Y Farchnad Gyfathrebu: Cymru
Cymru ar y blaen o ran argaeledd band eang cyflym iawn
Llawrlwythwch gopi yma (PDF, 4.2 MB)
Yn ôl Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu 2015 a gyhoeddwyd heddiw, o blith y gwledydd datganoledig, Cymru sydd ar y blaen o ran y gwasanaethau band eang cyflym iawn sydd ar gael.
Mae 79% o eiddo yng Nghymru yn gallu cael gwasanaethau cyflym iawn ar gyflymder o 30Mbit yr eiliad erbyn hyn, cynnydd o 24 pwynt canran ers 2014 (55%).
Mae defnyddwyr yng Nghymru yn ymateb i'r cynnydd hwn ac mae'r nifer sydd â band eang sefydlog yng Nghymru yn uwch erbyn hyn ar 77% nag yn yr Alban (71%) a Gogledd Iwerddon (69%), wedi cynyddu o 69% yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Cynyddodd y nifer sy'n manteisio ar y rhyngrwyd yng Nghymru hefyd rhwng 2014 a 2015 i oddeutu 17 cartref o bob 20 (86%) o'i gymharu â 85% ar draws y DU. Roedd hyn yn chwe phwynt canran o gynnydd ar ffigur 2014 (80%).
Cyflwyno'r rhaglen Cyflymu Cymru ar draws Cymru yw'r rheswm pennaf dros y cynnydd yn y ffigurau hyn.
Mae Cyflymu Cymru yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a BT. Ei nod yw hybu'r gwaith o gyflwyno band eang ffibr drwy ddarparu mynediad at fand eang ffibr yn yr ardaloedd hynny nad yw'r sector preifat yn bwriadu buddsoddi ynddynt.
Dechreuwyd cyflwyno Cyflymu Cymru yn 2013, ac erbyn mis Mawrth 2015 roedd y prosiect wedi sicrhau bod band eang ffibr ar gael i dros 425,000 eiddo.
Mae nifer yr oedolion yng Nghymru sy'n berchen ar ddyfeisiau tabled wedi parhau i gynyddu, gan gyrraedd 60% o gartrefi, o'i gymharu â llai na hanner (45%) y llynedd, gan fynd y tu hwnt i'r cynnydd yn y DU yn gyffredinol (54%).
Mae'r nifer sy'n berchen ar ffôn clyfar yng Nghymru yn aros sefydlog yn 2015, sef chwech ym mhob deg oedolyn, yn unol â'r cyfartaledd yn y DU.
Yn ôl Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu 2015, yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf ond un yn y gwasanaeth 4G sydd ar gael yng ngwledydd y DU rhwng mis Mehefin 2014 a mis Mai 2015.
Dros y cyfnod hwn, cynyddodd canran yr eiddo mewn ardaloedd â darpariaeth 4G symudol yn yr awyr agored 18.4 pwynt canran yng Nghymru i 62.8%, er mai hwn oedd y ganran isaf ar draws gwledydd y DU.
Mae gan ychydig o dan chwarter (23%) yr oedolion yng Nghymru wasanaeth 4G, sy'n is na chyfartaledd y DU o 30% er ei fod yn cyfateb i 12 pwynt canran o gynnydd ers y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae'n galonogol gweld bod Cymru ar y blaen o ran cyflwyno band eang ffibr ac yn bwysicach fyth bod defnyddwyr yng Nghymru yn sylweddoli beth yw manteision gwasanaethau cyflym iawn.”
“Mae Cymru mewn sefyllfa lawer gwell erbyn hyn o ran y gwasanaethau sydd ar gael. Rydym wedi datblygu llawer ers i'r cabinet cyntaf yn y DU gael darpariaeth band eang cyflym iawn yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd yn 2009. Fodd bynnag, mae rhagor o waith i'w wneud er mwyn sicrhau bod Cymru'n dod yn wlad wirioneddol ddigidol.”
Mae pobl Cymru yn treulio 4 awr 11 munud yn gwylio’r teledu bob dydd ar gyfartaledd - mwy nag unman arall yn y DU.
Yn 2015, roedd gan saith ym mhob deg (69%) cartref â theledu yng Nghymru deledu drwy dalu - mae hynny'n uwch na chyfartaledd y DU (62%).
Mae gan 17% o gartrefi sydd â theledu yng Nghymru deledu clyfar, sy'n 8 pwynt canran o gynnydd o un flwyddyn i'r llall.
Gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm y gwariant ar raglenni materion cyfoes (16% o gynnydd) a newyddion (15% o gynnydd) ar gyfer pobl Cymru o un flwyddyn i'r llall.
Roedd cyfanswm yr oriau a gafodd eu darlledu gan S4C yn 2014 wedi codi 68 awr i 6,788 awr, wedi'i sbarduno gan y cynnydd mewn ailddarllediadau.
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn gwrando ar y radio, ac am gyfnodau hwy, nag yn y DU drwyddi draw.
Roedd gorsafoedd radio rhwydwaith y BBC yn cynrychioli bron i hanner (49%) yr holl oriau gwrando yng Nghymru.
Mae pobl sy'n siarad Cymraeg neu'n ysgrifennu yn Gymraeg yn fwy tebygol o lawer o gael radio DAB yn eu cartref (53% o'i gymharu â 39% o'r holl oedolion yng Nghymru).
Cymru oedd yr unig wlad a welodd ostyngiad yn y refeniw ar gyfer gorsafoedd masnachol lleol yn 2014 - gostyngiad o 2.9% i £4.84 y pen o'r boblogaeth.
Mae gan bron i naw cartref ym mhob deg yng Nghymru fynediad at y rhyngrwyd.
Mae gan y rhan fwyaf o oedolion (60%) gyfrifiadur tabled yn y cartref erbyn hyn, o'i gymharu â llai na hanner (45%) y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae'r rheini sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yng Nghymru yn dweud mai'r gliniadur yw'r ddyfais bwysicaf ar gyfer mynd ar-lein (37%).
Mae'r defnydd a wneir o Twitter yn uwch ymysg oedolion sy'n mynd ar-lein yng Nghymru (48%) o'i gymharu â Lloegr (40%), yr Alban (32%) a Gogledd Iwerddon (33%).
Cynyddodd treiddiad band eang saith pwynt canran, i 78%.
Roedd y nifer sy'n berchen ar ffôn clyfar yng Nghymru yn sefydlog yn 2015, sef chwech ym mhob deg oedolyn, yn unol â'r nifer yn y DU drwyddi draw.
Yng Nghymru yr oedd argaeledd gwasanaethau 4G ar ei isaf ar draws y DU ym mis Mai 2015.
Roedd gan ychydig o dan chwarter (23%) oedolion Cymru wasanaeth 4G.
Mae cyfran y cartrefi yng Nghymru sy'n gartrefi symudol-yn-unig wedi gostwng (17% yn 2015 o'i gymharu â 22% yn 2014).
Mae oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod yn anfon mwy o bost (6.5 eitem bob mis) nag oedolion yn y DU drwyddi draw.
Ar gyfartaledd, maent yn derbyn 8.7 eitem o bost bob wythnos, sy'n debyg i gyfartaledd y DU.
Mae bron i naw ym mhob deg (88%) o bobl Cymru yn fodlon ar y Post Brenhinol.
Mae oddeutu pedwar ym mhob pump busnes hefyd yn fodlon ar y gwasanaeth y maent yn ei gael gan y Post Brenhinol.
See all of our Communications Market Reports