Agweddau cynulleidfaoedd y DU i'r cyfryngau darlledu 2017

19 Mai 2015

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio agweddau oedolion y DU tuag at ddyfeisiau cysylltiedig, sut maent yn cael mynediant iddynt a'u hagweddau a’u barn am ddarlledu teledu a radio. Mae hyn hefyd yn cynnwys meysydd cysylltiedig megis hysbysebu a rheoleiddio. Mae’n crynhoi’r darganfyddiadau yn y dadansoddiad o’r canlyniadau ymchwil mewn pecyn siart cysylltiedig.

Mae darganfyddiadau ymchwil o astudiaeth Traciwr Cyfryngau Ofcom yn cynnig ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am safbwyntiau defnyddwyr ac yn cyfrannu at waith Ofcom ym maes safonau darlledu.

Yn unol â Deddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n ddyletswydd ar Ofcom i greu ac o bryd i’w gilydd i adolygu Cod ar gyfer safonau rhaglenni gwasanaethau teledu a radio. Mae hyn yn cynnwys diogelu’r rhai hynny sydd o dan 18 oed, gweithredu safonau sy’n cael eu derbyn yn gyffredinol ar gyfer diogelu rhag deunydd niweidiol neu sarhaus, nawdd, gosod nwyddau mewn rhaglenni teledu a thegwch a phreifatrwydd. Dyma’r Cod Darlledu a ddaeth yn weithredol yng Ngorffennaf 2005.

Mae Ofcom yn cydnabod y gall safbwyntiau pobl am safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn gallu newid dros amser. Felly dylid eu harchwilio gydag ymchwil defnyddwyr parhaus. Mae’r adroddiad hwn yn un o amrywiaeth o ffynonellau mae Ofcom yn defnyddio wrth weithredu ei ddyletswyddau safonau darlledu.

Older research is available via the National Archives.