Darlledu radio anghyfreithlon
Mae gweithredu gorsaf radio heb drwydded yn anghyfreithlon.
Mae darlledwyr anghyfreithlon yn defnyddio offer sy’n gallu achosi ymyriant a tharfu ar wasanaethau hanfodol fel rheoli traffig awyr.
Yn aml, mae’r trosglwyddyddion wedi eu gwneud â llaw, wedi’u dylunio’n wael ac wedi eu prynu trwy’r farchnad ddu. Maent yn cael eu gosod ar flociau fflatiau uchel yn aml. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn beryglus a gallant roi iechyd a diogelwch y cyhoedd mewn perygl. Gall y gost o dynnu trosglwyddyddion fod yn filoedd o bunnoedd.
Ambell dro roedd pobl a oedd yn gysylltiedig â gorsafoedd radio anghyfreithlon hefyd yn gysylltiedig â throseddau difrifol, gan gynnwys bygythiadau ac ymosodiadau ar swyddogion gorfodi, gofalwyr eiddo a phreswylwyr. Mae cyrchoedd ar orsafoedd radio anghyfreithlon wedi datgelu cyffuriau ac arfau, gan gynnwys arfau tân.
Crynodeb o’r troseddau
Mae unrhyw un sy’n gysylltiedig â darlledu anghyfreithlon yn troseddu a gallent wynebu hyd at ddwy flynedd o garchar, swm amhenodol o ddirwy neu'r ddau beth. Gweler adrannau 36 i 38 Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006.
Efallai eich bod chi’n troseddu os ydych yn gwybod am achos o ddarlledu sydd heb gael ei awdurdodi, neu os oes gennych reswm i gredu bod hynny’n digwydd, a’ch bod chi’n:
- cadw gorsaf/offer ar gyfer hynny;
- caniatáu i’ch eiddo chi gael ei ddefnyddio;
- hysbysebu;
- hyrwyddo;
- darparu cynnwys;
- neu fel arall yn galluogi i ddarllediad ddigwydd, gan gynnwys rheoli neu ddarparu unrhyw wasanaeth a fyddai’n hwyluso’r weithred.
Cyfrifoldebau’r sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad
Mae’n drosedd i rywun ganiatáu i rywun arall ddefnyddio’u heiddo i ddarlledu’n anghyfreithlon. Mae hefyd yn drosedd i rywun arall sy’n credu bod darlledu anghyfreithlon yn digwydd o’u heiddo i beidio â chymryd camau rhesymol i atal hynny.
Sut ydym yn delio â darlledu anghyfreithlon
Mae gan Ofcom bwerau i ymchwilio i orsafoedd darlledu sydd heb drwydded a phwerau i erlyn unrhyw un sy’n gysylltiedig â hynny. Rydym yn gallu mynd i mewn eiddo er mwyn chwilio a chymryd tystiolaeth, gan gynnwys cymryd unrhyw offer ar gyfer darlledu anghyfreithlon.
Pan fyddwn yn cael gwybod bod gorsafoedd darlledu anghyfreithlon yn achosi ymyriant niweidiol, bydd Ofcom yn cynnig cyngor a chymorth a, phan fo hynny’n briodol, byddwn yn cynnal ymchwiliad. Am resymau amlwg, mae cwynion am ymyriant i wasanaethau hanfodol a gwasanaethau brys yn cael eu cymryd o ddifri gennym.
Darlledu cyfreithlon
Mae Ofcom o blaid defnyddio’r sbectrwm radio’n effeithlon a gall gynnig trwyddedau amrywiol er mwyn darlledu'n gyfreithlon.
Ers dros 10 mlynedd rydym wedi bod yn rhoi trwyddedau radio cymunedol FM ac AM sy’n galluogi gorsafoedd i ddarlledu'n gyfreithlon mewn ardal leol. Gall gorsafoedd radio cymunedol gynhyrchu cyllid trwy hysbysebion.
Erbyn hyn, mae dros 230 o orsafoedd radio cymunedol yn darlledu mewn lleoliadau ar draws y DU. Nid yw gorsaf sydd wedi bod yn darlledu’n anghyfreithlon o’r blaen o reidrwydd am gael ei hatal rhag cael trwydded yn y dyfodol. Yn wir, mae nifer o gyn orsafoedd radio anghyfreithlon bellach yn orsafoedd radio cymunedol wedi eu trwyddedu. Fodd bynnag, os oes rhywun wedi’i gael yn euog o ddarlledu’n anghyfreithlon, ni chaiff yr unigolyn hwnnw ddal trwydded radio am bum mlynedd. Mae’n rhaid i drwyddedeion eraill wneud popeth o fewn eu gallu i atal unigolyn o’r fath rhag bod yn rhan o weithgareddau sy’n gysylltiedig â’u gwasanaeth nhw.
I gael cyngor am fod yn rhan o radio cymunedol neu i wneud cais am drwydded, ewch i Radio cymunedol neu cysylltwch â’n tîm radio cymunedol.
Opsiwn arall yw darlledu (neu gwe-ddarlledu) ar y rhyngrwyd lle nad oes angen trwydded gan Ofcom.
Rhoi gwybod am ddarlledu anghyfreithlon
Rhowch wybod os credwch fod darlledu anghyfreithlon yn digwydd.