Darlledu Teledu: data ac ymchwil


Heddiw, mae Ofcom yn cyhoeddi Adrodd ar y gwledydd a materion datganoledig  ar newyddion rhwydwaith: Dadansoddiad o ddarpariaeth teledu ac ar-lein (PDF, 2.3 MB).

Comisiynwyd yr Athro Stephen Cushion o Brifysgol Caerdydd a’r Dr Richard Thomas o Brifysgol Abertawe i gynnal y dadansoddiad annibynnol manwl hwn, sy'n bwrw golwg ar ba mor dda y mae darparwyr newyddion rhwydwaith y DU yn adrodd am faterion polisi datganoledig ar y teledu ac ar-lein.

Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar adroddiadau am yr ymateb i'r pandemig Covid-19, gyda'r ymagweddau gwahanol at bolisi iechyd cyhoeddus ym mhedair gwlad y DU. Mae'n edrych ar fwletinau newyddion teledu a ddarlledwyd ar y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky News, yn ogystal â gwefannau newyddion y BBC, ITV a Sky News dros gyfnod o bedair wythnos yn haf 2021.

Mae hefyd yn ceisio creu darlun ehangach o'r ystod o bynciau datganoledig a drafodir mewn bwletinau newyddion rhwydwaith teledu ac ar-lein, a sut y cynrychiolir y materion sy'n bwysig i'r bobl sy'n byw mewn gwahanol rannau o'r DU.

Adrodd ar y gwledydd a materion datganoledig ar newyddion rhwydwaith: (PDF, 2.3 MB)

Annex 1: Research team credentials and coding details (PDF, 146.4 KB)

Annex 2: Case studies (PDF, 2.5 MB)

Annex 3: News Consumption Data (PDF, 334.1 KB)