Mae radio cymunedol yn gallu darparu llais lleol i dawelu meddwl miliynau o bobl yng nghanol yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Fodd bynnag, mae sawl gorsaf gymunedol yn wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.
Mewn ymateb, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi £400,000 o gyllid brys i helpu gorsafoedd sy’n wynebu trafferthion ariannol sylweddol i dalu costau craidd darparu rhaglenni hollbwysig i gymunedau lleol.
Ddydd Mercher, 27 Mai 2020, cynhaliwyd cyfarfod o Banel y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Panel’) i ystyried ceisiadau am grantiau cyllid brys. Mae’r panel hwn yn annibynnol ar Ofcom wrth wneud penderfyniadau.
Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.
Yn y cyfarfod:
Roedd y Panel wedi dyfarnu cymaint o grantiau â phosib yn unol â’r meini prawf cymhwyso llym a chanllawiau a gyhoeddwyd.
Fodd bynnag, mae Ofcom yn gwahodd ceisiadau am rownd arall o gyllid brys mewn oddeutu chwe wythnos, gyda’r bwriad o ddyfarnu'r arian sy’n weddill.
Mae’r datganiad isod gan y Panel yn egluro’r ffactorau a ystyriwyd wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’n bosib y bydd yr adborth hwn yn ddefnyddiol i ymgeiswyr na fuodd yn llwyddiannus y tro hwn ond y byddant yn dymuno gwneud cais arall am gyllid yn yr ail rownd. Mae modd cyflwyno unrhyw ymholiadau eraill i Communityradiofund@ofcom.org.uk gyda’ch rhif cyswllt fel y gall aelod o’r tîm eich ffonio. Byddwn yn ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosib, ond mae’n bosib y bydd yn cymryd amser i ni ymateb os byddwn yn cael llawer o geisiadau gan ymgeiswyr aflwyddiannus.
Gan wneud 81 dyfarniad, cynigiodd y Panel gymorth ariannol i deirgwaith cymaint o orsafoedd nag mewn blynyddoedd blaenorol, er bod y swm cyfartalog a ddyfarnwyd yn is. Yn ystod y flwyddyn flaenorol (2019-2020), cafwyd 72 cais am gyllid, a dyfarnwyd grantiau i 26 ymgeisydd. Ar gyfartaledd, y swm o arian a ddyfarnwyd eleni oedd £16,464.
Felly, roedd yn rhaid i’r Panel ystyried tair gwaith nifer y ceisiadau am gyllid yn y rownd hon, er mai dim ond 25% yn uwch oedd cyfanswm yr arian a oedd ar gael o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dyma sut roedd y Panel yn asesu ceisiadau ac yn dod i benderfyniad:
1.Roedd y Panel yn ffafrio cynigion a oedd yn nodi’n gryf bod angen cymorth brys y Gronfa arnynt.
Roedd y Panel wedi nodi cyngor y DCMS y dylid defnyddio’r Gronfa i ddarparu cyllid mewn argyfwng i gefnogi gorsafoedd na fyddai’n gallu parhau i weithredu fel arall, o ganlyniad i’r coronafeirws.
2.Roedd y Panel yn blaenoriaethu cynigion gan orsafoedd sydd ar hyn o bryd yn ddibynnol iawn ar ffynonellau cyllid ansicr, fel incwm hysbysebu, hyfforddiant neu ddigwyddiadau yn hytrach na gorsafoedd sy’n cael cyllid grant sylweddol.
Mae’n amlwg bod sawl gorsaf wedi wynebu trafferthion o ganlyniad i lai o wario ar hysbysebu, yn enwedig gorsafoedd sy’n dibynnu ar hysbysebion gan siopau a gwasanaethau lleol sydd wedi bod ar gau yn ystod y cyfnod hwn. Ar ben hynny, mae sawl gorsaf radio cymunedol yn dibynnu ar incwm o hyfforddiant a digwyddiadau allanol, fel darlledu yn yr awyr agored, ac mae’r gweithgareddau hynny wedi dod i ben.
3.Roedd y Panel yn ffafrio cynigion gan orsafoedd a oedd wedi adolygu eu gweithrediadau presennol ac wedi dod o hyd i ffynonellau cyllid posib eraill
Mae sawl gorsaf eisoes wedi cymryd camau brys i leihau costau ac i drafod gohirio neu gymryd gwyliau o daliadau. Mae llawer wedi gwneud cais am gyllid brys drwy lwybrau amgen sydd eisoes yn bodoli, fel rhoi staff ar ffyrlo neu gael Grant Cefnogi Busnesau Bach. Nododd y Panel nad oedd rhai gorsafoedd wedi adolygu eu gweithrediadau yn llawn a bod eu cyfraddau gwario yn eithaf uchel (ee parhau i dalu ffioedd sioeau i lawer o’u cyflwynwyr), a heb wneud cais am ffynonellau cyllid amgen.
4.Penderfynodd y Panel flaenoriaethu amrywiaeth eang o orsafoedd er mwyn cefnogi hyfywedd y sector yn ei gyfanrwydd, a phenderfynu rhoi arian i orsafoedd lle gallai swm is o arian wneud gwahaniaeth mawr i sicrhau bod yr orsaf yn aros ar yr awyr.
Nododd y Panel hefyd fod sawl gorsaf yn dioddef o broblemau cyllido strwythurol, ac na fyddai cyllid brys yn datrys y problemau hynny. Roedd rhai gorsafoedd hefyd wedi gwneud cais am swm uchel o arian (hyd at £100,000) nad oedd modd eu cefnogi oherwydd cyfanswm yr arian a oedd ar gael i’w roi. Roedd y Panel hefyd yn cydnabod bod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt. Doedd gan rai gorsafoedd ddim cronfeydd wrth gefn, tra bod gan orsafoedd eraill gronfeydd mwy wrth gefn heb gyfyngiadau y gallant fanteisio arnynt.
5.Roedd y Panel wedi cynnig grantiau brys bach i sawl gorsaf er mwyn eu galluogi i brynu offer i weithio o bell.
Roedd sawl gorsaf wedi gwneud argraff ar y Panel am fod yn ddyfeisgar wrth geisio sicrhau eu bod yn aros ar yr awyr, a darparu gwasanaeth defnyddiol i’w cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan ystyried bod llawer o’u gwirfoddolwyr yn ‘fregus’ ac yn gwarchod eu hunain.
6.Gan ystyried bod y sefyllfa yn newid yn barhaus, a’r trafferthion o ran rhagweld sut bydd y sefyllfa yn effeithio ar refeniw gorsafoedd yn yr hirdymor, roedd y Panel yn tueddu i gyllido costau sefydlog fel rhent, cyfraddau busnes a chyfleustodau, dros gyfnod o dri-chwe mis, lle roedd y gorsafoedd hynny wedi methu negodi gohirio neu gael gwyliau o daliadau, yn hytrach na chyllido colledion refeniw a ragwelir yn yr hirdymor.
Wrth ddewis pa weithgareddau roedd am eu cefnogi, roedd y Panel wedi nodi bod rhai gorsafoedd wedi gofyn am gyllid ar gyfer gweithgareddau penodol yn y tymor byr, tra bod eraill wedi gofyn i’r Gronfa gefnogi colledion refeniw ar gyfer cyfnod o hyd at flwyddyn.
Ond, wrth ystyried ansicrwydd y sefyllfa, roedd y Panel o’r farn ei bod yn ddoeth dal cyfran fach o’r gyllideb yn ôl er mwyn cynnal cylch cyllido cyfyngedig pellach gyda meini prawf penodol ymhen chwe wythnos. Mae hyn yn rhoi cyfle arall i orsafoedd ystyried yr effaith debygol ar eu busnes yn ystod y tymor canolig, ac i adolygu eu gweithredoedd.
7.Er mwyn bod yn deg â phob ymgeisydd, roedd y Panel yn ffafrio ceisiadau lle roedd digon o wybodaeth wedi’i roi er mwyn galluogi’r Panel i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.
Roedd nifer fach, ond sylweddol, o geisiadau (tua deg y cant) heb ddilyn y canllawiau wrth gwblhau eu ceisiadau: wedi defnyddio ffurflenni anghywir, heb ddarparu gwybodaeth ofynnol fel cyfrifon statudol, neu wedi darparu gwybodaeth ar ôl y dyddiad cau.