Cais cyffredinol am wybodaeth

14 Awst 2023

Cais cyffredinol am wybodaeth sy'n ofynnol gan Ofcom o dan Adran 135 Deddf Cyfathrebiadau 2003 ac a gyhoeddir yn unol ag adran 137(6) y Ddeddf honno at ddibenion cyfrifo'r tâl gweinyddol ar gyfer pob Blwyddyn Codi Tâl.

Cais cyffredinol am wybodaeth yw hwn o dan adran 135 Deddf Cyfathrebiadau 2003 (y "Ddeddf"), y caiff ei gyfeirio at bob person sy'n atebol i dalu taliadau gweinyddol o dan adran 38 y Ddeddf.

Tryw hyn cyhoeddir y cais cyffredinol hwn ar wefan Ofcom at ddiben dod ag ef at sylw'r personau hynny y mae angen yr wybodaeth ganddynt yn y modd a'r ffurf a bennir at ddibenion canfod neu wirio'r taliadau sy'n daladwy gan berson o dan adran 38 y Ddeddf, y mae'n rhaid darparu'r cyfryw wybodaeth yn flynyddol fel y disgrifir.

Mae'r dogfennau isod yn Saesneg:

Designation and relevant activity guidelines for the purposes of administrative charging - final statement

User guide for data providers: Telecoms annual revenue return (PDF, 916.0 KB)

Telecoms returns: FAQs   (PDF, 228.6 KB)

Diweddariad 28 Gorffennaf 2023

Mae'r Cais Cyffredinol wedi'i ddiweddaru er mwyn i ni ddefnyddio'r ymatebion iddo at y diben ychwanegol o bennu haenau o dan y Cod Ymarfer Diogelwch Telathrebiadau, at ddibenion monitro cydymffurfiaeth Ofcom o dan y fframwaith diwygiedig ar gyfer sicrhau diogelwch a chydnerthedd gwasanaeth a rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyhoeddus yn y DU, a gyflwynwyd gan Ddeddf Telathrebiadau (Diogelwch) 2021.

Mae'r dogfen isod yn Saesneg:

Updated General Demand for the purpose of calculating annual administrative charges (PDF, 268.5 KB)

Noder: Gall personau sy'n ymateb i'r cais cyffredinol hwn ateb yn Gymraeg. Ni fydd derbyn eich ateb yn Gymraeg yn achosi oedi wrth brosesu eich gwybodaeth.