Dyfarnu grantiau 2022-23 Rownd 1

21 Gorffennaf 2022

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom ('y Panel') ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2022 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyllido gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23.

Bu i'r Panel ystyried pob cais a dyfarnu cyllid yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, a chan gyfeirio at nodiadau arweiniad y Gronfa Radio Cymunedol ('y Gronfa'). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.

Yn y cyfarfod:

  • ystyriwyd 47 o geisiadau am grant
  • y cyfanswm cyllid y gofynnwyd amdano yn y ceisiadau hyn oedd £757,370
  • dyfarnwyd grantiau i 18 o ymgeiswyr, cyfanswm o £242,395 ac
  • ni ddyfarnwyd grant i 29 o ymgeiswyr.

Amrywiodd y grantiau a ddyfarnwyd o £4,320 hyd at £18,955 ar gyfer swyddi unigol, gyda swm cyfartalog o £13,466. Ceir crynodeb o'r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad hwn.