Deunydd Ar-lein y BBC


Mae rôl Ofcom ar gyfer deunydd ar-lein y BBC wedi’i datgan yn Siarter a Chytundeb y BBC. Mae gennym gyfrifoldeb newydd i ystyried a rhoi barn ar a yw’r BBC wedi cadw at ei ganllawiau golygyddol perthnasol yn ei ddeunydd ar-lein.

Yn wahanol i’n rôl yn rheoleiddio safonau darllediadau'r BBC a’r gwasanaethau rhaglenni ar-alwad, nid oes gan Ofcom unrhyw bwerau gorfodi ar gyfer deunydd ar-lein y BBC.

Mae Ofcom a’r BBC wedi llunio Trefniant Ar-lein (PDF, 140.4 KB) ar gyfer sut bydd y cyfrifoldeb newydd hwn yn cael ei weithredu.

O dan y Trefniant Ar-lein, rhaid i gwynion am ddeunydd ar-lein ddilyn dull ‘BBC First’, gan eu cyflwyno i'r BBC i ddechrau. Os nad yw’r sawl sy’n cwyno’n fodlon gydag ymateb terfynol y BBC i gŵyn am safonau ar-lein, gall gyfeirio’r gŵyn i sylw Ofcom am ei farn. Mae Ofcom wedi cyhoeddi gweithdrefnau ar gyfer sut bydd yn trin cwynion am ddeunydd ar-lein y BBC (PDF, 200.6 KB).

Ystyr deunydd ar-lein yw cynnwys gwefan ac apiau’r BBC. Mae hyn yn cynnwys testun ysgrifenedig, lluniau, fideos a sain. Nid yw’n ymestyn i gynnwys cyfryngau cymdeithasol, Bitesize, deunydd y BBC ar wefannau trydydd parti na chynnwys y World Service, ymhlith pethau eraill. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein gweithdrefnau trin cwynion.