hwynebu wrth osod cabinetau band eang ar y stryd ac wrth osod ceblau ar dir cyhoeddus a phreifat. Mae'r Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda chwmnïau gwasanaethau symudol, llywodraeth leol a phartïon eraill sydd â diddordeb i symleiddio'r broses gynllunio er mwyn cyflymu'r gwaith o sefydlu seilwaith symudol.

1.20 Mae'r arwerthiant 4G diweddar yn enghraifft o Ofcom yn defnyddio rhwymedigaethau darpariaeth mewn trwyddedau i gyflymu ac ehangu'r gwaith cyflwyno. Roedd un o lotiau'r sbectrwm 800 MHz - sy'n arbennig o addas ar gyfer darparu lefelau uchel o ddarpariaeth a derbyniad - yn cynnwys rhwymedigaeth i ddarparu derbyniad dan do i 98% o safleoedd yn y DU a 95% o safleoedd ymhob gwlad. Dyfarnwyd y drwydded hon i Telefónica (O2) ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn sicrhau darpariaeth awyr agored i oddeutu 99.5% o safleoedd a 98-99% o'r safleoedd ymhob gwlad. Rydym yn disgwyl y bydd y rhwymedigaeth hon yn gwella'r ddarpariaeth mewn sawl ffordd:

1.20.1 Oherwydd bod Vodafone a Telefónica wedi cytuno i rannu seilwaith, dylai rhwymedigaeth darpariaeth (coverage obligation) Telefónica wella darpariaeth Vodafone hefyd a thrwy hynny leihau mannau di-gyswllt rhannol.
1.20.2 Bydd defnyddwyr sydd â diddordeb mawr mewn darpariaeth yn gwybod bod o leiaf un cwmni sy'n darparu darpariaeth arbennig o dda ledled y DU. Mae mantais Telefónica o ran darpariaeth yn debygol o sbarduno cwmnïau eraill i ymestyn eu darpariaeth eu hunain i lefelau gweddol debyg er mwyn gallu cystadlu'n effeithiol am ddefnyddwyr.
1.20.3 Mae'n debyg y bydd y diwydiant yn gwneud mwy o ddefnydd o gyfarpar 2G/3G/4G cyfun. Felly, lle bynnag y cyflwynir rhwydweithiau 4G, rydym hefyd yn disgwyl y bydd cyfarpar 2G a 3G yn cael ei osod ochr yn ochr, gan leihau mannau di-gyswllt llais.

1.21 Gyda'i gilydd, credwn y bydd y mesurau hyn yn arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth ac ym mhrofiad y defnyddwyr yng nghyswllt gwasanaethau symudol a band eang dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.