Atodiad 1: Rhannau o Ddeddfwriaeth perthnasol y DU

03 Ebrill 2017

Atodiad 1: Rhannau o Ddeddfwriaeth perthnasol y DU (PDF, 146.2 KB)

Deddf Cyfathrebiadau 2003 (fel y’i diwygiwyd)

Adran 3: Dyletswyddau cyffredinol OFCOM

(1)Prif ddyletswydd OFCOM wrth gyflawni’i swyddogaethau fydd -

  • (a) hyrwyddo buddiannau dinasyddion mewn perthynas â materion cyfathrebu; a
  • (b) hyrwyddo buddiannau defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol, pan fo’n briodol drwy hybu cystadleuaeth”

(2)Mae’r pethau y mae’n ofynnol i OFCOM eu sicrhau, yn rhinwedd is-adran (1), wrth gyflawni’i swyddogaethau’n cynnwys, yn benodol, bob un o’r canlynol:

  • (e) cymhwyso safonau, yn achos pob gwasanaeth teledu a radio, sy’n rhoi diogelwch digonol i’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd tramgwyddus a niweidiol mewn gwasanaethau o’r fath;
  • (f)cymhwyso safonau, yn achos pob gwasanaeth teledu a radio, sy’n rhoi diogelwch digonol i’r cyhoedd a phob un arall rhag:
    • (i)triniaeth annheg mewn rhaglenni sydd wedi’u cynnwys mewn gwasanaethau o’r fath; a
    • (ii)tresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad o ganlyniad i weithgareddau a gyflawnir at ddibenion gwasanaethau o’r fath.

(4)  Rhaid i OFCOM ddal sylw hefyd, wrth gyflawni’r dyletswyddau hynny, ar hynny o’r canlynol y mae’n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol yn yr amgylchiadau:

  • (b) y dymunoldeb o hybu cystadleuaeth mewn marchnadoedd perthnasol;
  • (g) yr angen i sicrhau yn achos gwasanaethau teledu a radio mai’r dull o gymhwyso safonau sy’n dod o fewn is-adran (2)(e) ac (f) yw’r un gorau i warantu lefel briodol o ryddid mynegiant;
  • (h) natur fregus plant ac eraill y mae’n ymddangos i OFCOM fod eu hamgylchiadau yn golygu bod angen diogelwch arbennig arnynt;
  • (j) y dymunoldeb o atal troseddu ac anhrefn;
  • (k) barn defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol a’r cyhoedd yn gyffredinol;
  • (l) y diddordebau gwahanol sydd gan bobl yn y gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, y gwahanol gymunedau ethnig yn y Deyrnas Unedig a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Adran 319: Cod safonau OFCOM

(1)Bydd yn ddyletswydd ar OFCOM i osod hynny o safonau ar gyfer cynnwys rhaglenni sydd i’w cynnwys mewn gwasanaethau teledu a radio y mae’n ymddangos iddo eu bod wedi’u pennu yn y modd gorau i sicrhau amcanion y safonau, a’u hadolygu a’u diwygio o bryd i’w gilydd.

(2)Amcanion y safonau yw:

  • (a) diogelu unigolion dan ddeunaw oed;
  • (b) na fydd deunydd sy’n debygol o annog neu gymell troseddu neu o arwain at anhrefn yn cael ei gynnwys mewn gwasanaethau teledu a radio;
  • (c)y bydd newyddion sydd wedi’u cynnwys mewn gwasanaethau teledu a radio yn cael eu cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy, ac y cydymffurfir â’r gofynion o ran didueddrwydd yn adran 320;
  • (d) y bydd newyddion sydd wedi’u cynnwys mewn gwasanaethau teledu a radio yn cael eu hadrodd gyda chywirdeb dyladwy;
  • (e) y bydd graddau priodol o gyfrifoldeb yn cael ei arfer mewn cysylltiad â chynnwys rhaglenni sy’n rhaglenni crefyddol;
  • (f)y bydd safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn cael eu cymhwyso at gynnwys gwasanaethau teledu a radio er mwyn darparu diogelwch digonol i’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd tramgwyddus a niweidiol mewn gwasanaethau o’r fath;
  • (fa) y bydd y gofynion gosod cynnyrch y cyfeirir atynt yn adran 321(3A) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â rhaglenni a gaiff eu cynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni teledu (ar wahân i hysbysebion);
  • (g) na fydd hysbysebu sy’n groes i’r gwaharddiad ar hysbysebu gwleidyddol a nodwyd yn adran 321(2) yn cael ei gynnwys mewn gwasanaethau teledu neu radio;
  • (h) atal cynnwys hysbysebu a all fod yn gamarweiniol, yn niweidiol neu’n dramgwyddus mewn gwasanaethau teledu a radio;
  • (i)y cydymffurfir â rhwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig mewn cysylltiad â hysbysebu a gynhwysir mewn gwasanaethau teledu a radio;
  • (j)atal nawdd anaddas i raglenni a gynhwysir mewn gwasanaethau teledu a radio;
  • (k)na fydd gwahaniaethu amhriodol rhwng hysbysebwyr sy’n ceisio cael cynnwys hysbysebion mewn gwasanaethau teledu a radio; ac
  • (l)na ddefnyddir technegau sy’n manteisio ar y posibilrwydd o gyfleu neges i wylwyr neu wrandawyr, neu o ddylanwadu ar eu meddwl fel arall, heb iddynt fod yn ymwybodol, neu’n llwyr ymwybodol, o’r hyn sydd wedi digwydd.

(3)Rhaid cynnwys y safonau a bennir gan OFCOM dan yr adran hon mewn un neu ragor o godau.

(4)Wrth osod neu ddiwygio unrhyw safonau dan yr adran hon, rhaid i OFCOM ddal sylw, yn benodol ac i’r graddau y mae’n ymddangos iddo ei fod yn berthnasol i sicrhau amcanion y safonau, ar bob un o’r materion canlynol:

  • (a)maint y niwed neu dramgwydd sy’n debygol o gael ei achosi drwy gynnwys unrhyw fath penodol o ddeunydd mewn rhaglenni’n gyffredinol neu mewn rhaglenni o fath penodol;
  • (b)maint a chyfansoddiad tebygol y gynulleidfa bosibl i raglenni sydd wedi’u cynnwys mewn gwasanaethau teledu a radio’n gyffredinol, neu mewn gwasanaethau teledu a radio o fath penodol;
  • (c)disgwyliad tebygol y gynulleidfa o ran natur cynnwys rhaglen a’r graddau y gellir dod â natur cynnwys rhaglen i sylw aelodau posibl y gynulleidfa;
  • (d)y tebygolrwydd y bydd unigolion nad ydynt yn ymwybodol o natur cynnwys rhaglen yn dod yn agored yn anfwriadol, drwy eu gweithredoedd eu hunain, i’r cynnwys hwnnw;
  • (e)y dymunoldeb o sicrhau bod cynnwys gwasanaethau’n nodi pa bryd y ceir newid sy’n effeithio ar natur gwasanaeth y mae rhai’n ei wylio neu’n gwrando arno ac, yn benodol, newid sy’n berthnasol o ran cymhwyso’r safonau sydd wedi’u gosod dan yr adran hon; ac
  • (f)    y dymunoldeb o gadw annibyniaeth y rheolaeth olygyddol dros gynnwys rhaglen.

(5)Rhaid i OFCOM sicrhau bod y safonau sydd mewn grym o bryd i’w gilydd dan yr adran hon yn cynnwys:

  • (a) safonau gofynnol sy’n berthnasol i’r holl raglenni a gynhwysir mewn gwasanaethau teledu a radio; a
  • (b) hynny o safonau eraill sy’n berthnasol i fathau penodol o raglenni, neu o wasanaethau teledu a radio, y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol i sicrhau amcanion y safonau.

(6)Rhaid i’r safonau a osodwyd i sicrhau amcan y safonau a bennwyd yn is-adran (2)(e) gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth sydd â’r bwriad o sicrhau na fydd rhaglenni crefyddol yn cynnwys:

  • (a) unrhyw fanteisio amhriodol ar unrhyw deimladau sydd gan y gynulleidfa tuag at raglen o’r fath; neu
  • (b) unrhyw ymdriniaeth ddifrïol â barnau a chredoau crefyddol y rheini sy’n perthyn i grefydd neu enwad crefyddol penodol.

(7)Wrth osod safonau dan yr adran hon, rhaid i OFCOM ystyried hynny o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig y gall yr Ysgrifennydd Gwladol ei hysbysu amdanynt at ddibenion yr adran hon.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “newyddion” yw newyddion ar ba ffurf bynnag y maent wedi’u cynnwys mewn gwasanaeth.

(9)Yn amodol ar is-adran (10), mae is-adran (2)(fa) ond yn berthnasol mewn perthynas â rhaglenni y dechreuwyd eu cynhyrchu ar ôl 19eg Rhagfyr 2009.

(10)I’r graddau y mae gosod cynnyrch yn dod dan baragraff (ba) o Atodlen 11A (sigaréts electronig a chynwysyddion ail-lenwi sigaréts electronig), dim ond yng nghyswllt rhaglenni fydd yn dechrau cael eu cynhyrchu ar ôl 19 Mai 2016 y mae is-adran (2)(fa) yn berthnasol.

Adran 320: Gofynion arbennig o ran didueddrwyd

(1)    Gofynion yr adran hon yw:

  • (a) gwahardd, yn achos gwasanaethau teledu a radio (ac eithrio gwasanaeth cyfyngedig o fewn ystyr adran 245), o raglenni a gynhwysir mewn unrhyw un o’r gwasanaethau hynny, bob mynegiad o farn neu safbwynt gan y person sy’n darparu’r gwasanaeth am unrhyw un o’r materion a nodir yn is-adran (2);
  • (b) cadw didueddrwydd dyladwy, yn achos pob gwasanaeth rhaglenni teledu, gwasanaeth teletestun, gwasanaeth radio cenedlaethol, gwasanaeth rhaglenni sain digidol cenedlaethol, ar ran y sawl sy’n darparu’r gwasanaeth, mewn perthynas â’r holl faterion hynny;
  • (c) atal, yn achos pob gwasanaeth radio lleol, gwasanaeth rhaglenni sain digidol lleol neu wasanaeth cynnwys trwyddedadwy radio, amlygrwydd gormodol yn y rhaglenni a gynhwysir yn y gwasanaeth i farnau a safbwyntiau pobl neu gyrff penodol am unrhyw un o’r materion hynny.

(2)    Y materion hynny yw:

  • (a) materion sy’n destun dadlau gwleidyddol neu ddiwydiannol;
  • (b) materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol.

(3)Nid yw is-adran (1)(a) yn ei gwneud yn ofynnol -

  • (a) gwahardd barnau neu safbwyntiau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau rhaglenni o raglenni teledu; neu
  • (b) gwahardd barnau neu safbwyntiau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau rhaglenni o raglenni radio.

(4)At ddibenion yr adran hon:

  • (a)mae’r gofyniad a bennwyd yn is-adran (1)(b) yn un y gellir ei fodloni (yn amodol ar unrhyw reolau dan is-adran (5)) drwy ei fodloni mewn perthynas â chyfres o raglenni a gymerir gyda’i gilydd;
  • (b) mae’r gofyniad a bennwyd yn is-adran (1)(c) yn un nad oes ond angen ei fodloni mewn perthynas â’r holl raglenni a gynhwysir yn y gwasanaeth dan sylw, o’u cymryd gyda’i gilydd.

(5)Rhaid i god safonau OFCOM gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r rheolau sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â’r materion canlynol:

  • (a) cymhwyso’r gofyniad a bennwyd yn is-adran (1)(b);
  • (b) y penderfyniad, mewn perthynas â’r gofyniad hwnnw, ynghylch beth yw cyfres o raglenni at ddibenion is-adran (4)(a);
  • (c) cymhwyso’r gofyniad yn is-adran (1)(c).

(6)Rhaid i unrhyw ddarpariaeth a wneir at ddibenion is-adran (5)(a), yn benodol, ystyried yr angen i sicrhau y cedwir didueddrwydd mewn perthynas â’r materion canlynol (gan gymryd pob mater ar wahân):

  • (a) materion sy’n destun dadlau gwleidyddol neu ddiwydiannol mawr; a
  • (b) materion pwysig sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol, yn ogystal â’r angen i sicrhau bod y gofyniad sydd wedi’i bennu yn is-adran (1)(b) yn cael ei fodloni’n gyffredinol mewn perthynas â chyfres o raglenni a gymerir gyda’i gilydd.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “gwasanaeth radio cenedlaethol” a “gwasanaeth radio lleol”, yn y drefn honno, yw gwasanaeth darlledu sain sy’n wasanaeth cenedlaethol o fewn ystyr adran 245, a gwasanaeth darlledu sain sy’n wasanaeth lleol o fewn ystyr yr adran honno.

Adran 321: Amcanion ar gyfer hysbysebion, nawdd a gosod cynnyrch (dim ond is-adrannau (1), (3A) a (4) a atgynhyrchir yma)

(1)Mae safonau a osodir gan OFCOM i sicrhau’r amcanion a nodwyd yn adran 319(2)(a) ac (fa) i (j) yn rhai:

  • (a) y mae’n rhaid iddynt gynnwys darpariaeth gyffredinol sy’n rheoli safonau ac arferion mewn hysbysebu ac wrth noddi rhaglenni ac, mewn cysylltiad â gwasanaethau rhaglenni teledu, darpariaeth gyffredinol sy’n rheoli safonau ac arferion wrth osod cynnyrch;
  • (b) a gaiff gynnwys darpariaeth yn gwahardd hysbysebion a ffurfiau a dulliau o hysbysebu neu noddi (boed hynny’n gyffredinol neu mewn amgylchiadau penodol); ac
  • (c) a gaiff gynnwys darpariaeth yn gwahardd ffurfiau a dulliau hysbysebu drwy osod cynnyrch (gan gynnwys gosod cynnyrch, gwasanaethau neu nodau masnach unrhyw ddisgrifiad) (boed hynny’n gyffredinol neu mewn amgylchiadau penodol) yng nghyswllt gwasanaethau rhaglenni teledu.

(3A)At ddibenion adran 319(2)(fa), y gofynion gosod cynnyrch yw’r gofynion a nodir yn Atodlen 11A.

(4)  Bydd gan Ofcom –

  • (a)
    • (i)gyfrifoldeb cyffredinol mewn cysylltiad â hysbysebion a dulliau hysbysebu a noddi yng nghyswllt gwasanaethau rhaglenni; a
    • (ii)chyfrifoldeb cyffredinol mewn cysylltiad â hysbysebu a dulliau gosod cynnyrch yng nghyswllt gwasanaethau rhaglenni teledu; ac
  • (b) wrth ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw, gall gynnwys amodau mewn unrhyw drwydded y byddant yn ei rhoi am unrhyw wasanaeth o’r fath sy’n galluogi Ofcom i bennu gofynion yng nghyswllt unrhyw un o’r materion hynny sy’n mynd y tu hwnt i ddarpariaeth cod safonau Ofcom.

Adran 325: Cadw at y cod safonau (dim ond is-adran (1) a atgynhyrchir yma)

(1)   Mae’r gyfundrefn reoleiddio ar gyfer pob gwasanaeth rhaglenni a drwyddedir gan drwydded dan y Ddeddf Darlledu yn cynnwys amodau ar gyfer sicrhau:

  • (a) bod safonau a bennwyd dan adran 319 yn cael eu cadw wrth ddarparu’r gwasanaeth hwnnw; a
  • (b) bod gweithdrefnau ar gyfer trafod a datrys cwynion am gadw at y safonau hynny wedi’u sefydlu a’u cynnal.

Adran 326: Dyletswydd i gadw at y cod tegwch

Mae’r gyfundrefn reoleiddio ar gyfer pob gwasanaeth rhaglenni a drwyddedir gan drwydded dan y Ddeddf Darlledu yn cynnwys yr amodau y mae OFCOM yn eu hystyried yn briodol i sicrhau cydymffurfio:

  • (a) mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth hwnnw, a
  • (b) mewn cysylltiad â'r rhaglenni sy'n cael eu cynnwys yn y gwasanaeth hwnnw; â’r cod am y cyfnod y bydd mewn grym dan adran 107 o Ddeddf 1996 (y cod tegwch).

ATODLEN 11A: Cyfyngiadau ar osod cynnyrch

Cyflwyniad

1.—(1) Yn y Rhan hon, ystyr “gosod cynnyrch”, mewn cysylltiad â rhaglen a gaiff ei chynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni teledu, yw cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen, neu gyfeirio ato mewn rhaglen, a hynny—

  • (a)  at ddiben masnachol;
  • (b)  yn gyfnewid am wneud unrhyw daliad, neu roi ystyriaeth werthfawr arall i unrhyw ddarparwr perthnasol neu unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol; a
  • (c) heb fod yn osod propiau.

(2) Ystyr “gosod propiau”, mewn cysylltiad â rhaglen o’r fath, yw cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen, neu gyfeirio ato mewn rhaglen, a hynny—

  • (a)   pan nad yw darparu cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach o werth sylweddol; a
  • (b)  phan na fydd unrhyw ddarparwr perthnasol, neu rywun sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol, wedi cael unrhyw daliad neu ystyriaeth werthfawr arall mewn cysylltiad â’i gynnwys neu gyfeirio ato mewn rhaglen, neu y cyfeirir ati, gan anwybyddu’r costau a arbedwyd drwy gynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu gyfeirio ato mewn rhaglen.

2. Mae’r gofynion gosod cynnyrch fel a ganlyn—

  • (a) nad yw gosod cynnyrch yn dod dan unrhyw baragraff rhwng 3 a 6;
  • (b) y caiff yr holl amodau ym mharagraff 7 eu bodloni; a
  • (c) lle bydd paragraff 8 yn berthnasol, y caiff yr amod yn y paragraff hwnnw ei fodloni hefyd.

Gwaharddiadau ar osod cynnyrch

3.—(1) Bydd gosod cynnyrch yn perthyn i’r paragraff hwn os bydd mewn rhaglen blant.

(2) Yn is-baragraff (1) mae “rhaglen i blant” yn golygu rhaglen a wneir—

  • (a)ar gyfer gwasanaeth rhaglenni teledu neu ar gyfer gwasanaeth rhaglenni ar alw, ac
  • (b)i’w gwylio’n bennaf gan bobl dan un ar bymtheg oed.

4.  Bydd gosod cynnyrch yn dod dan y paragraff hwn os bydd—

  • (a)yn cynnwys sigaréts neu gynnyrch tybaco arall;
  • (b)gan neu ar ran busnes sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu sigaréts neu gynhyrchion tybaco eraill yn bennaf;
  • (ba) sigaréts electronig neu gynhwysyddion ail-lenwi sigaréts electronig; neu
  • (c)yn ymwneud â meddyginiaethau sydd ddim ond ar gael ar bresgripsiwn.

5.  Bydd gosod cynnyrch diodydd alcoholig yn dod dan y paragraff hwn os bydd—

  • (a)wedi’i anelu’n benodol at bobl dan ddeunaw oed; neu
  • (b)mae’n annog yfed eithafol ar ddiodydd o’r fath.

6.—(1) Bydd gosod cynnyrch yn perthyn i’r paragraff hwn os bydd mewn rhaglen y mae’r paragraff hwn yn berthnasol iddi a—

  • (a)bod y rhaglen yn rhaglen grefyddol, yn ymwneud â materion defnyddwyr neu faterion cyfoes;
  • (b)bod gosod cynnyrch yn dod dan unrhyw beth yn is-baragraff (2); neu
  • (c)bod gosod cynnyrch yn anaddas fel arall.

(2) Caiff y canlynol eu cynnwys yn yr is-baragraff hwn—

  • (a)tanwyr sigaréts, papurau sigarét neu getyn y bwriedir ei ysmygu;
  • (b)cynnyrch meddyginiaethol;
  • (c)diodydd meddwol;
  • (d)fformiwla i fabanod neu fformiwla ddilynol;
  • (e)bwyd neu ddiod sy’n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr;
  • (f)gwasanaethau hapchwarae.

(3) Mae’r paragraff hwn yn berthnasol i—

  • (a)raglen sydd wedi’i chynhyrchu neu wedi’i chomisiynu gan ddarparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu sy’n eu cynnwys, neu gan rywun sy’n gysylltiedig â’r darparwr hwnnw, ac nad yw’n ffilm ar gyfer y sinema; a
  • (b)rhaglen sydd wedi’i chynhyrchu neu wedi’i chomisiynu gan unrhyw un arall sy’n bwriadu ei dangos am y tro cyntaf mewn gwasanaeth rhaglenni teledu a ddarperir gan rywun dan awdurdodaeth y Deyrnas Unedig at ddibenion y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol.

Yr amodau perthnasol i osod cynnyrch

7.—  (1) Dyma’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(b).

(2) Mae Amod A yn nodi y dylai’r rhaglen sy’n cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu sy’n cyfeirio ato, gynnwys—

  • (a)  ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer y sinema;
  • (b)  ffilm neu gyfres a gynhyrchwyd ar gyfer gwasanaeth rhaglenni teledu neu wasanaeth rhaglenni ar gais;
  • (c)   rhaglen chwaraeon; neu
  • (d)  rhaglen adloniant ysgafn.

(3) Mae Amod B yn nodi nad yw gosod cynnyrch wedi dylanwadu ar gynnwys neu amserlennu’r rhaglen mewn ffordd sy’n effeithio ar annibyniaeth olygyddol darparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu y caiff y rhaglen ei chynnwys ynddo.

(4) Amod C yw na ddylai gosod cynnyrch annog prynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau yn uniongyrchol, boed hynny drwy gyfeirio at y nwyddau neu’r gwasanaethau mewn ffordd sy’n eu hyrwyddo neu fel arall.

(5) Amod D yw na ddylai’r rhaglen roi amlygrwydd amhriodol i’r cynhyrchion, y gwasanaethau na’r nodau masnach dan sylw;

(6) Amod E yw na ddylai gosod cynnyrch ddefnyddio technegau sy’n manteisio ar bosibilrwydd cyfleu neges yn isganfyddol neu’n llechwraidd.

(7) Amod F yw nad yw’r ffordd y mae cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, yn cael ei gynnwys yn y rhaglen, neu’r cyfeiriad ato, drwy osod cynnyrch yn—

  • (a)niweidio'r parch at urddas dynol;
  • (b)hybu gwahaniaethu ar sail rhyw, tarddiad hiliol neu ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, anabledd, oed neu gyfeiriadedd rhywiol.
  • (c)annog ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd neu ddiogelwch;
  • (d)annog ymddygiad sy’n hynod niweidiol i’r gwaith o ddiogelu'r amgylchedd;
  • (e)achosi niwed corfforol neu foesol i bobl dan ddeunaw oed;
  • (f)annog y bobl hyn yn uniongyrchol i berswadio eu rhieni neu bobl eraill i brynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau;
  • (g)manteisio ar ymddiriedaeth y bobl hyn mewn rhieni, athrawon neu bobl eraill; neu
  • (h)dangos y bobl hyn yn afresymol mewn sefyllfaoedd peryglus.

8.— (1) Mae’r paragraff hwn yn berthnasol pan fydd y rhaglen sy’n cynnwys gosod cynnyrch wedi’i chynhyrchu neu wedi’i chomisiynu gan ddarparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu sydd wedi’i chynnwys neu gan rywun sy’n gysylltiedig â’r darparwr hwnnw.

(2) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) yw y dylai’r gwasanaeth rhaglenni teledu y mae’r rhaglen yn rhan ohono ddangos yn briodol y ffaith nad yw gosod cynnyrch yn cael ei gynnwys mewn rhaglen yn llai aml na’r canlynol—

  • (a)  ar ddechrau ac ar ddiwedd rhaglen o’r fath; ac
  • (b)  in the case of a television programme service which includes advertising breaks within it, at the recommencement of the programme after each such advertising break.

Mân ddiffiniadau

9. Yn yr Atodlen hon—

yr un ystyr sydd i “cysylltiedig” ag sydd yn Neddf Darlledu 1990 yn rhinwedd adran 202 y Ddeddf honno;

yr un ystyr sydd i “sigarét electronig” ag sydd yn adran 368R;

yr un ystyr sydd i “gynhwysydd ail-lenwi sigarét electronig” ag sydd yn adran 368R;

ystyr “ffilm a gynhyrchir ar gyfer y sinema” yw ffilm a gynhyrchir gyda’r bwriad o’i dangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf mewn sinema;

yr un ystyr sydd i “fformiwla ddilynol” ag sydd yn Erthygl 2 Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla i fabanod a fformiwla ddilynol a diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC;

yr un ystyr sydd i “fformiwla i fabanod” ag sydd yn Erthygl 2 Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla i fabanod a fformiwla ddilynol a diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC;

yr un ystyr sydd i ‘cynnyrch meddyginiaethol’ ag sydd yn adran 130 Deddf Meddyginiaethau 1968;

ystyr “meddyginiaeth sydd dim ond ar gael ar bresgripsiwn” yw cynnyrch meddyginiaethol disgrifiad neu gynnyrch sy’n dod dan ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaethpwyd dan adran 58 Deddf Meddyginiaethau 1968;

ystyr “cynhyrchydd” mewn cysylltiad â rhaglen, yw’r sawl sy’n cyflawni’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu’r rhaglen;

nid yw "rhaglen" yn cynnwys hysbyseb;

Ystyr “darparwr perthnasol” mewn cysylltiad â rhaglen yw:

(a)  darparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu y mae’r rhaglen yn rhan ohono; a

(b)  chynhyrchydd y rhaglen;

Mae “gwerth gweddilliol” yn golygu unrhyw werth ariannol neu economaidd arall sy’n nwylo’r darparwr perthnasol ar wahân i arbedion costau cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen, neu gyfeirio ato.

ystyr “gwerth sylweddol” yw gwerth gweddilliol sy’n fwy na gwerth dibwys;

ystyr sydd i “cynnyrch tybaco” ag sydd yn adran 1 Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002;

mae “nod masnach”, mewn cysylltiad â busnes, yn cynnwys unrhyw ddelwedd (fel logo) neu sain a gysylltir yn gyffredin â’r busnes hwnnw, neu ei gynhyrchion neu ei wasanaethau.”

Atodlen 2 (Rhan 1), Deddf Darlledu 1990 (fel y’i diwygiwyd) (darpariaethau o ran diffiniad o ‘rywun cysylltiedig’)

1

(1) Yn yr Atodlen hon—

Ystyr “Deddf 1996 “ yw Deddf Darlledu 1996;

mae “asiantaeth hysbysebu” yn golygu unigolyn neu gorff corfforaethol sy’n rhedeg busnes fel asiant hysbysebu (naill ai ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth) neu sy’n rheoli unrhyw gorff corfforaethol sy’n rhedeg busnes fel asiant hysbysebu, ac mae unrhyw gyfeiriad at asiantaeth hysbysebu yn cynnwys cyfeiriad at unigolyn sy’n—
(a)gyfarwyddwr neu’n swyddog unrhyw gorff corfforaethol sy’n rhedeg busnes o’r fath, neu
(b)sy’n cael ei gyflogi gan unrhyw un sy’n rhedeg busnes o’r fath;

“aelod cyswllt”—
(a)dylid ei ddehongli yn unol â pharagraff (1A) mewn cysylltiad â chorfforaeth, a
(b)dylid ei ddehongli yn unol ag is-baragraff (2) mewn cysylltiad ag unigolyn;

mae “trwydded Deddf Darlledu” yn golygu trwydded dan Ran 1 neu 3 y Ddeddf hon neu Ran 1 neu 2 o Ddeddf Darlledu 1996;

“rheolaeth”—
(a)dylid ei ddehongli yn unol ag is-baragraff (3) mewn cysylltiad â chorfforaeth, ac
(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gorff arall ar wahân i gorfforaeth, mae’n golygu pŵer unigolyn i sicrhau, drwy ba bynnag ffordd, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, y caiff materion y corff a enwir am y tro cyntaf eu cynnal yn unol â dymuniadau’r unigolyn hwnnw;

mae “cyfalaf cyfrannau ecwiti” yn golygu’r un fath â’r ystyr yn y Deddfau Cwmnïau (gweler adran 548 o Ddeddf Cwmnïau 2006);

“awdurdod lleol”—
(a)yn Lloegr ... yw unrhyw un o’r canlynol, sef cyngor sir, dosbarth neu fwrdeistref yn Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain a Chyngor Ynysoedd Scilly;
(aa) yng Nghymru, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b)yn yr Alban, cyngor a ffurfiwyd dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac ati (yr Alban) 1994; ac
(c)yng Ngogledd Iwerddon, cyngor dosbarth;

mae “cyfranogwr”, mewn cysylltiad â chorfforaeth, yn golygu rhywun sydd â chyfrannau yn y corff hwnnw, neu rywun sydd â hawl lesiannol i gael rhai, neu rywun sydd â phŵer pleidleisio yn y corff hwnnw;

(1A)  At ddibenion pennu’r unigolion sy’n gysylltiedig â chorff corfforaethol at ddibenion yr Atodlen hon—
(a)dylid ystyried unigolyn fel cysylltai/rhywun sy’n gysylltiedig â chorff corfforaethol os yw’n gyfarwyddwr y corff corfforaethol hwnnw, a
(b)dylid ystyried bod corff corfforaethol a chorff corfforaethol arall yn gysylltiedig â’i gilydd os bydd un yn rheoli’r llall neu os bydd yr un unigolyn yn rheoli’r ddau.
(2)  At ddibenion pennu’r bobl sy’n gysylltiedig ag unigolyn at ddibenion yr Atodlen hon, dylid ystyried bod y bobl ganlynol yn gysylltiedig â’i gilydd, sef—
(a)unrhyw unigolyn a gŵr neu wraig neu bartner sifil yr unigolyn hwnnw, ac unrhyw berthynas, neu ŵr neu wraig neu bartner sifil perthynas yr unigolyn hwnnw, neu ŵr neu wraig neu bartner sifil yr unigolyn hwnnw;
(b)unrhyw unigolyn ac unrhyw gorff corfforaethol y mae’r unigolyn hwnnw’n gyfarwyddwr arno;
(c)unrhyw unigolyn yn ei swyddogaeth fel ymddiriedolwr setliad a’r setlwr neu’r rhoddwr ac unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â’r setlwr neu’r rhoddwr;
(d)unigolion sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth a gŵr neu wraig neu bartner sifil a pherthnasau unrhyw un ohonynt;
(e)unrhyw ddau unigolyn neu fwy sy’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau neu arfer rheolaeth dros gorff corfforaethol neu gymdeithas arall neu er mwyn sicrhau rheolaeth dros unrhyw fenter neu asedau; ac yn yr is-baragraff hwn, mae “perthynas” yn golygu brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai, nith, cyndad neu ddisgynnydd uniongyrchol (dylid ystyried llysblentyn neu blentyn anghyfreithlon unrhyw unigolyn, neu unrhyw un sydd wedi’i fabwysiadu gan unigolyn, naill ai’n gyfreithiol neu fel arall, fel ei blentyn yn berthynas, neu dylid ystyried olrhain perthynas yn yr un ffordd â phlentyn yr unigolyn hwnnw); a dylai cyfeiriadau at wraig neu ŵr gynnwys cyn wraig neu ŵr a gwraig neu ŵr honedig a dylai cyfeiriadau at bartner sifil gynnwys cyn bartner sifil a phartner sifil honedig.

(3)  At ddibenion yr Atodlen hon, bydd unigolyn yn rheoli corff corfforaethol—
(a)os bydd yn dal, neu os bydd ganddo hawl lesiannol i fwy na 50 y cant o gyfalaf cyfran ecwiti yn y corff, neu’n meddu ar fwy na 50 y cant o’r pŵer pleidleisio yn y corff; neu
(b)er nad oes ganddo fudd o’r fath yn y corff, ei bod yn rhesymol, ac ystyried yr holl amgylchiadau, disgwyl y byddai (petai’n dewis hynny) yn gallu yn y rhan fwyaf o achosion, neu ym mhob agwedd o bwys, drwy ba bynnag ffordd, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, cyflawni’r canlyniad er mwyn cynnal materion y corff yn unol â’i ddymuniadau; neu
(c)ei fod yn dal, neu fod ganddo’r hawl lesiannol i 50 y cant o gyfalaf cyfrannau ecwiti’r corff hwnnw, neu’n meddu ar 50 y cant o’r pŵer pleidleisio yn y corff, a bod trefniant rhyngddo ef ac unrhyw un arall yn y corff ynghylch y dull y caiff unrhyw bŵer pleidleisio yn y corff ei ddefnyddio gan unrhyw un ohonynt, neu drwy anwaith gan unrhyw un ohonynt i arfer pŵer pleidleisio o’r fath.

(3A)  At ddibenion is-baragraff (3)(c)—
(a)mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw gytundeb neu drefniant, p’un ai y gellir ei orfodi’n gyfreithiol, neu os mai dyma yw’r bwriad, a
(b)dylid trin unigolyn—
(i)fel rhywun sy’n dal, neu sydd â hawl lesiannol, i unrhyw gyfalaf cyfrannau ecwiti sy’n cael ei ddal gan gorff corfforaethol y mae’n ei reoli neu y mae gan gorff corfforaethol o’r fath hawl lesiannol, ac
(ii)fel rhywun sy’n meddu ar unrhyw bŵer pleidleisio gan gorff corfforaethol o’r fath.

(4)  …

(5)  At ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Atodlen hon sy’n cyfeirio at gorff a gaiff ei reoli gan ddau neu fwy o unigolion neu gyrff unrhyw ddisgrifiad a nodir gyda’i gilydd, ni ddylid ystyried bod yr unigolion neu’r cyrff dan sylw yn rheoli’r corff yn rhinwedd paragraff (b) is-baragraff (3) oni bai eu bod yn gweithredu gyda’i gilydd.

(6)  Yn yr Atodlen hon, bydd unrhyw gyfeiriad at gyfranogwr sydd â mwy na 5 y cant o fudd mewn corff corfforaethol yn gyfeiriad at unigolyn—
(a)sy’n dal mwy na 5 y cant o gyfrannau’r corff hwnnw, neu sydd â hawl lesiannol i wneud hynny, neu
(b)sy’n dal mwy na 5 y cant o’r pŵer pleidleisio yn y corff hwnnw.

(7)  Bydd is-baragraff (6) yn dod i rym yn amodol ar yr addasiadau angenrheidiol mewn cysylltiad â chyfeiriadau eraill yn yr Atodlen hon—
(a)i fudd o fwy na chanran benodol mewn corfforaeth, neu
(b)i fudd canran benodol neu fwy mewn corfforaeth.

2
(1)  Yn amodol ar is-baragraff (1A), unrhyw gyfeiriad ym mharagraff 1 uchod i unigolyn—
(a)sydd â chyfrannau, neu unrhyw swm o’r cyfrannau neu’r cyfalaf cyfrannau ecwiti mewn corfforaeth, neu sydd â hawl i wneud hynny, neu
(b)sydd â phŵer pleidleisio, neu unrhyw faint o’r pŵer pleidleisio, mewn corfforaeth,
(c)sy’n gyfeiriad at wneud hynny, neu sydd â’r hawl, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd gydag un unigolyn neu fwy, boed hynny’n uniongyrchol neu drwy un enwebai neu fwy.

(1A)  At ddibenion yr Atodlen hon, dylid diystyru unigolyn sydd â chyfrannau, neu sydd â hawl i bleidleisio mewn corff corfforaethol os, neu i’r graddau—
(a)ei fod yn dal y cyfrannau dan sylw—
(i)fel enwebai,
(ii)fel ceidwad (naill ai dan ymddiriedaeth neu dan gontract), neu
(iii)dan drefniant yn unol â’r derbynebau ar gyfer adneuon y mae wedi’u cyhoeddi, neu’n bwriadu eu cyhoeddi. . ., yng nghyswllt y cyfrannau dan sylw, ac
(b)nid oes ganddo hawl i arfer na rheoli ymarfer hawliau pleidleisio mewn cysylltiad â’r cyfrannau dan sylw.

(1AA)  Yn is-baragraff (1A)(a)(iii), mae “derbynebau ar gyfer adneuon” yn golygu tystysgrif neu gofnod arall (ar ffurf dogfen ai peidio)—
(a)a gyhoeddir gan unigolyn sydd â chyfrannau neu ar ei ran, neu sydd â thystiolaeth o’r hawl i gael cyfrannau, neu sydd â budd mewn cyfrannau mewn corff corfforaethol penodol; ac
(b)sy’n dangos tystiolaeth neu’n cydnabod bod gan unigolyn arall hawliau mewn cysylltiad â’r cyfrannau hynny neu gyfrannau cyffelyb, sy’n cynnwys yr hawl i gael cyfrannau o’r fath (neu dystiolaeth o’r hawl i gael cyfrannau o’r fath) gan yr unigolyn a enwir ym mharagraff (a).

(1B)  At ddibenion is-baragraff (1A)(b)—
(a)does gan unigolyn ddim hawl i arfer na rheoli ymarfer hawliau pleidleisio mewn cysylltiad â chyfrannau os yw’n rhwym (wrth gontract neu fel arall) i beidio ag arfer yr hawliau pleidleisio, neu i beidio â’u harfer oni bai eu bod yn unol â chyfarwyddiadau rhywun arall, a
(b)dylid ystyried hawliau pleidleisio y mae gan unigolyn yr hawl i’w harfer neu y mae ganddo’r hawl i reoli’r arfer mewn amgylchiadau penodol dim ond pan fydd yr amgylchiadau hynny wedi codi ac am ba hyd bynnag y byddant yn dal i godi.

3
At ddibenion yr Atodlen hon, dylid trin yr unigolion canlynol fel rhai sy’n gysylltiedig ag unigolyn penodol—
(a)rhywun sy’n rheoli’r unigolyn hwnnw,
(b)cysylltai/rhywun sy’n gysylltiedig â’r unigolyn hwnnw neu unigolyn sy’n dod dan baragraff (a), a
(c)chorff a reolir gan yr unigolyn hwnnw neu gan gysylltai/rhywun sy’n gysylltiedig â’r unigolyn hwnnw.

Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd)

Pennod 55

Triniaeth anghyfiawn neu annheg neu dresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad

Adran 107

(1)  Bydd yn ddyletswydd ar Ofcom i lunio cod, a’i adolygu o bryd i’w gilydd, sy’n rhoi arweiniad ar yr egwyddorion sydd i’w cadw a’r arferion sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag osgoi:

  • (a)  triniaeth anghyfiawn neu annheg mewn rhaglenni y mae’r adran hon yn berthnasol iddynt; neu
  • (b)  tarfu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad wrth gael, neu mewn cysylltiad â chael, deunydd a gynhwysir mewn rhaglenni o’r fath.