Fframwaith Gweithredu'r BBC


Yn unol â gofynion Siarter Frenhinol y BBC, mae Ofcom wedi datblygu ‘Fframwaith Gweithredu’ ar gyfer y BBC, sy’n cynnwys rheoleiddio perfformiad y BBC, ei gydymffurfiad â safonau cynnwys a’r effaith ar gystadleuaeth.

Mae'r Fframwaith Gweithredu yn cynnwys yr amodau rheoleiddio mae Ofcom yn eu hystyried yn addas er mwyn i'r BBC gyflawni ei Chenhadaeth a hyrwyddo'r Dibenion Cyhoeddus.

Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg.

Introduction to Ofcom’s Operating Framework for the BBC (PDF, 1.4 MB)

Operating Framework – setting and amending the Licence (PDF, 390.8 KB)

Operating Framework – setting and amending performance measures (PDF, 154.2 KB)

Y Drwydded Weithredu

Mae'r Drwydded Weithredu yn cyflwyno'r amodau rheoleiddiol mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol ar gyfer  ei gwneud yn ofynnol i'r BBC i gyflawni ei Chenhadaeth ac i hyrwyddo'r dibenion cyhoeddus.

Y drwydded weithredu ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC yn y DU (4 Mawrth 2024) (PDF, 426.2 KB)

Mae fersiynau hŷn o'r Drwydded Weithredu ar gael yn y tabl isod.

Adolygiad o sut rydym yn rheoleiddio'r BBC

Ers sefydlu Siarter y BBC, bu newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd y DU yn gwylio ac yn gwrando ar gynnwys. Rydym hefyd wedi gweld twf yn y nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffrydio fideo a sain byd-eang. Yn yr arolwg hwn rydym wedi edrych ar ba mor dda y mae'r BBC wedi cyflawni ar gyfer holl gynulleidfaoedd y DU ers 2017, a sut rydym yn rheoleiddio'r BBC, er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r diben am weddill cyfnod presennol y Siarter. Rydym yn adeiladu ar gasgliadau Sgrin Fach:Trafodaeth Fawr, ein hadolygiad o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Yn dilyn ein hymgynghoriad ym mis Gorffennaf, mae'r arolwg hwn yn nodi ein newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn rheoleiddio'r BBC, er mwyn sicrhau y gall barhau i gyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd mewn tirwedd cyfryngau sy'n newid, a pharhau i fod yn berthnasol iddynt. Rydym wedi cynnwys argymhellion i Lywodraeth y DU eu hystyried fel rhan o'i Harolwg Canol Tymor o Siarter y BBC.

Adroddiad: Sut mae Ofcom yn rheoleiddio'r BBC 

Ochr yn ochr â'n hadolygiad, rydym hefyd wedi cyhoeddi:

Ar ôl ymgynghori, bu i ni benderfynu gosod gofyniad  newydd ar y BBC i roi cyhoeddusrwydd i newidiadau i'w wasanaethau cyhoeddus sy'n debygol o fod yn destun asesiad materoldeb gan y BBC, i'w annog i fod yn fwy tryloyw gyda rhanddeiliaid ynghylch ei gynlluniau ac yn fwy cyson ynghylch sut y mae'n rhoi cyhoeddusrwydd iddynt. Rydym hefyd wedi gwneud mân newidiadau i'r gofynion masnachu a gwahaniad.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canfyddiadau ein hadolygiad o'r rhyngweithio rhwng BBC Studios a Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC.