Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Atodiad 3: Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol: Erthyglau 8, 9, 10 a 14

03 Ebrill 2017

Erthygl 8

1. Mae gan bawb yr hawl i barch at ei fywyd preifat a theuluol, ei gartref a’i ohebiaeth.

2. Ni chaiff awdurdod cyhoeddus ymyrryd ag arfer yr hawl hon ac eithrio’r hyn sy’n unol â’r gyfraith ac sy’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, i atal troseddu neu anhrefn, neu i ddiogelu iechyd neu foesau, neu i ddiogelu hawliau a rhyddid pobl eraill.

Erthygl 9

1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; mae’r hawl hon yn cynnwys rhyddid i newid ei grefydd neu gred a rhyddid, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill, ac yn gyhoeddus neu’n breifat, i ddangos ei grefydd neu’i gred, mewn addoli, addysgu, arfer a defod.

2. Rhaid peidio â chyfyngu ar y rhyddid i amlygu crefydd neu gredoau yr hunan ond drwy’r cyfyngiadau hynny a ragnodir gan y gyfraith ac sy’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er lles diogelwch y cyhoedd, er mwyn diogelu’r drefn gyhoeddus, iechyd neu foesau, neu er mwyn diogelu hawliau a rhyddid pobl eraill.

Erthygl 10

1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid i lefaru. Rhaid i’r hawl hon gynnwys rhyddid i arddel barnau ac i gael a rhannu gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdod cyhoeddus a heb ystyried ffiniau. Ni fydd yr Erthygl hon yn atal Gwladwriaethau rhag pennu gofyniad i drwyddedu mentrau darlledu, teledu neu sinema.

2. Gall arfer y rhyddid hwn, gan fod dyletswyddau a chyfrifoldebau’n cyd-fynd ag ef, fod yn amodol ar ffurfioldebau, amodau, cyfyngiadau neu gosbau a ragnodir gan y gyfraith ac sy’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd, er lles diogelwch cenedlaethol, uniondeb tiriogaethol neu ddiogelwch y cyhoedd, i atal troseddu ac anhrefn, i ddiogelu iechyd neu foesau, i ddiogelu enw da neu hawliau pobl eraill, i atal datgelu gwybodaeth a gafwyd yn gyfrinachol, neu i gynnal awdurdod a didueddrwydd y farnwriaeth.

Erthygl 14

1. Rhaid sicrhau yr arferir yr hawliau a’r rhyddid a bennwyd yn y Confensiwn hwn heb wahaniaethu ar unrhyw sail fel rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.