Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rhan Tri: Rheolau Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw

23 Mawrth 2017

    [Noder bod gwaith yn mynd rhagddo ar ddiweddaru’r rheolau hyn]

Cyflwyniad

Mae’r rhan hon ond yn berthnasol i Wasanaethau Rhaglenni Ar-alw. Mae’n nodi’r gofynion statudol y mae’n rhaid i ddarparwyr Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw gydymffurfio â nhw (“Rheolau Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw”).

Mae Ofcom yn cyhoeddi arweiniad i helpu darparwyr Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw i ddeall sut mae Ofcom yn dehongli rheolau'r Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw. Mae'r arweiniad hwn ar gael ar wefan Ofcom[1] .

Mae Ofcom hefyd yn cyhoeddi arweiniad ar wahân ynghylch beth sydd yn Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw a phwy sydd angen hysbysu Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw i Ofcom[2] .

Ni chaiff y gofynion statudol ar gyfer hysbysebu ar Wasanaethau Rhaglenni Ar-alw eu cynnwys yma. Mae Ofcom wedi dynodi’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn gyd-reoleiddiwr mewn perthynas â hysbysebu mewn Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw o 1 Medi 2010 ymlaen[3] .

Cefndir Deddfwriaethol y Rheolau ar Wasanaethau Rhaglenni Ar-alw

Mae’r Rheolau ar Wasanaethau Rhaglenni Ar-alw yn adlewyrchu Rhan 4A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, sydd yn ei thro yn gweithredu’r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol  (“Cyfarwyddeb AVMS”). Mae’r Rheolau’n cynnwys cyfeiriadau yn y troednodiadau at y darpariaethau statudol sy’n sail iddynt. Pan fydd darparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw yn torri Rheol, mae hynny’n golygu ei fod wedi torri’r ddarpariaeth statudol berthnasol. Os bydd unrhyw wrthdaro anfwriadol yn yr ystyr neu’r dehongliad rhwng y Rheolau a’r Ddeddf, y Ddeddf fydd drechaf. Mae gweithdrefnau Ofcom ar gyfer ymchwilio i achosion posibl o dorri Rheolau Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw ar gael ar ei wefan[5].

Bydd diffiniadau statudol yn cael eu darparu pan fydd hynny’n briodol. Sylwch fod y ddeddfwriaeth yn defnyddio’r term “awdurdod rheoleiddio priodol”. Ac eithrio mewn perthynas â hysbysebu, na ddaw o dan y Rheolau hyn, mae hynny’n golygu Ofcom oherwydd nad oes unrhyw gorff wedi cael ei ddynodi o dan adran 368B ar hyn o bryd.

Rheolau

Rheolau gweinyddol

Rheol 1: Hysbysiad o fwriad i ddarparu Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw[6]

Rhaid i berson beidio â darparu Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw oni bai, cyn dechrau ei ddarparu, bod y person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i Ofcom o fwriad y person i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

Rhaid anfon hysbysiad o’r fath i Ofcom mewn ffordd o’r fath, a gan gynnwys gwybodaeth o’r fath, y gall Ofcom fynnu.

Rheol 2: Hysbysiad o fwriad i wneud newidiadau sylweddol i wasanaeth sydd wedi’i hysbysu[7]

Rhaid i berson sydd wedi rhoi hysbysiad, cyn darparu’r gwasanaeth sydd wedi'i hysbysu gydag unrhyw wahaniaethau sylweddol, roi hysbysiad i Ofcom ynghylch y gwahaniaethau.

Rhaid anfon hysbysiad o’r fath i Ofcom mewn ffordd o’r fath, a gan gynnwys gwybodaeth o’r fath, y gall Ofcom fynnu.

Rheol 3: Hysbysiad o fwriad i roi’r gorau i ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i hysbysu[8]

Rhaid i berson sydd wedi rhoi hysbysiad, cyn rhoi’r gorau i’w ddarparu, roi hysbysiad i Ofcom o’r bwriad i roi’r gorau i ddarparu’r gwasanaeth.

Rhaid anfon hysbysiad o’r fath i Ofcom mewn ffordd o’r fath, a gan gynnwys gwybodaeth o’r fath, y gall Ofcom fynnu.

Rheol 4: Talu ffi ofynnol[9]

Rhaid i ddarparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw dalu ffi i Ofcom fel y gall Ofcom ei fynnu o dan adran 368NA o’r Ddeddf.

Rheol 5: Cadw rhaglenni am o leiaf 42 diwrnod[10]

Rhaid i ddarparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw gadw copi o bob rhaglen sy’n cael ei chynnwys yn y gwasanaeth am o leiaf 42 diwrnod ar ôl y diwrnod pan na fydd y rhaglen ar gael i’w gwylio.

Rhaid i’r copi o’r rhaglen a gedwir fod o safon ac mewn fformat sy’n golygu bod modd gwylio’r rhaglen fel y cafodd ei gwneud ar gyfer ei gwylio.

Rheol 6: Darparu gwybodaeth[11]

Rhaid i ddarparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw gydymffurfio ag unrhyw ofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan adran 368O o’r Ddeddf. Mae “gwybodaeth” yn cynnwys copïau o raglenni.

Mae Ofcom yn mynnu bod person sy’n ymddangos iddo ei fod neu y bu yn ddarparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw ac sydd â gwybodaeth sydd ei hangen ar Ofcom er mwyn sicrhau cydymffurfiad â rhwymedigaethau’r Deyrnas Unedig o dan y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol yn darparu’r holl wybodaeth o’r fath fel y mae Ofcom yn ystyried sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Efallai na fydd Ofcom yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei darparu o dan adran 368O oni bai ei fod wedi rhoi cyfle i’r person y gofynnir iddynt am y wybodaeth wneud sylwadau am y materion sy’n ymddangos i Ofcom eu bod yn rhoi rheswm dros wneud y cais.

Rhaid i Ofcom beidio â gofyn am ddarparu gwybodaeth o dan adran 368O ac eithrio drwy ofyn am y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn hysbysiad a fydd wedi’i gyflwyno i’r sawl y gofynnir iddynt am y wybodaeth sy’n disgrifio’r wybodaeth ofynnol ac sy’n nodi rhesymau Ofcom dros ofyn am y wybodaeth.

Rhaid i berson y mae gofyn iddyn nhw ddarparu gwybodaeth o dan yr adran hon ddarparu’r wybodaeth mewn ffordd ac o fewn cyfnod rhesymol fel sy’n cael ei bennu gan Ofcom yn yr alwad am wybodaeth.

Rheol 7: Cydweithredu[12]

Rhaid i ddarparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw gydweithredu’n llawn ag Ofcom at unrhyw ddiben yn adran 368O(2) neu (3).

Rheol 8: Cydymffurfio â hysbysiadau gorfodaeth[13]

Rhaid i ddarparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw gydymffurfio ag unrhyw hysbysiad gorfodaeth a gaiff.

Rheol 9: Cyflenwi Gwybodaeth[14]

Rhaid i ddarparwyr Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw ddarparu’r wybodaeth ganlynol i ddefnyddwyr y gwasanaeth—

(a) enw’r darparwr;
(b) cyfeiriad y darparwr;
(c) cyfeiriad electronig y darparwr[15] ; a
(d) Enw, cyfeiriad a chyfeiriad electronig Ofcom (a’r Awdurdod Safonau Hysbysebu mewn perthynas â chynnwys hysbysebion).

Rheolau golygyddol

Rheol 10: Deunydd Niweidiol: Deunydd sy’n Debygol o Gymell Casineb[16]

Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sy’n debygol o gymell casineb ar sail hil, rhyw, crefydd neu genedligrwydd.

Rheol 11: Deunydd Niweidiol: Diogelu Pobl Ifanc dan 18 (Deunydd dan Gyfyngiadau Arbennig)[17]

Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd dan gyfyngiadau arbennig oni bai fod y deunydd ar gael mewn ffordd sy’n diogelu na fydd pobl ifanc o dan 18 fel rheol yn ei weld na’i glywed.

Ystyr “deunydd dan gyfyngiadau arbennig” ydy—

(a)gwaith fideo y mae'r awdurdod gwaith fideo[18] wedi cyhoeddi tystysgrif dosbarthiad R18 mewn perthynas ag ef;
(b)deunydd y mae ei natur yn golygu y byddai’n rhesymol disgwyl petai’r deunydd yn cael ei gynnwys mewn gwaith fideo a gyflwynwyd i’r awdurdod gwaith fideo ar gyfer tystysgrif dosbarthiad, byddai’r awdurdod gwaith fideo yn cyhoeddi tystysgrif dosbarthiad R18; neu
(c)ddeunydd arall a allai amharu’n ddifrifol ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl ifanc o dan 18 oed.

Wrth benderfynu a fydd unrhyw ddeunydd yn perthyn i (b), rhaid ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan yr awdurdod gwaith fideo yng nghyswllt ei bolisi mewn perthynas â chyhoeddi tystysgrifau dosbarthiad.

Diffiniadau statudol sy’n berthnasol i Reol 11 - adran 368E(7)

Ystyr “Deddf 1984 “ yw Deddf Recordiadau Fideo 1984;

mae “tystysgrif dosbarthiad” yn golygu’r un fath â’r ystyr ag sydd yn Neddf 1984 (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno[19] );

Ystyr “tystysgrif dosbarthiad R18” yw tystysgrif dosbarthiad sy’n cynnwys y datganiad a grybwyllir yn adran 7(2)(c) o Ddeddf 1984 na chaiff recordiad fideo sy’n cynnwys y gwaith fideo ei gyflenwi ac eithrio mewn siop rhyw gofrestredig;

Ystyr “yr awdurdod gwaith fideo” yw'r person neu’r personau a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf 1984 fel yr awdurdod sy’n gyfrifol am lunio trefniadau mewn perthynas â gwaith fideo ac eithrio gemau fideo;

mae “gwaith fideo” yn golygu’r un fath â’r ystyr ag sydd yn Neddf 1984 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).”

Rheol 12: Nawdd[20]

(1) Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw neu raglen sy’n cael ei chynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni ar-alw beidio â chael ei noddi—

(a)er mwyn hyrwyddo sigaréts neu gynnyrch tybaco arall, neu
(b)gan ymgymeriad ei brif weithgarwch yw cynhyrchu neu werthu sigaréts neu gynhyrchion tybaco eraill.

(1A) Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw neu raglen sydd wedi’i chynnwys mewn Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw beidio â chael ei noddi er mwyn hyrwyddo sigaréts electronig neu gynhwysyddion ail-lenwi sigaréts electronig.

(2) Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw neu raglen sydd wedi’i chynnwys mewn Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw beidio â chael ei noddi er mwyn hyrwyddo meddyginiaeth sydd ond ar gael ar bresgripsiwn.

(3) Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw beidio â chynnwys rhaglen newyddion neu raglen materion cyfoes a noddir.

(4) Mae paragraffau 11.22 i (11.28) yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw a noddir neu sy’n cynnwys rhaglen a noddir.

(5) Rhaid i noddi gwasanaeth neu raglen beidio â dylanwadu ar gynnwys y rhaglen mewn ffordd sy’n effeithio ar annibyniaeth olygyddol darparwr y gwasanaeth.

(6) Pan fydd gwasanaeth neu raglen yn cael ei noddi er mwyn hyrwyddo nwyddau neu wasanaethau, rhaid i’r gwasanaethau neu’r rhaglen a noddir a chyhoeddiadau nawdd sy’n ymwneud ag ef beidio â hybu’n uniongyrchol prynu neu rentu’r nwyddau neu’r gwasanaethau, boed hynny drwy gyfeirio atyn nhw mewn ffordd sy’n hyrwyddo neu fel arall.

(7) Pan fydd gwasanaeth neu raglen yn cael ei noddi er mwyn hyrwyddo diod alcoholig, rhaid i’r gwasanaeth neu’r rhaglen a’r cyhoeddiadau nawdd sy’n ymwneud ag ef beidio â—

(a) bod wedi’i anelu’n benodol at bobl dan ddeunaw oed; neu
(b) annog yfed eithafol ar ddiodydd o’r fath.
(8) Rhaid i wasanaeth a noddir roi gwybod yn glir i ddefnyddwyr bod cytundeb noddi mewn bodolaeth

(9) Rhaid i enw’r noddwr a’r logo neu symbol arall (os oes un o gwbl) y noddwr gael ei ddangos ar ddechrau neu ar ddiwedd rhaglen sy’n cael ei noddi.

(10) Ni cheir defnyddio technegau sy’n manteisio ar bosibilrwydd cyfleu neges yn isganfyddol neu’n llechwraidd mewn cyhoeddiadau nawdd.

(11) Rhaid i gyhoeddiad nawdd beidio â—

(a) niweidio'r parch at urddas dynol;
(b) cynnwys hybu gwahaniaethu ar sail rhyw, tarddiad hiliol neu ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, anabledd, oed neu gyfeiriadedd rhywiol;
(c) annog ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd neu ddiogelwch;
(d) annog ymddygiad sy’n hynod niweidiol i’r gwaith o ddiogelu'r amgylchedd;
(e) achosi niwed corfforol neu foesol i bobl dan ddeunaw oed;
(f) annog y bobl hyn yn uniongyrchol i berswadio eu rhieni neu bobl eraill i brynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau;
(g) manteisio ar ymddiriedaeth y bobl hyn mewn rhieni, athrawon neu bobl eraill; neu
(h) dangos y bobl hyn yn afresymol mewn sefyllfaoedd peryglus.

Diffiniad statudol o ‘raglen noddedig’ - adran 368G(12) a (13)

Mae rhaglen sy’n cael ei chynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni ar-alw yn “noddedig” os bydd person (“y noddwr”) ac eithrio:

(a)darparwr y gwasanaeth hwnnw, neu
(b)cynhyrchydd y rhaglen honno,

wedi talu am holl gostau'r rhaglen neu rywfaint er mwyn hyrwyddo enw, nod masnach, delwedd, gweithgareddau, gwasanaethau neu gynnyrch y noddwr neu berson arall.

Ni chaiff rhaglen ei noddi os yw’n disgyn o fewn y diffiniad hwn dim ond drwy rinwedd cynnwys gosod cynnyrch[21] neu osod propiau[22] (gweler yr Arweiniad ar Reol 13).

Diffiniad statudol o wasanaeth rhaglenni ar-alw noddedig - adran 368G(15) a (16)

Mae gwasanaeth rhaglenni ar-alw yn “noddedig” os oes person (“y noddwr”) ac eithrio darparwr y gwasanaeth wedi talu am holl gostau darparu’r gwasanaeth neu rywfaint er mwyn hyrwyddo enw, nod masnach, delwedd, gweithgareddau, gwasanaethau neu gynnyrch y noddwr neu berson arall.

Ni ystyrir bod person wedi talu am gostau darparu gwasanaeth neu rywfaint dim ond os ydy rhaglen sydd wedi cael ei chynnwys yn y gwasanaeth hwnnw wedi cael ei noddi gan y person hwnnw.

Diffiniad statudol o “gyhoeddiad nawdd” – adran 368G(17)

Ystyr “cyhoeddiad nawdd” yw:

(a)unrhyw beth sydd wedi cael ei gynnwys er mwyn cydymffurfio â’r gofynion i roi gwybod yn glir i ddefnyddwyr am fodolaeth cytundeb nawdd a dangos ar ddechrau neu ddiwedd rhaglen noddedig enw’r noddwr a’r logo neu symbol arall (os oes un o gwbl) y noddwr; ac

(b)unrhyw beth sydd wedi cael ei gynnwys ar yr un pryd neu fel arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth ym mharagraff (a).

Diffiniad statudol o “gynnyrch tybaco” – adran 1 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002

Ystyr “cynnyrch tybaco” ydy cynnyrch sy’n cynnwys tybaco yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac y bwriedir iddo gael ei ysmygu, ei snwffio, ei sugno neu ei gnoi.

Diffiniadau statudol o “sigarét electronig” a “chynhwysydd ail-lenwi sigarét electronig” – adran 368R(1) o'r Ddeddf

Mae “sigarét electronig” yn golygu cynnyrch:

(a)mae modd ei ddefnyddio i gael anwedd sy’n cynnwys nicotin drwy declyn sy’n cael ei roi mewn ceg, neu unrhyw ran o’r cynnyrch hwnnw, gan gynnwys cetrisen, tanc a’r ddyfais heb getrisen neu danc (ni waeth a yw’n un sy’n cael ei ddefnyddio unwaith neu’n un mae modd ei ail-lenwi drwy ddefnyddio cynhwysydd ail-lenwi a thanc, neu un mae modd ei ailwefru gyda chetrisen mae modd ei defnyddio unwaith), ac

(b)nad yw’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Mae “cynhwysydd ail-lenwi sigarét electronig” yn golygu llestr sydd:

(a)yn cynnwys hylif sy’n cynnwys nicotin, mae modd ei ddefnyddio i ail-lenwi sigarét electronig; a

(b)nad yw’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Rheol 13: Gwahardd Gosod Cynnyrch ac Eithriadau[23]

Nodyn:

Mae paragraffau 11.29 i 11.32 ond yn berthnasol mewn perthynas â rhaglenni y dechreuwyd eu cynhyrchu ar ôl 19 Rhagfyr 2009. Mae gwahardd gosod cynnyrch sigaréts electronig a chynhwysyddion ail-lenwi sigaréts electronig ond yn berthnasol mewn perthynas â rhaglenni y dechreuwyd eu cynhyrchu ar ôl 19 Mai 2016.

Gosod Cynnyrch wedi’i Wahardd

Mae gosod cynnyrch wedi’i wahardd mewn rhaglenni i blant sydd wedi cael eu cynnwys mewn Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw.

Mae gosod cynnyrch wedi cael ei wahardd mewn Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw os—

(a)bydd yn cynnwys sigaréts neu gynnyrch tybaco arall,
(b)bydd gan neu ar ran ymgymeriadau sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu sigaréts neu gynhyrchion tybaco eraill fel eu prif weithgarwch, neu
(c)bydd yn feddyginiaethau sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig; neu
(d)bydd yn sigaréts electronig neu’n gynhwysyddion ail-lenwi.

Rhaid i osod cynnyrch gyda diodydd alcoholig beidio—


(a)â bod wedi’i anelu’n benodol at bobl dan ddeunaw oed;
(b)ag annog yfed eithafol ar ddiodydd o’r fath.

Gosod Cynnyrch a Ganiateir

Yn amodol ar yr uchod, mae gosod cynnyrch yn cael ei ganiatáu fel arall mewn rhaglenni sydd wedi cael eu cynnwys mewn gwasanaethau rhaglenni ar-alw ar yr amod—

(a)bod amodau A i F isod yn cael eu bodloni, a
(b)pan fydd y rhaglen sy’n cynnwys y gosod cynnyrch wedi cael ei chynhyrchu neu ei chomisiynu gan y darparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw neu unrhyw berson cysylltiedig, bod amod G hefyd yn cael ei fodloni.

Amodau A i Dd

Amod A:

Mae’r rhaglen sy’n cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu sy’n cyfeirio ato, yn—

a)ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer y sinema;
b)ffilm neu gyfres a gynhyrchwyd ar gyfer gwasanaeth rhaglenni teledu neu wasanaeth rhaglenni ar gais;
c)rhaglen chwaraeon; neu
d)rhaglen adloniant ysgafn.

Amod B

Nid yw gosod cynnyrch wedi dylanwadu ar gynnwys y rhaglen mewn ffordd sy’n effeithio ar annibyniaeth olygyddol darparwr y gwasanaeth.

Amod C

Ni ddylai gosod cynnyrch annog prynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau yn uniongyrchol, boed hynny drwy gyfeirio at y nwyddau neu’r gwasanaethau mewn ffordd sy’n eu hyrwyddo neu fel arall.

Amod Ch

Ni ddylai’r rhaglen roi amlygrwydd amhriodol i’r cynhyrchion, y gwasanaethau na’r nodau masnach dan sylw;

Amod D

Ni ddylai gosod cynnyrch ddefnyddio technegau sy’n manteisio ar bosibilrwydd cyfleu neges yn isganfyddol neu’n llechwraidd.

Amod Dd

Nid yw’r ffordd y mae cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, yn cael ei gynnwys yn y rhaglen, neu’r cyfeiriad ato, drwy osod cynnyrch yn—

(a)niweidio'r parch at urddas dynol;
(b)hybu gwahaniaethu ar sail rhyw, tarddiad hiliol neu ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, anabledd, oed neu gyfeiriadedd rhywiol;
(c)annog ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd neu ddiogelwch;
(d)annog ymddygiad sy’n hynod niweidiol i’r gwaith o ddiogelu'r amgylchedd;
(e)achosi niwed i bobl dan ddeunaw oed;
(f)annog y bobl hyn yn uniongyrchol i berswadio eu rhieni neu bobl eraill i brynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau;
(g)manteisio ar ymddiriedaeth y bobl hyn mewn rhieni, athrawon neu bobl eraill; neu
(h)dangos y bobl hyn yn afresymol mewn sefyllfaoedd peryglus.

Amod G

Mae’r Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw dan sylw yn tynnu sylw’n briodol at y ffaith bod gosod cynnyrch wedi cael ei gynnwys mewn rhaglenni, ddim yn llai aml na—

(a) ar ddechrau ac ar ddiwedd rhaglen o’r fath, ac
(b) o ran gwasanaeth rhaglenni ar-alw sy’n cynnwys egwyliau hysbysebion, pan fydd y rhaglen yn ailddechrau ar ôl pob egwyl hysbysebion o’r fath.

Nodyn: Mae Amod G yn berthnasol dim ond pan fydd y rhaglen sy’n cynnwys y gosod cynnyrch wedi cael ei chynhyrchu neu ei chomisiynu gan ddarparwr y gwasanaethau neu unrhyw berson cysylltiedig.

Diffiniad statudol o “Osod cynnyrch”[24]

Ystyr “gosod cynnyrch”, mewn cysylltiad â rhaglen a gaiff ei chynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni ar-alw, yw cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen, neu gyfeirio ato mewn rhaglen, a hynny—

(a) at ddiben masnachol;
(b) yn gyfnewid am unrhyw daliad, neu roi ystyriaeth werthfawr arall, i unrhyw ddarparwr perthnasol neu unrhyw un sy’n gysylltiedig, ac
(c) heb fod yn osod propiau.

Diffiniad statudol o “Osod propiau”[25]

Ystyr “gosod propiau”, mewn cysylltiad â rhaglen a gaiff ei chynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni ar-alw, yw cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen, neu gyfeirio ato mewn rhaglen, a hynny:

(a) pan nad yw darparu cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach o werth sylweddol; a
(b) phan na fydd unrhyw ddarparwr perthnasol, neu rywun sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol, wedi cael unrhyw daliad neu ystyriaeth werthfawr arall mewn cysylltiad â’i gynnwys neu gyfeirio ato mewn rhaglen, neu y cyfeirir ati, gan anwybyddu’r costau a arbedwyd drwy gynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu gyfeirio ato mewn rhaglen.

Diffiniad statudol o “Raglen i blant”[26]

Mae “rhaglen i blant” yn golygu rhaglen a wneir:

(a) ar gyfer gwasanaeth rhaglenni teledu neu ar gyfer gwasanaeth rhaglenni ar alw; ac
(b) i’w gwylio’n bennaf gan bobl dan un ar bymtheg oed

Diffiniad statudol o “gynnyrch tybaco” – adran 1 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002

Ystyr “cynnyrch tybaco” ydy cynnyrch sy’n cynnwys tybaco yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac y bwriedir iddo gael ei ysmygu, ei snwffio, ei sugno neu ei gnoi.

Diffiniadau statudol o “sigarét electronig” a “chynhwysydd ail-lenwi sigarét electronig” – adran 368R(1) o'r Ddeddf

Mae “sigarét electronig” yn golygu cynnyrch:

(a)mae modd ei ddefnyddio i gael anwedd sy’n cynnwys nicotin drwy declyn sy’n cael ei roi mewn ceg, neu unrhyw ran o’r cynnyrch hwnnw, gan gynnwys cetrisen, tanc a’r ddyfais heb getrisen neu danc (ni waeth a yw’n un sy’n cael ei ddefnyddio unwaith neu’n un mae modd ei ail-lenwi drwy ddefnyddio cynhwysydd ail-lenwi a thanc, neu un mae modd ei ailwefru gyda chetrisen mae modd ei defnyddio unwaith), ac

(b)nad yw’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Mae “cynhwysydd ail-lenwi sigarét electronig” yn golygu llestr sydd:

(a)yn cynnwys hylif sy’n cynnwys nicotin, mae modd ei ddefnyddio i ail-lenwi sigarét electronig; a

nad yw’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Diffiniadau statudol eraill ar gyfer Rheol 13

Ystyr “ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer y sinema” yw:

ffilm a gynhyrchir gyda’r bwriad o’i dangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf mewn sinema.

Ystyr “darparwr perthnasol” mewn cysylltiad â rhaglen yw:

(a)darparwr y gwasanaeth rhaglenni ar-alw y mae’r rhaglen yn rhan ohono; a
(b)chynhyrchydd y rhaglen;

Ystyr “gwerth gweddilliol” yw:

unrhyw werth ariannol neu economaidd arall sy’n nwylo’r darparwr perthnasol ar wahân i arbedion costau cynnwys cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen, neu gyfeirio ato.

Ystyr “gwerth sylweddol” yw:

gwerth gweddilliol sy’n fwy na dibwys.

Mae “nod masnach” mewn perthynas â busnes, yn cynnwys:
unrhyw ddelwedd (fel logo) neu sain a gysylltir yn gyffredin â’r busnes hwnnw, neu ei gynhyrchion neu ei wasanaethau.

Rheol 14: Deunydd Niweidiol: Deunydd wedi’i wahardd[27]

Rhaid i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi cael ei wahardd.

Ystyr “deunydd wedi’i wahardd” yw:

(a)gwaith fideo mae’r awdurdod gwaith fideo wedi pennu at ddibenion Deddf 198428 nad yw’n addas i gael tystysgrif dosbarthiad mewn perthynas ag ef, neu
(b) deunydd y mae ei natur yn golygu y byddai’n rhesymol disgwyl petai’r deunydd yn cael ei gynnwys mewn gwaith fideo a gyflwynwyd i’r awdurdod gwaith fideo ar gyfer tystysgrif dosbarthiad, byddai’r awdurdod gwaith fideo yn penderfynu at y dibenion hynny nad oedd y gwaith fideo yn addas i gael tystysgrif dosbarthiad ar ei gyfer.

Wrth benderfynu a fydd unrhyw ddeunydd yn perthyn i (b), rhaid ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan yr awdurdod gwaith fideo (Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain) yng nghyswllt ei bolisi mewn perthynas â chyhoeddi tystysgrifau dosbarthiad.


[1] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0022/54922/rules_and_guidance.pdf

[2] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0028/71839/guidance_on_who_needs_to_notify.pdf

[3] Mae’r rheolau perthnasol ar hysbysebu ar gael yn: https://www.cap.org.uk/Advertising-Codes/Non-Broadcast/CodeItem.aspx?cscid={aa7bc9c1-4ca6-4c00-b580-a9b01fe5f00f}#.VnF2IEqLTGg

[4] Cyfarwyddeb 2007/65/EC o Senedd Ewrop a’r Cyngor 11 Rhagfyr 2007 gan ddiwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 89/552/EEC

[5] https://www.ofcom.org.uk/tv-radio-and-on-demand/information-for-industry/on-demand/rules-guidance. Mae gweithdrefnau eraill yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC.

[6] Adran 368BA o’r Ddeddf Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC.

[7] Adran 368BA o’r Ddeddf Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[8] Adran 368BA o’r Ddeddf Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[9] Adran 368D(3)(za) o'r Ddeddf. Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[10] Adran 368D(3)(zb) o’r Ddeddf. Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[11] Adran 368D(3)(a) o’r Ddeddf. Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[12] Adran 368D(3)(b) o’r Ddeddf. Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[13] Adran 368I o’r Ddeddf Nid yw’r Rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC

[14] Adran 368D(2) o’r Ddeddf. Dylai darparwyr Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw (heblaw am y BBC) hefyd nodi’r rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth o dan adran 368O o’r Ddeddf

[15] Wedi’i ddiffinio gan adran 368D(4) o'r Ddeddf fel, “cyfeiriad electronig y caiff defnyddwyr anfon deunydd cyfathrebu electronig, ac sy’n cynnwys unrhyw nifer o gyfeiriadau a ddefnyddir at ddibenion derbyn deunyddiau cyfathrebu o’r fath”.

[16] Adran 368E(1) o’r Ddeddf

[17] Adran 368E(4) a (5) o’r Ddeddf

[18] Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (“BBFC”) sydd wedi’i ddynodi yn ‘awdurdod gwaith fideo’ ar hyn o bryd

[19] http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1984/39/section/7

[20] Adran 368G o’r Ddeddf. Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC. Ond sylwch fod adrannau 9 a 10 o'r Cod Darlledu yn berthnasol i Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw y BBC ac mae’n cynnwys rheolau sy’n ymwneud â nawdd.

[21] Gweler adran 368H(1) o'r Ddeddf.

[22] Gweler adran 368H(2) o'r Ddeddf.

[23] Adran 368H o’r Ddeddf

[24] Adran 368H(1) o’r Ddeddf.

[25] Adran 368H(2) o’r Ddeddf.

[26] Adran 368R(1) o’r Ddeddf.

[27] Adran 368E(2) a (3) o’r Ddeddf

[28] Deddf Recordiadau Fideo 1984