Safonau cynnwys


Mae'r Siarter yn rhoi'r cyfrifoldeb i Ofcom dros reoleiddio safonau cynnwys rhaglenni teledu, radio ac ar-alwad y BBC.

Mae Cod Darlledu Ofcom yn cynnwys y rheolau y mae’n rhaid i’r BBC eu dilyn er mwyn diogelu gwylwyr a gwrandawyr y BBC yn briodol. Mae rheolau’r Cod ynghylch didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy (Adran 5), etholiadau a refferenda (Adran 6), cyfeiriadau masnachol ar y teledu (Adran 9) a chysylltiadau masnachol ar y radio (Adran 10) yn berthnasol i'r BBC am y tro cyntaf yn unol â'r Siarter newydd.

Adolygiad o sut rydym yn rheoleiddo'r BBC

Wrth i ni gyrraedd canol cyfnod presennol Siarter y BBC, rydym wedi bod yn adolygu perfformiad y BBC a sut byddwn yn ei rheoleiddio yn y dyfodol.

Mae Ofcom yn glir bod angen i'r BBC wneud ei phroses gwyno yn symlach ac yn haws i bobl ei defnyddio. Rhaid iddi hefyd fod yn fwy tryloyw ac agored am ei phenderfyniadau.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â phryderon cynulleidfaoedd, rydym wedi diweddaru ein penderfyniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y BBC.  Mae hyn bellach yn cyfarwyddo'r BBC i gyhoeddi'r rhesymeg y tu ôl i unrhyw benderfyniad cam olaf i beidio â chadarnhau cwynion am ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy.