Adran Tri: Trosedd, anhrefn, casineb a chamdriniaeth

22 Chwefror 2024

Mae adran hon y Cod yn ymdrin â deunydd sy'n debygol o ysgogi trosedd neu anhrefn, gan adlewyrchu dyletswydd Ofcom i wahardd darlledu’r mathau hyn o raglenni.

Mae yna reolau hefyd yn yr adran hon ynglŷn â deunydd sy'n cynnwys casineb, triniaeth ddifrïol a dirmygus, a phortreadau o droseddau a thrafodion troseddol. Mae’r rhain yn berthnasol i ddyletswydd Ofcom i ddarparu diogelwch digonol i’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd tramgwyddus a niweidiol mewn gwasanaethau teledu a radio; (Gweler hefyd Adran dau: Niwed a thramgwydd).

Bwriedir i'r rheolau yn yr adran hon adlewyrchu hawl darlledwyr i ryddid mynegiant a hawl cynulleidfaoedd i dderbyn gwybodaeth a syniadau. Er enghraifft, efallai y bydd darlledwyr yn dymuno adrodd ar neu gyfweld â phobl neu sefydliadau sydd â safbwyntiau eithafol neu heriol mewn darpariaethau newyddion a materion cyfoes, sydd yn amlwg er budd y cyhoedd. Mae dulliau golygyddol amrywiol y gall darlledwyr eu defnyddio i ddarparu cyd-destun wrth gynnwys safbwyntiau eithafol a/ neu sarhaus mewn deunydd darlledu, a nodir rhai ohonyn nhw isod.

Fel gydag adrannau eraill y Cod, ni ddylid darllen unrhyw reol ar ei phen ei hun, ond yng nghyd-destun y Cod cyfan a'r nodiadau ategol a ddarparwyd. Dylai darlledwyr hefyd gyfeirio at ganllawiau cyhoeddedig Ofcom am ragor o wybodaeth ynghylch deunydd sy'n cydymffurfio o dan yr Adran hon.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(4)(j) a 319(2)(b) ac (f) Deddf Cyfathrebiadau 2003, Erthygl 7 y Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol (ar gyfer Gwasanaethau ECTT yn unig), Erthygl 6 y Gyfarwyddeb Trawsffiniol Cyfryngau Clyweled, Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)

Egwyddor

Sicrhau nad yw deunydd sy’n debygol o annog neu gymell troseddu neu o arwain at anhrefn yn cael ei gynnwys mewn gwasanaethau teledu na radio na gwasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.

Rheolau

Ysgogi troseddu ac anhrefn

3.1 Mewn gwasanaethau teledu na radio, na Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC rhaid peidio â chynnwys deunydd sy’n debygol o annog neu gymell cyflawni troseddu neu o arwain at anhrefn.

Noder: O dan Reol 3.1, gall “deunydd” gynnwys, y canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:

  • cynnwys sy'n gyfystyr, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, â galw i weithredu’n droseddol neu beri anhrefn;
  • deunydd sy'n hyrwyddo neu’n annog ymwneud â therfysgaeth neu fathau eraill o weithgarwch troseddol neu anhrefn; a/neu
  • gasineb ar lafar, sy'n debygol o annog gweithgarwch troseddol neu arwain at anhrefn.

Ystyr "terfysgaeth"

Gweler y diffiniad yn adran 1 Deddf Terfysgaeth 2000, sydd hefyd wedi'i grynhoi yng nghanllaw Ofcom i adran hon y Cod.

Ystyr "casineb ar lafar"

Pob ffurf ar fynegiant sy'n lledaenu, ysgogi, hybu neu’n cyfiawnhau casineb yn seiliedig ar anoddefgarwch ar sail anabledd, ethnigrwydd, tarddiad cymdeithasol, rhywedd, rhyw, ailbennu rhywedd, cenedligrwydd, hil, crefydd neu gred, tueddfryd rhywiol, lliw croen, nodweddion genetig, iaith, barn wleidyddol neu unrhyw farn arall, aelodaeth o leiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu oedran.

Ystyr "trosedd"

Gall hyn ymwneud ag unrhyw drosedd dan y gyfraith y gellir pennu carchariad neu ddirwy fel cosb ar ei chyfer.

Ystyr "anhrefn"

Mae hyn yn cynnwys trosedd anhrefn sifil, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Ystyr "yn debygol o annog neu gymell troseddu neu o arwain at anhrefn":

Portread o droseddu, neu o annog troseddu, na fydd o reidrwydd yn arwain at dorri Rheol 3.1. Bydd y tebygolrwydd o gynnwys sy’n ysgogi troseddu neu’n arwain at anhrefn yn dibynnu ar natur y deunydd, yn ogystal â chyd-destun ei gyflwyno i'r gynulleidfa.

Gall ffactorau cyd-destunol sylweddol o dan Reol 3.1 gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • diben golygyddol y rhaglen;
  • statws neu safle unrhyw un sy’n ymddangos yn y deunydd; ac/neu
  • a oes digon o her yn cael ei darparu i'r deunydd.

Er enghraifft, efallai y bydd rhagor o botensial i ddeunydd annog neu gymell cyflawni troseddu os yw rhaglen yn mynd ati i ddylanwadu ar y gynulleidfa ynglŷn â phwnc neu thema, neu'n darparu llwyfan anfeirniadol i ffigwr awdurdodol eiriol dros weithgarwch troseddol neu anhrefn.

Efallai y bydd llai o botensial i dorri Rheol 3.1 os bydd safbwyntiau gwahanol a digon o her yn cael eu darparu i bobl neu fudiadau sy'n eiriol dros weithgarwch troseddol neu anhrefn, neu pan fydd rhaglen yn ceisio archwilio neu gynnig sylwebaeth er budd y cyhoedd ar weithgarwch troseddol neu anhrefn.

Mae enghreifftiau eraill o ffactorau cyd-destunol yn cael eu darparu yng nghanllawiau Ofcom i Adran hon y Cod.

Casineb a Chamdriniaeth

Noder: Mae Rheolau 3.2 a 3.3 yn adlewyrchu amcan y safonau ar ddarparu amddiffyniad digonol i aelodau'r cyhoedd rhag cynnwys deunydd sarhaus a niweidiol (adran 319(2)(f) Deddf Cyfathrebiadau 2003).

3.2  Rhaid peidio â chynnwys deunydd sy'n cynnwys casineb ar lafar mewn rhaglenni teledu a radio na gwasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC ac eithrio os oes modd ei gyfiawnhau drwy’r cyd-destun.

Tynnir sylw darlledwyr at adrannau 22 a 29F Deddf Trefn Gyhoeddus 1986, sy'n nodi troseddau'n deillio o ddarlledu deunydd sy’n ysgogi casineb yn ymwneud â hil, crefydd, neu dueddfryd rhywiol.

3.3  Rhaid peidio â chynnwys deunydd sy'n cynnwys triniaeth ymosodol neu ddifrïol o unigolion, grwpiau, crefyddau neu gymunedau, mewn gwasanaethau teledu a radio neu wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC ac eithrio lle mae modd ei gyfiawnhau drwy’r cyd-destun. (Gweler Rheol 4.2 hefyd).

Ystyr “cyd-destun” o dan Reol 3.2 a Rheol 3.3

Gall ffactorau cyd-destunol allweddol gynnwys y canlynol, ond nid ydyn nhw wedi eu cyfyngu i’r rhain:

  • genre a chynnwys golygyddol y rhaglen, y rhaglenni neu'r gyfres a disgwyliadau tebygol y gynulleidfa. Er enghraifft, ceir rhai  genres  fel  drama, comedi  neu ddychan lle mae'n debygol y bydd cyfiawnhad golygyddol dros gynnwys barn heriol neu eithafol sy’n gydnaws â disgwyliadau'r gynulleidfa, cyn belled â bod digon o gyd-destun. Y mwyaf yw'r risg i’r deunydd achosi niwed neu dramgwydd, y mwyaf yw'r angen am gyfiawnhad mwy cyd-destunol;
  • i ba raddau y cynigir digon o her;
  • statws neu safle unrhyw un sy’n ymddangos yn y deunydd;
  • y gwasanaeth y darlledir y deunydd arno; a
  • maint a chyfansoddiad tebygol y gynulleidfa bosibl a disgwyliad tebygol y gynulleidfa.

Portreadau o droseddau ac achosion troseddol

3.4  Rhaid peidio â darlledu disgrifiadau nac arddangosiadau o dechnegau troseddol sy’n cynnwys manylion hanfodol a fyddai’n golygu bod modd comisiynu trosedd oni bai fod cyfiawnhad golygyddol dros wneud hynny.

3.5  Ni cheir gwneud taliad, addewid o daliad, na thaliad ymarferol i droseddwyr sydd wedi cael euogfarn neu sydd wedi cyfaddef, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol am gyfraniad y troseddwr (neu unrhyw un arall) at y rhaglen sy’n gysylltiedig â’i drosedd/au. Yr unig eithriad yw pan fydd hynny er budd y cyhoedd.

3.6  Yn ystod trafodion troseddol gweithredol, ni cheir rhoi unrhyw daliad neu addewid o daliad, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i unrhyw dyst neu unrhyw unigolyn y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gael eu galw fel tyst. Ni ddylid awgrymu rhoi unrhyw daliad ychwaith neu ei wneud yn ddibynnol ar ganlyniad y treial. Dim ond gwariant gwirioneddol neu golled enillion anochel a gafwyd wrth gyfrannu at raglen y ceir ei ad-dalu.

3.7  Os yw achos troseddol yn debygol neu os gellir ei ragweld, ni ddylid rhoi taliadau i bobl y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt fod yn dystion oni bai fod budd amlwg i’r cyhoedd trwy wneud hynny o beth, er enghraifft, drwy ymchwilio i drosedd neu ddrwgweithredu difrifol, a bod angen y taliad i gael yr wybodaeth. Os rhoddir taliad o’r fath, bydd yn briodol datgelu’r taliad i’r amddiffyniad ac i’r erlyniad os bydd y person yn dyst mewn unrhyw dreial a geir wedyn.

3.8  Rhaid i ddarlledwyr wneud pob ymdrech i beidio â darlledu deunydd a allai beryglu bywydau neu amharu ar lwyddiant ymdrechion i ddelio ag achos o gipio neu herwgipio.