Adolygiad o BBC Studios

30 Tachwedd 2023

Mae’r BBC yn ymgymryd â gweithgareddau masnachol i gynhyrchu elw, y gellir ei ail-fuddsoddi yn rhaglenni a gwasanaethau’r BBC ac ategu incwm o ffi’r drwydded. Bydd angen i’r gweithgareddau hyn ymaddasu i’r amgylchedd newidiol ac ymateb i gyfleoedd wrth iddynt godi. Ein rôl ni fel rheoleiddiwr yw sicrhau nad yw’r berthynas rhwng y rhan o’r BBC sy’n cael ei hariannu gan ffi’r drwydded (y Gwasanaeth Cyhoeddus) a’r gweithgareddau masnachol yn aflunio'r farchnad nac yn creu mantais gystadleuol annheg. Rydym yn cefnogi’r angen i’r BBC arloesi, tyfu a newid cyn belled â bod hyn yn cael ei wneud yn deg.

Crëwyd BBC Studios yn 2017 wrth i’r rhan fwyaf o weithgareddau cynhyrchu (comedi, drama, adloniant, cerddoriaeth a digwyddiadau a ffeithiol) gael eu symud o’r rhan o’r BBC sy’n cael ei hariannu gan ffi’r drwydded (y Gwasanaeth Cyhoeddus). Ers hynny, bu rhai newidiadau sylweddol.

Yn 2018, fe wnaeth BBC Studios uno â BBC Worldwide, yr is-gwmni dosbarthu. Ar adeg yr uno hwn, ymrwymodd y BBC (ymysg pethau eraill) i gynnal y llinellau busnes yn y BBC Studios newydd fel eu bod yn gyson â’r llinellau busnes a oedd ar waith cyn yr uno. Yn 2019, lleihaodd y BBC ei linellau busnes yn BBC Studios o bump i ddau – ‘Cynhyrchu a dosbarthu’ a ‘Gwasanaethau wedi’u Brandio’ (ei fusnes sianeli) – ac wedi hynny fe dynnodd ei ymrwymiad cynharach yn ôl. Yn 2019 hefyd, cymerodd BBC Studios berchnogaeth lwyr ar saith o’r deg sianel UKTV a chytunwyd ar fargeinion cynnwys sylweddol, gan gynnwys gyda Discovery, Sky a BritBox UK.

O ystyried datblygiadau yn nhirwedd y cyfryngau ac yn BBC Studios dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n bwysig i ni wella ein dealltwriaeth o sut mae BBC Studios wedi rhoi ein rheolau (PDF, 767.2 KB) ar waith ac i ni fod yn fwy tryloyw ar hyn o beth gyda rhanddeiliaid.

Yn ein hadolygiad, byddwn yn ystyried pryderon ynghylch y berthynas rhwng y Gwasanaeth Cyhoeddus a BBC Studios. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu a yw ein gwaith rheoleiddio yn effeithiol o hyd ac a oes angen gwneud rhagor o waith, gan gynnwys diwygio ein rheolau.

In November 2023, the BBC updated us (PDF, 98.1 KB) on the action it is taking on its approach to secondary content sales where the Public Service owns the intellectual property to ensure that its co-production arrangements with BBC Studios are at arm’s length and on commercial terms.