Dyfarnu grantiau 2020-21 - Rownd 3
Mae radio cymunedol yn gallu darparu llais lleol a gwybodaeth hanfodol am iechyd y cyhoedd i dawelu meddwl miliynau o bobl yng nghanol yr argyfwng Covid-19 presennol. Fodd bynnag, mae sawl gorsaf gymunedol yn wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i weithgareddau wedi cael eu canslo a gostyngiad mewn refeniw hysbysebu.
Wrth ymateb i hyn, mae llywodraeth wedi cyhoeddi £400,000 o gyllid brys i helpu i dalu costau craidd darparu rhaglenni hollbwysig i gymunedau lleol.
Fe wnaeth Panel y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Panel’), sy'n annibynnol ar Ofcom wrth wneud penderfyniadau, ystyried ceisiadau am grantiau cyllid brys mewn dau gam, ym misoedd Mai ac Awst 2020 yn ôl eu trefn.
O ganlyniad i effaith barhaus Covid-19, darparwyd £200,000 yn ychwanegol gan yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar gyfer trydedd rownd ariannu yn 2020-21 i roi cymorth i orsafoedd radio cymunedol sy’n cymryd camau i leddfu arwahanrwydd ac unigrwydd yn eu cymuned. Cyfarfu’r Panel ar 4 Chwefror 2021 i ystyried ceisiadau am grantiau cyllid brys.
Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.
Yn y cyfarfod:
Dyfarnodd y Panel 53 o grantiau gwerth £200,560 (dychwelwyd £560 i’r Gronfa, yn dilyn cais diwygiedig o Rownd 2).
- Cafodd 91 o geisiadau am grantiau eu hystyried;
- Gwnaethpwyd cais am gyfanswm o £470,205;
- Cyfanswm yr arian a oedd ar gael oedd £200,560;
- Dyfarnwyd grantiau i 53 o ymgeiswyr, cyfanswm o £200,560;
- Dyfarnwyd grantiau gwerth rhwng £1,100 a £7,440, gyda swm cyfartalog o £3,784.
Roedd y Panel wedi dyfarnu cymaint o grantiau â phosib yn unol â’r meini prawf cymhwyso llym a chanllawiau a gyhoeddwyd.
Mae’r datganiad isod gan y Panel yn egluro’r ffactorau a ystyriwyd wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’n bosib y bydd yr adborth hwn yn ddefnyddiol i ymgeiswyr na fuont yn llwyddiannus. Mae modd cyflwyno unrhyw ymholiadau eraill i communityradiofund@ofcom.org.uk gyda’ch rhif cyswllt fel y gall aelod o’r tîm eich ffonio. Byddwn yn ymateb i ymholiadau mor fuan ag y gallwn, ond dylech nodi y gallai gymryd peth amser i ni ymateb os bydd gennym nifer o ymholiadau gan ymgeiswyr na fuont yn llwyddiannus.
Dros y tair rownd, fe wnaeth y Panel ddyfarnu 165 o grantiau ac o ganlyniad, fe wnaethon nhw gynnig cymorth ariannol i fwy na chwe gwaith cymaint o orsafoedd na mewn blynyddoedd blaenorol, er mwyn rhoi cyllid brys ar draws y sector.
Dyma sut roedd y Panel yn asesu ceisiadau ac yn dod i benderfyniad:
- Roedd y Panel yn ffafrio cynigion a oedd yn gneud achos cryf i ddangos pam fod angen cymorth brys arnynt gan y Gronfa – yn enwedig y gorsafoedd hynny a oedd wedi adolygu eu gweithrediadau presennol ac wedi ceisio am ffynonellau cyllid posibl eraill.
Roedd y Panel wedi nodi y dylid defnyddio’r Gronfa i ddarparu cyllid mewn argyfwng i gefnogi gorsafoedd na fyddai’n gallu parhau i weithredu fel arall, o ganlyniad i’r coronafeirws. Roedd sawl gorsaf eisoes wedi cymryd camau brys i leihau costau ac i drafod gohirio neu gymryd gwyliau o daliadau. Roedd llawer wedi gwneud cais am gyllid brys drwy lwybrau amgen sydd eisoes yn bodoli, fel rhoi staff ar ffyrlo neu gael Grant Cefnogi Busnesau Bach. Nododd y Panel bod y rhan fwyaf o orsafoedd wedi adolygu eu gweithrediadau’n sylweddol ac wedi cyflwyno cynigion gyda rhagolygon realistig. Cyflwynodd lleiafrif o’r ymgeiswyr geisiadau i’r Gronfa dalu am eitemau fel ffioedd i gyflwynwyr sioeau; ni roddodd y Panel flaenoriaeth i’r ceisiadau hyn.
- Roedd yn dueddiad gan y Panel i ariannu costau sefydlog fel rhenti, ffioedd PSR/PRL a chyfleustodau, lle nad yw’r gorsafoedd hynny wedi gallu negodi cyfnodau gohirio neu wyliau talu, yn hytrach na chyllido diffygion refeniw a ragwelir.
Mae’n amlwg bod sawl gorsaf wedi wynebu trafferthion o ganlyniad i lai o wario ar hysbysebu, yn enwedig gorsafoedd sy’n dibynnu ar hysbysebion gan siopau a gwasanaethau lleol sydd wedi bod ar gau yn ystod y cyfnod hwn. Ar ben hynny, mae sawl gorsaf radio cymunedol yn dibynnu ar incwm o hyfforddiant a digwyddiadau allanol, fel darlledu yn yr awyr agored, ac mae’r gweithgareddau hynny wedi dod i ben. Er bod y Panel wedi ystyried rhagolygon o ddiffygion refeniw, nododd hefyd yr anawsterau o ran rhagweld cyflymder posibl unrhyw adferiad ar ôl y pandemig, felly gwnaed dyfarniadau i dalu costau sefydlog hanfodol am hyd at chwe mis.
- Gwnaeth y Panel nifer fach o ddyfarniadau i orsafoedd a oedd yn awyddus i sbarduno eu hymdrechion codi arian.
Roedd rhai gorsafoedd yn obeithiol y byddai adferiad ariannol cymharol gyflym ond nid oedd y staff na’r adnoddau ar gael mwyach i roi cynlluniau ar waith. Gwnaed nifer fach o ddyfarniadau i orsafoedd a oedd yn dymuno cynhyrchu incwm o werthu hysbysebion yn ystod y misoedd nesaf.
- Penderfynodd y Panel flaenoriaethu amrywiaeth eang o orsafoedd er mwyn cefnogi hyfywedd y sector yn ei gyfanrwydd, a phenderfynu rhoi arian i orsafoedd lle gallai swm is o arian wneud gwahaniaeth mawr i sicrhau bod yr orsaf yn aros ar yr awyr.
Fe wnaeth y Panel flaenoriaethu gorsafoedd oedd yn wynebu colledion tymor byr (gobeithio) mewn cyllid; yn hytrach na’r gorsafoedd a wnaeth gais am gymorth i fynd i’r afael a materion cyllido strwythurol tymor hir. Barn y Panel oedd na fyddai cyllid brys yn datrys y materion hyn.
- Cynigiodd y Panel grantiau brys bach i sawl gorsaf i brynu offer ac uwchraddio meddalwedd er mwyn eu galluogi gweithio o bell.
Roedd sawl gorsaf wedi creu argraff ar y Panel am fod yn ddyfeisgar wrth geisio sicrhau eu bod yn aros ar yr awyr, a darparu gwasanaeth defnyddiol i’w cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan ystyried bod llawer o’u gwirfoddolwyr yn ‘fregus’ ac yn gwarchod eu hunain. Dywedodd sawl gorsaf fod angen iddynt uwchraddio eu meddalwedd chwarae er mwyn gallu gweithio o bell yn llwyddiannus. Gwnaeth y Panel sawl grant bach i helpu gorsafoedd i wneud yr addasiadau angenrheidiol.
- Cytunodd y Panel i geisiadau gan ddwy orsaf i addasu eu cyllid grant presennol.
Nododd y Panel fod sawl gorsaf oedd wedi derbyn cyllid yn 2019-20 wedi gwneud cais am gyllid brys. Doedd rhai o’r ymgeiswyr hyn ddim wedi gorffen gwario eu grant presennol a wnaethon nhw ddim gofyn i gael newid pwrpas y grant. Rydyn ni’n atgoffa trwyddedeion y bydd y Panel yn ystyried newid pwrpas grantiau neu ymestyn cyfnod y grant ar gyfer grantiau a ddyfarnwyd yn rowndiau cyllido 2019-20 os bydd gorsaf yn gofyn am hyn, y tu allan i’r broses o wneud cais am gyllid mewn argyfwng. Dylid gwneud ceisiadau o’r fath yn uniongyrchol i Ofcom yn communityradiofund@ofcom.org.uk
- Er mwyn bod yn deg â phob ymgeisydd, roedd y Panel yn ffafrio ceisiadau lle'r oedd digon o wybodaeth wedi’i rhoi er mwyn galluogi’r Panel i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.
Er gwaethaf y cyfarwyddiadau clir, doedd rhai gorsafoedd ddim wedi egluro pam fod ganddynt gronfeydd wrth gefn mawr, digyfyngiad, a gallai hyn fod wedi arwain at beidio â dyfarnu cyllid neu at ddyfarnu swm llai na’r hyn y gofynnwyd amdano. Roedd y Panel hefyd yn cydnabod bod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt; nododd y Panel nad oedd rhai gorsafoedd yn glir am eu perthynas â’r sefydliadau mwy hyn.
- Yn olaf, roedd y Panel yn croesawu ceisiadau gan y gorsafoedd hynny a oedd yn dangos eu bod yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn eu cymunedau.
Hoffai’r Panel ganmol y gorsafoedd hynny sydd wedi mynd i gryn drafferth i gefnogi eu cymunedau mewn cyfnod anodd: sefydlu ystafelloedd sgwrsio ar-lein, cynnal seremonïau gwobrau rhithwir i ddathlu arwyr lleol, rhoi sylw byw i wasanaethau crefyddol, cyngherddau carolau a gwasanaethau Dydd y Cofio, a pherfformio cerddoriaeth y tu allan i gartrefi gofal ac ar lan beddau, a chynnig cymorth dros y ffôn i’r gwrandawyr hynny sydd am siarad â llais cyfeillgar o’u gorsaf radio gymunedol.