Y sefyllfa bresennol
Mae'r adran hon yn cynnwys ein hadroddiadau monitro ar amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn darlledu, gan gynnwys ein hadroddiadau data rhyngweithiol.
Gallwch ddod o hyd i ddolenni i feysydd eraill o'n gwaith sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth, gan gynnwys ein rôl o reoleiddio'r BBC a'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Adroddiadau monitro blynyddol
Mae ein hadroddiadau blynyddol yn darparu darlun cynhwysfawr o ba mor dda y mae darlledwyr yn hyrwyddo cyfle cyfartal , amrywiaeth a chynhwysiad o fewn eu sefydliadau.
Teledu a radio
Amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn teledu a radio – adroddiadau 2021 a 2020
Teledu
Amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn teledu – adroddiadau 2017-2019
Radio
Amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn radio – adroddiadau 2018-2019
Adroddiadau data rhyngweithiol
Mae ein hadroddiadau data rhyngweithiol yn cynnwys proffiliau amrywiaeth cyflogeion ar gyfer y diwydiannau teledu a radio ers 2018, gan gynnwys ar gyfer darlledwyr unigol a'r diwydiant yn gyffredinol.
Ffigurau amrywiaeth ar draws y diwydiant darlledu
Ffigurau manwl ar gyfer yr wth prif ddarlledwr
Gwaith amrywiaeth ehangach Ofcom
Rydym yn cyflawni amrywiaeth eang o waith mewn perthynas ag amrywiaeth mewn darlledu. Cliciwch y dolenni i adrannau perthnasol ein gwefan i gael mwy o wybodaeth:
Rydym yn adolygu pa mor dda y mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac S4C) yn cyflawni dyletswyddau ychwanegol mewn perthynas ag amrywiaeth
Rydym yn dal y PSBs yn atebol am ofynion sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a rhaglennu teledu rhanbarthol
Rydym yn asesu perfformiad y BBC yn erbyn rhwymedigaethau gysylltiedig ag amrywiaeth yn ein Hadroddiadau Blynyddol ar y BBC.
Rydym yn dal Channel 4 yn atebol am rwymedigaethau gysylltiedig ag amrywiaeth, gan gynnwys yn ein hadolygiad cyfnodol diweddaraf.
Rydym yn gorfodi ein rheolau cod darlledu, gan gynnwys bod yn rhaid i ddarlledwyr gymhwyso 'safonau a dderbynnir yn gyffredinol' i gynnwys rhaglenni teledu a radio.