Ymyriant i offer radio


Gall defnyddwyr sbectrwm brofi ymyriant o bryd i'w gilydd.

Er nad yw Ofcom yn gwarantu sbectrwm sy'n rhydd rhag ymyriant, mae gennym ganllawiau i egluro sut y gallwch chi:

  • ddatrys ymyriant; a
  • rhoi gwybod am ymyriant i ni.

Achosion ymyriant

Mae ymyriant fel arfer yn cael ei achosi gan:

  • defnyddio cyfarpar radio heb ei drwyddedu;
  • aflonyddwch electromagnetig o gyfarpar neu osodiadau; neu
  • nam neu ddiffyg yn yr orsaf neu gyfarpar yr effeithir arnynt.

Beth allwch chi ei wneud

Mewn llawer o achosion, gallai'r ateb fod mor syml â symud yr offer yr effeithir arnynt.

Efallai y bydd yn bosib nodi achos yr ymyriant eich hun. Os yw'n bosib ac yn ddiogel, rhowch gynnig ar ddiffodd dyfeisiau yn yr adeilad neu o'i gwmpas, un ar y tro, a gweld a yw hyn yn gwella'r sefyllfa.

Sut allwn ni helpu

Mae adroddiadau o ymyriant yn cael eu trin gan ein Canolfan Rheoli Sbectrwm. Efallai y byddwn hefyd yn anfon Swyddog Peirianneg Sbectrwm i gynnal ymchwiliad.

Ni fydd Ofcom fel arfer yn ymchwilio i achos oni bai ein bod yn fodlon:

  1. bod yr ymyriant yn niweidiol;
  2. ei fod y tu hwnt i reolaeth yr achwynydd; a
  3. bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i isafu ei effaith.

Rydym yn ystyried bod ymyriant yn niweidiol os:

  • yw'n creu perygl, neu risgiau o berygl, mewn perthynas â gweithrediad unrhyw wasanaeth a ddarperir drwy delegraffiaeth ddi-wifr at ddibenion llywio neu fel arall at ddibenion diogelwch.
  • yw'n diraddio, yn rhwystro neu'n ymyrryd dro ar ôl tro ag unrhyw beth sy'n cael ei ddarlledu neu ei drosglwyddo fel arall trwy delegraffiaeth ddi-wifr ac yn unol â thrwydded delegraffiaeth ddi-wifr, neu grant mynediad sbectrwm cydnabyddedig neu ar ffurf sydd fel arall yn gyfreithlon.

Byddwn yn arfer disgresiwn wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i adroddiad o ymyriant, ac nid yw'n ymhlyg y caiff ymyriant ei ddileu neu y caiff camau gorfodi eu cymryd i'w atal rhag digwydd.

Rhoi gwybod am ymyriant

Cyn rhoi gwybod i ni am ymyriant, dylech wneud y canlynol:

  • cofnodi pob digwyddiad am o leiaf wythnos gyda'r amser, y dyddiad a'r orsaf neu'r offer yr effeithir arnynt;
  • sefydlu nad yw ffynhonnell ymyriant niweidiol o dan eich rheolaeth (e.e. o fewn eich eiddo eich hun); a
  • sicrhau bod yr orsaf neu'r offer yr effeithir arno'n gweithio'n gywir.

Gallwch roi gwybod am ymyriant i radio amatur, busnes neu hobi, neu ymyriant i ddyfeisiau di-wifr gartref.

Gallwch gysylltu â ni am gyngor a chymorth hefyd. Gyrrwch e-bost i interference.report@ofcom.org.uk neu ffoniwch ni ar 01462 428540.