Amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal mewn teledu
Dyma ein trydydd adroddiad ar amrywiaeth ym maes darlledu gwasanaethau teledu (PDF, 831.3 KB).
Mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno ein canfyddiadau allweddol ar draws y pum prif ddarlledwr teledu y mae Ofcom yn eu rheoleiddio. Ceir rhagor o wybodaeth am y pum prif ddarlledwr yn yr adroddiad manwl (PDF, 1.5 MB) ac mae trydydd adroddiad yn amlinellu ein canfyddiadau o’r diwydiant teledu cyfan (PDF, 1.4 MB). Nodwch fod y ddau adroddiad hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Mae’r holl ddata’n cyfeirio at y cyfnod rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019. Gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar radio yng Ngorffennaf 2019 (PDF, 5.2 MB).
Mae gan Ofcom ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth yn y sector darlledu. Gallwn ofyn i ddarlledwyr ddarparu gwybodaeth am eu polisïau cyfle cyfartal a chyfansoddiad eu gweithlu.
Fel y llynedd, roeddem yn gofyn i ddarlledwyr ddarparu data ynghylch y tair nodwedd warchodedig lle mae gennym bwerau i wneud hynny: rhywedd, grŵp hil ac anabledd. Ar ben hynny, rydym wedi gofyn am wybodaeth ynghylch nodweddion gwarchodedig eraill Deddf Cydraddoldeb 2010: oedran; cyfeiriadedd rhywiol; crefydd neu gred; beichiogrwydd a mamolaeth; ac ailbennu rhywedd.
Eleni, rydym hefyd wedi gofyn i ddarlledwyr roi gwybodaeth i ni am eu gwaith ar amrywiaeth gymdeithasol ac economaidd/symudedd cymdeithasol.
Amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y diwydiant teledu – Adroddiad 2019
Mae’r adroddiad cryno hwn yn canolbwyntio ar amrywiaeth y pum prif ddarlledwr yn y DU: y BBC, Channel 4, ITV, Sky a Viacom. Rydym yn eu cymharu – yn ôl nodweddion – â chyfartaledd llafurlu’r DU a'r diwydiant darlledu teledu ehangach yn y DU, ac yn tynnu sylw at rai o’u prif gynlluniau.
Amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y diwydiant teledu 2019 (PDF, 831.3 KB)
Diversity and equal opportunities in television 2019 report (PDF, 2.4 MB)
Fideo
Gwnaeth dau aelod o’n Panel Cynghori ar Amrywiaeth yn Llundain, y beirniad ffilm/teledu a’r colofnydd Ellen E Jones a’r actor, ysgrifennwr a chynhyrchydd, David Proud, rannu safbwyntiau ar amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal, wedi’u seilio ar eu profiadau yn gweithio yn y diwydiant teledu.
Mae’r fideos ar gael yn Saesneg yn unig.
Ellen E Jones – colofnydd a beirniad ffilm/teledu
David Proud – actor, ysgrifennwr a chynhyrchydd
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.
In-focus report on ten major broadcasters (PDF, 1.5 MB)
UK broadcasting industry slide pack (PDF, 2.2 MB)
Diversity in UK television: freelancers (PDF, 1.4 MB)
Dyma ein hail adroddiad ar amrywiaeth ym maes darlledu gwasanaethau teledu (PDF, 1.4 MB).
Mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno ein canfyddiadau allweddol ar draws y pum prif ddarlledwr teledu y mae Ofcom yn eu rheoleiddio. Ceir rhagor o wybodaeth am y pum prif ddarlledwr yn yr adroddiad in-focus (PDF, 1.2 MB) ac mae trydydd adroddiad yn amlinellu ein canfyddiadau o’r diwydiant teledu cyfan (PDF, 1.9 MB). Mae’r holl ddata’n cyfeirio at y cyfnod rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018. Gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar radio ym mis Mehefin 2018.
Mae gan Ofcom ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth yn y sector darlledu. Gallwn ofyn i ddarlledwyr ddarparu gwybodaeth am eu polisïau cyfle cyfartal a chyfansoddiad eu gweithlu.
Fel y llynedd, roeddem yn gofyn i ddarlledwyr ddarparu data ynghylch y tair nodwedd warchodedig lle mae gennym bwerau i wneud hynny: rhywedd, grŵp hil ac anabledd. Ar ben hynny, rydym wedi gofyn am wybodaeth ynghylch nodweddion gwarchodedig eraill Deddf Cydraddoldeb 2010: oedran; cyfeiriadedd rhywiol; crefydd neu gred; beichiogrwydd a mamolaeth; ac ailbennu rhywedd.
Eleni, rydym hefyd wedi gofyn i ddarlledwyr roi gwybodaeth i ni am eu gwaith ar amrywiaeth gymdeithasol ac economaidd/symudedd cymdeithasol.
Amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y diwydiant teledu – Adroddiad 2018
Mae’r adroddiad cryno hwn yn canolbwyntio ar amrywiaeth y pum prif ddarlledwr yn y DU: y BBC, Channel 4, ITV, Sky a Viacom. Rydym yn eu cymharu – yn ôl nodweddion – â chyfartaledd llafurlu’r DU a'r diwydiant darlledu teledu ehangach yn y DU, ac yn tynnu sylw at rai o’u prif gynlluniau.
Amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y diwydiant teledu 2018 (PDF, 1.4 MB)
Diversity and equal opportunities in television 2018 report (PDF, 4.8 MB)
Fideo
Gofynnodd Ofcom i arweinwyr y pum prif ddarlledwr, a’r bobl sy’n gweithio yno am eu safbwyntiau am amrywiaeth a chydraddoldeb yn niwydiant teledu’r DU. Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Adroddiad in-focus a chyfweliadau â darlledwyr
Mae ein hadroddiad ‘In-focus’ yn rhoi dadansoddiad manwl o bob un o’r pum prif ddarlledwr, ac yn cynnwys cofnod mwy cynhwysfawr o’r cynlluniau a’r strategaethau maen nhw wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth.
Adroddiad In-focus ar y pum prif ddarlledwr (PDF, 1.2 MB)
Gwnaethom holi arweinwyr ar y lefel uchaf yn y pum prif ddarlledwr pam fod amrywiaeth yn bwysig ar draws y diwydiant teledu.
Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, BBC
Alex Mahon, Prif Weithredwr, Channel 4
Carolyn McCall, Prif Weithredwr, ITV
Stephen van Rooyen, Prif Weithredwr, Sky (y DU ac Iwerddon)
James Currell, Is-Lywydd Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr, Viacom UK
Adroddiad ar y diwydiant darlledu yn y DU
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar broffil gweithwyr o’r DU a gweithwyr rhyngwladol sy’n gweithio i ddarlledwyr trwyddedig yn y DU yn 2017/18.
Adroddiad ar y diwydiant darlledu yn y DU (PDF, 1.9 MB)
Methodoleg
Mae’r adran hon yn amlinellu’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gasglu’r data. Tîm ymchwil marchnad Ofcom wnaeth gyflawni pob elfen o’r arolwg yn fewnol, yn cynnwys llunio’r holiadur, y gwaith maes a’r dadansoddi.
Dyma'r adroddiad cyntaf gan raglen monitro Amrywiaeth mewn Darlledu blynyddol newydd Ofcom, a fydd yn datgelu i ba raddau mae darlledwyr yn hyrwyddo cyfle cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ein prif ganfyddiadau ar draws darlledwyr teledu yn y DU y mae Ofcom yn eu rheoleiddio. Nid yw’n cynnwys radio oherwydd byddwn yn dechrau ymarfer tebyg ar draws y diwydiant radio yn nes ymlaen eleni.
Rydyn ni wedi gofyn i ddarlledwyr ddarparu data ar dair nodwedd lle mae gennym bwerau i wneud hynny: rhywedd, grŵp hiliol ac anabledd. Ar ben hynny, rydyn ni wedi gofyn am ddata ar ‘nodweddion gwarchodedig’ eraill yn Neddf Cydraddoldeb 2010: oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, beichiogrwydd a mamolaeth ac ailbennu rhywedd.
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y pum prif ddarlledwr yn y DU: y BBC, Channel 4, ITV, Sky a Viacom (perchennog Channel 5).
Darllenwch adroddiad
Diversity and equal opportunities in television 2017 report (PDF, 2.2 MB)
Dogfen amrywiaeth ar draws y diwydiant teledu yn y DU
Mae'r ddogfen Saesneg hon yn bwrw golwg ar broffil darlledwyr ar draws y diwydiant teledu yn y DU yn 2016. Fe wnaethon ni ofyn i ddarlledwyr i gyflwyno cais am wybodaeth drwy ffurf holiadur.
Total television industry (PDF, 2.7 MB)
Adroddiad darlledwyr a leolir yn y DU
Mae'r ddogfen Gymraeg hon yn rhoi dadansoddiad mwy manwl ar draws y darlledwyr a leolir yn y DU gyda 98% neu ragor o'u cyflogwyr wedi'u lleoli yn y DU yn 2016. Fe wnaethon ni ofyn i holl ddarlledwyr teledu gyda thrwydded Ofcom, y BBC a S4C, i gwblhau holiadur yn rhoi'r data i ni am hanfodion eu gweithluoedd ar draws y tair nodwedd gwarchodedig lle mae gennym bwerau i wneud hynny: rhywedd, grŵp hiliol ac anabledd. Yn ogystal fe wnaethon ni ofyn am ddata am nodweddion gwarchodedig eraill yn Neddf Cydraddoldeb 2010: oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu chred, beichiogrwydd a mamolaeth ac ailbennu rhywedd.
UK-based television industry (PDF, 2.9 MB)
Y diwydiant teledu yn y DU (PDF, 1.2 MB)
Methodoleg
Mae'r adran hon sydd yn Saesneg yn unig yn amlinellu y fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth gasglu'r data. Cynhyrchwyd holl elfennau'r arolwg yn cynnwys dyluniad yr holiadur, gwaith maes a dadansoddiad yn fewnol gan dîm ymchwil y farchnad Ofcom.
Adroddiad darlledwyr a leolir yn y DU
Mae'r ddogfen hon yn Saesneg ac yn rhoi dadansoddiad fwy manwl o ddarlledwyr a leolir yn y DU gyda 98% neu ragor o weithwyr wedi'u lleoli yn y DU yn 2016. Fe wnaethon ni ofyn i holl ddarlledwyr teledu gyda thrwydded Ofcom, y BBC a S4C, i gwblhau holiadur yn rhoi'r data i ni am hanfodion eu gweithluoedd ar draws y tair nodwedd gwarchodedig lle mae gennym bwerau i wneud hynny: rhywedd, grŵp hiliol ac anabledd. Yn ogystal fe wnaethon ni ofyn am ddata am nodweddion gwarchodedig eraill yn Neddf Cydraddoldeb 2010: oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu chred, beichiogrwydd a mamolaeth ac ailbennu rhywedd.
Steps taken by broadcasters to promote equal opportunities (PDF, 514.9 KB)