Y Farchnad Gyfathrebu: Cymru
Gwasanaeth symudol 4G yn cyrraedd naw o bob deg cartref a swyddfa yng Nghymru.
Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu: Cymru (PDF, 1.2 MB)
Llawrlwythwch y siartiau (PDF, 271.9 KB)
Dros 90% o adeiladau yng Nghymru yn cael darpariaeth 4G yn yr awyr agored yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom ar y marchnadoedd cyfathrebu.
Mae’r Adroddiad yn dangos fod darpariaeth 4G yn yr awyr agored gan un neu ragor o'r cwmnïau symudol yn 90.1% yng Nghymru ac yn lleihau'r bwlch rhwng Cymru a'r Alban (92%), Lloegr (98.8%) a Gogledd Iwerddon (99.3%).
Cyrhaeddodd darpariaeth gwasanaethau 4G yn yr awyr agored yng Nghymru gan y pedwar rhwydwaith symudol 43.9% ym mis Mai 2016, ychydig dros 20% yn uwch nag yn 2015 (cynnydd o 23.9 pwynt canran). Mae hyn yn cymharu â 71.3% ar gyfer y DU.
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae cyfran yr oedolion yng Nghymru sy'n defnyddio gwasanaethau 4G wedi dyblu bron, gyda mwy na phedwar o bob deg (44%) yn defnyddio gwasanaeth symudol 4G erbyn hyn, o'i gymharu â 23% yn 2015.
Mae tirwedd Cymru, a'i mynyddoedd a'i dyffrynnoedd, ynghyd ag ardaloedd heb lawer o boblogaeth, yn peri heriau technegol wrth ddarparu signal symudol.
Mae'r tir yn hynod o heriol ac yn gwneud y gwaith o greu rhwydweithiau symudol yn ddrud ac yn anodd. Mae adroddiad heddiw yn dangos bod angen gwneud mwy o waith.
Er enghraifft, roedd canran yr adeiladau â darpariaeth yn yr awyr agored gan bob un o'r pedwar rhwydwaith 3G yn 74.9% ym mis Mai 2016 - y ganran isaf o blith gwledydd y DU, a ffigur dipyn yn is na'r ffigur ar gyfer y DU, sef 92.5%.
Fodd bynnag, mae gwelliannau'n cael eu gwneud i ymestyn y ddarpariaeth symudol yng Nghymru. Bydd rheolau y mae Ofcom wedi'u rhoi ar waith yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau data 4G ar gael yn eang yng Nghymru erbyn diwedd 2017. Yn ogystal, bydd cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmnïau symudol hefyd yn sicrhau gwelliannau i ddarpariaeth llais daearyddol.
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: "Mae defnyddwyr symudol yng Nghymru yn mwynhau gwell gwasanaethau data a llais symudol nag erioed o'r blaen, ac mae cynnydd yn dal i gael ei wneud.
"Mae topograffeg Cymru yn ei gwneud yn fwy anodd ac yn fwy drud i adeiladu'r seilwaith cyfathrebiadau. Felly mae'n rhaid i'r diwydiant, y rheoleiddwyr, yr awdurdodau cynllunio a thirfeddianwyr ddal ati i gydweithio er mwyn ymestyn y ddarpariaeth eto fyth."
Llawrlwythwch yr adran hon (PDF, 517.2 KB)
Llawrlwythwch y siartiau (PDF, 271.9 KB)
Atodiad A : Llythrennedd oedolion yn y cyfryngau yn y gwledydd (PDF, 292.3 KB)
Pobl yng Nghymru yn treulio 4 awr a 10 munud y dydd ar gyfartaledd yn gwylio teledu a ddarlledir – yn uwch na’r DU ar gyfartaledd.
Roedd y BBC ac ITV Cymru Wales wedi gwario mwy ar gomisiynu rhaglenni newydd ar gyfer gwylwyr yng Nghymru y llynedd - cynnydd o 4.5% ers 2014.
Cynnydd o 14% yn 2015 yn y gwariant ar raglenni heb fod yn rhaglenni materion cyfoes a newyddion ar gyfer gwylwyr yng Nghymru, a chynnydd o 28% ers 2010.
Ymysg y rheini sydd â theledu yn y cartref, roedd 33% yn dweud bod ganddynt deledu clyfar - gan gynyddu o 17% yn 2015.
Cyrhaeddodd gwasanaethau radio 93.6% o boblogaeth Cymru yn 2015
Pobl yng Nghymru hefyd yn gwrando ar y radio am gyfnod hwy bob wythnos (22.1 awr) na'r DU drwyddi draw (21.4 awr).
Gwasanaethau radio rhwydwaith y BBC ar draws y DU yn gyfrifol am 51% o'r holl oriau gwrando yng Nghymru.
Cynyddodd y gwariant ar gynnwys BBC Radio Wales 7.1% a gwariwyd 10.9% yn fwy ar BBC Radio Cymru.
Defnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru yn treulio 17.8 awr bob wythnos ar-lein.
Y nifer sy'n berchen ar gyfrifiadur tabled yng Nghymru (67% o gartrefi) yn uwch na chyfartaledd y DU (59%).
Dros bedwar o bob deg (43%) yn defnyddio gwasanaethau fel WhatsApp a Facebook Messenger o leiaf unwaith yr wythnos - i fyny o 24% yn 2014.
Wyth o bob 10 defnyddiwr rhyngrwyd yng Nghymru yn cytuno bod y gwasanaethau cyfathrebu newydd hyn wedi gwneud bywyd yn haws.
Mae nifer y bobl sy'n defnyddio band eang yng Nghymru yn debyg i'r nifer yn y DU yn gyffredinol (79% o'i gymharu â 81%), a gyda phob un o wledydd y DU.
Mae'r nifer sy'n defnyddio ffonau symudol wedi cyrraedd naw o bob deg (91%) oedolyn yn 2016, gan ddod â Chymru i'r un lefel â'r DU (93%).
Nifer yr oedolion yng Nghymru oedd yn berchen ar ff'n clyfar yn is nag yn y DU drwyddi draw (65% o'i gymharu â 71%).
Mae 36% o bobl Cymru yn dweud mai eu ffôn clyfar oedd y ddyfais bwysicaf iddynt ar gyfer mynd ar-lein.
Oedolion yng Nghymru yn anfon 6.3 eitem ar gyfartaledd bob mis, o'i gymharu â 6.6 eitem bob mis yn y DU drwyddi draw.
Mae 86% o oedolion hefyd yn fodlon â'r amser mae'r post yn ei gymryd i gyrraedd pen ei daith.
Dywedodd dros un o bob pump oedolyn yng Nghymru (21%) eu bod wedi cael problemau gyda phost yn mynd ar goll yn ystod y 12 mis diwethaf.
See all of our Communications Market Reports