Canllawiau lleolrwydd

25 Chwefror 2019

Mae deddfwriaeth yn mynnu bod Ofcom yn sicrhau bod gorsafoedd radio masnachol lleol yn darparu nifer priodol o:

  • rhaglenni sy’n cynnwys deunydd lleol;
  • rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol

a'i fod yn darparu canllawiau ynghylch sut dylid diwallu’r gofynion uchod.

Dyma’r canllawiau angenrheidiol. Maen nhw’n nodi polisi cyffredinol Ofcom mewn perthynas â’r gofynion lleol hyn a sut rydyn ni’n debygol o’u defnyddio gyda gorsafoedd lleol yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae Ofcom yn ystyried pob gorsaf fesul achos a sut, os o gwbl, y dylai’r canllawiau hyn fod yn berthnasol i’r gorsafoedd hynny. Mae'r graddau y mae’n rhaid i ddeunyddiau lleol a rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn lleol gael eu cynnwys yn y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan drwyddedai yn cael eu pennu yn Fformat yr orsaf (ac mae hyn yn gallu amrywio rhwng gorsafoedd).

Nid ydy lleolrwydd yn fater i bob gorsaf, ond pan fydd yn ofynnol gan Fformat trwyddedig gorsaf, dylai’r canllawiau hyn gyfrannu ato.

Yn benodol, dylai unrhyw orsaf y mae ei gymeriad gwasanaeth yn mynnu ei fod yn darparu gwasanaeth lleol gynnwys, yn ogystal â lefel y newyddion lleol a bennwyd yn ei Fformat, digon o ddeunyddiau lleol yn unol â’r canllawiau hyn i gyflawni’r cymeriad gwasanaeth angenrheidiol.

Nid rheolau ydy'r canllawiau hyn, ond maen nhw’n amlinellu’r math o ystyriaethau a allai fod yn berthnasol os bydd angen ymchwilio i allbwn lleolrwydd gorsaf. Mae nifer o'r ystyriaethau hyn yn seiliedig ar ddisgwyliadau gwrandawyr.

Deunyddiau lleol

Mae Adran 314 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 yn diffinio ‘deunydd lleol’ fel deunydd sydd o ddiddordeb penodol i’r rheini sy’n byw neu’n gweithio yn (neu mewn rhan o) yr ardal neu’r ardal leol lle caiff y gwasanaeth ei ddarparu, neu i gymunedau penodol sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal neu'r ardal leol honno (neu ran ohoni). Mae modd ei gyflawni mewn sawl ffordd (newyddion lleol, gwybodaeth leol, sylw, darllediadau allanol, beth sydd mlaen, newyddion teithio, cyfweliadau, gweithgareddau elusennol, tywydd, amser ar yr awyr i gerddorion lleol, celfyddydau a diwylliant lleol, chwaraeon, sesiynau ffonio mewn, rhyngweithio â’r gwrandawyr ac ati). Mae pob gorsaf i benderfynu ei hun ar y cydbwysedd rhwng y gwahanol elfennau o ddeunyddiau lleol a amlinellir. Ond, pan fydd angen i orsaf ddarlledu deunyddiau lleol dylai gynnwys o leiaf rhai o’r elfennau hyn.

Darparu newyddion lleol

Oherwydd pwysigrwydd newyddion lleol i ddinasyddion ac i ddefnyddwyr, dylai pob gorsaf sy’n gorfod darlledu deunyddiau lleol ddarlledu newyddion lleol o leiaf bob awr drwy gydol yr oriau brig o ddydd Llun i ddydd Gwener (brecwast a diwedd y prynhawn) ac ar benwythnosau (brecwast hwyr). Dylai’r gorsafoedd hynny sydd wedi ymrwymo i wasanaeth newyddion gwell (gweler isod) ddarlledu newyddion lleol o leiaf bob awr yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener (6am-7pm) a drwy gydol yr oriau brig (brecwast hwyr) ar benwythnosau.

Cynnwys newyddion lleol

  • Dylai newyddion lleol fod o ansawdd uchel, yn berthnasol, yn amserol ac yn gywir, a dylai gydymffurfio’n llawn â gofynion y Cod Darlledu.
  • Dylai gorsaf allu ymateb ar yr awyr i ddigwyddiadau lleol mawr mewn ffordd amserol.
  • Dylai bwletinau geisio adlewyrchu diddordebau a phryderon gwrandawyr sy'n byw yn yr ardal.
  • Dylai straeon newyddion lleol fod yn ddiweddar a dylid eu diweddaru’n rheolaidd.
  • Dylai bwletinau newyddion lleol hefyd gynnwys newyddion o’r gwledydd (os ydy hynny’n berthnasol), o’r DU a newyddion rhyngwladol.
  • Dylai lefel y newyddion lleol, a’r cydbwysedd o newyddion lleol a chenedlaethol mewn unrhyw fwletin penodol fod yn destun barn newyddiadurol broffesiynol, ond bydd newyddion lleol bob tro yn nodwedd hanfodol o allbwn cyffredinol gorsaf leol.
  • Ni fyddid yn ystyried bod rhoi gwedd leol ar newyddion y DU (ee gofyn am gyfweliadau mewn ardal a’u chwarae fel petaent yn dod o ardal arall neu fewnosod enwau lleoedd lleol mewn straeon DU) heb gynhyrchu newyddion / gwybodaeth leol yn gyfraniad at leolrwydd na chyflawni gofynion newyddion lleol.
  • Er bod straeon am chwaraeon lleol yn gallu bod yn gyfraniad mawr at gyflawni lleolrwydd, a bod hynny’n gallu cynrychioli rhan bwysig o gymysgedd golygyddol gorsaf leol, ni fyddid yn ystyried bod newyddion chwaraeon lleol yn rhywbeth i gymryd lle straeon newyddion lleol.
  • Yn yr un modd, efallai fod newyddion adloniant yn berthnasol yn lleol ond ni ddylai hyn fod yn brif elfen bwletinau newyddion lleol ac ni ddylent gymryd lle straeon newyddion lleol sy’n fwy difrifol.

Gwasanaeth newyddion lleol ‘gwell’

Mae rhai gorsafoedd lleol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth newyddion lleol gwell yn gyfnewid am gael darlledu mwy o oriau rhwydwaith (hy rhaglenni nad ydyn nhw wedi cael eu gwneud o’u hardal drwyddedig neu gymeradwy) yn ystod rhaglenni yn ystod y dydd.

Mae'r dewis newyddion lleol gwell hwn yn rhoi hyblygrwydd i’r gorsafoedd leihau faint o oriau lleol a gynhyrchir, os ydyn nhw’n dymuno arbed arian. Mae darparu bwletinau newyddion lleol yn ystod y dydd, ac yn ystod oriau brig, yn helpu i sicrhau bod cynnwys a hunaniaeth leol yr orsaf yn cael eu cynnal yn ystod yr oriau rhwydwaith hyn yn ystod y dydd.

Mae’n dilyn felly na ddylai bwletinau lleol a ddarlledir yn ystod y dydd fel rhan o wasanaeth newyddion ‘gwell’ fod yn ddim ond ymarfer symbolaidd sy’n golygu bod modd ticio'r blwch, a dylai pob bwletin ddiwallu’r gofynion sydd wedi’u nodi ar gyfer newyddion lleol yn gyffredinol (gweler y canllawiau uchod) yr un mor gyfforddus â bwletinau a ddarlledir yn ystod yr oriau brig (hy brecwast o ddydd Llun i ddydd Gwener a diwedd y prynhawn, a brecwast hwyr ar benwythnosau).

Er nad ydym erioed wedi rhagnodi’r hyd sylfaenol ar gyfer unrhyw fath o fwletin newyddion, gan fod hynny’n fater i’r trwyddedai, bydden ni bob tro’n disgwyl i bob bwletin gwell yn ystod y dydd gynnwys mwy na dim ond penawdau, a chynnwys o leiaf un stori newyddion lleol sydd wedi cael ei ffurfio’n llawn, ac fel rheol mwy na hyn, ochr yn ochr â straeon cenedlaethol. Mewn achosion pan fydd gorsafoedd yn rhannu eu horiau lleol mewn ardal gymeradwy (gweler y nodiadau ar gyd-leoli a rhannu rhaglenni, isod), ac yn darlledu'r un bwletin newyddion ar draws mwy nag un ardal drwyddedig, mae angen i o leiaf un o’r straeon lleol ym mhob bwletin fod yn uniongyrchol berthnasol i wrandawyr ym mhob un o’r ardaloedd trwyddedig. Y rheswm am hyn yw bod gorsafoedd sy’n rhannu eu horiau lleol yn dal trwyddedau ar wahân y mae dal angen diwallu’r gofynion lleolrwydd a chymeriad y gwasanaeth a nodir yn eu Fformatau unigol.

Cynhyrchu newyddion lleol

  • Gall unrhyw grŵp o orsafoedd ddewis cronni eu hadnoddau newyddion a gweithredu un neu fwy o ‘ganolfannau newyddion’ mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr gweithredol iddyn nhw. Fodd bynnag, er mwyn darparu gwasanaeth newyddion lleol cynhwysfawr sy’n berthnasol i’r ardal dan sylw, dylai pob gorsaf gael cyfrifoldeb uniongyrchol ac atebol dros ddarparu ar gyfer ei hardal drwyddedig.
  • Dylid cael darpariaeth briodol o wasanaeth newyddiadurol proffesiynol, yn yr ardal drwyddedig (neu ardal leol gymeradwy os ydy hynny’n briodol), ar ddiwrnodau pan fydd darpariaeth newyddion lleol yn ddyletswydd Fformat.
  • Dylai recordio bwletinau newyddion ymlaen llaw fod yn eithriad yn hytrach nag yn arfer a dylai bwletinau oriau brig bob amser gael eu darlledu’n fyw (neu eu recordio ymlaen llaw mymryn cyn eu darlledu).

Rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol

Pan fydd yn rhaid i orsaf ddarlledu rhaglenni sy’n cynnwys deunyddiau lleol mae’n rhaid i gyfran addas ohonyn nhw (fel y pennir gan Ofcom) fod yn rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol.

Diffinio ‘gwneud yn lleol’

Mae rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol yn golygu rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn ardal drwyddedig gorsaf neu, pan fydd Ofcom wedi cymeradwyo ardal sy’n ymwneud â'r orsaf honno, yr ardal gymeradwy honno. Fel rheol bydd Fformat gorsaf yn nodi lle mae’n rhaid iddi wneud ei rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn lleol. Er ei bod hi’n dderbyniol i fwletinau newyddion gael eu cynhyrchu a/neu eu darparu o’r tu allan i ardal drwyddedig neu gymeradwy’r orsaf fel rhan o drefniant ‘canolfan newyddion’ (gweler y canllawiau ar ddarparu newyddion lleol, uchod), ac mae’n iawn i elfennau unigol eraill o gynnwys lleol (fel newyddion teithio) ddod o’r tu allan i’r ardal leol, rydyn ni’n disgwyl y dylai'r prif gyflwynydd ar unrhyw raglen sy’n cael ei darlledu yn ystod oriau gorsaf sy’n cael eu gwneud yn lleol fod yn ardal drwyddedig neu gymeradwy’r orsaf honno. Mae’r canllaw hwn hefyd yn berthnasol i sefyllfaoedd pan fydd prif gyflwynydd rhaglen wedi cael ei recordio ymlaen llaw neu dracio llais (h.y. ddim yn darlledu’n ‘fyw’).

Er bod modd i orsafoedd rwydweithio rhaglenni’r tu allan i’r gofynion sy’n ymwneud â rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol yn eu Fformatau, dylen nhw dal allu ymateb i ddigwyddiadau lleol yn amserol, gan ddarparu rhaglenni lleol byw yn y ffordd ac ar yr adegau y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl.

Gorsafoedd lleol FM

O ddydd Llun i ddydd Gwener, dylai gorsafoedd lleol FM ddarparu naill ai:

  • o leiaf 6 awr o raglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol rhwng 6am a 7pm os ydyn nhw’n darparu newyddion lleol o leiaf bob awr yn ystod yr oriau brig (brecwast a diwedd y prynhawn), neu;
  • o leiaf 3 awr o raglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol rhwng 6am a 7pm os ydyn nhw’n darparu newyddion lleol o leiaf bob awr drwy gydol yr un cyfnod.

Mewn achosion eithriadol, os bydd gorsaf yn gallu cyflwyno achos cryf ynghylch pam y dylid ei thrin yn wahanol, er enghraifft, fel gorsaf gerddoriaeth arbenigol, ac felly nad oes angen iddi ddarparu cymaint o raglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol na’r lefel sy’n cael ei hawgrymu yn y canllawiau hyn, bydd Ofcom yn ystyried ceisiadau o’r fath fesul achos.

Gorsafoedd lleol AM

Yn gyffredinol nid oes angen i orsafoedd AM gynhyrchu rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn lleol na darlledu deunyddiau lleol. Ond, dylai pob gorsaf AM gynhyrchu o leiaf 10 awr o raglenni yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener o’r wlad lle mae’r orsaf.

Tarddiad rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol a rhannu rhaglenni

Mae ‘rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol’, mewn perthynas â gwasanaeth lleol unigol yn golygu rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol mewn eiddo sydd naill ai yn:

  1. yr ardal neu’r ardal leol y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar ei chyfer, neu;
  2. yr ardal neu’r ardal leol lle caiff gwasanaeth arall ei ddarparu, ond dim ond pan fydd yr ardal neu’r ardal leol honno’n disgyn mewn ardal ehangach sydd hefyd yn cynnwys yr ardal neu’r ardal leol y mae’r gwasanaeth dan sylw yn cael ei ddarparu ar ei chyfer, ac y mae Ofcom wedi’i chymeradwyo at ddibenion caniatáu i raglenni sy’n cael eu gwneud yn lleol y gwasanaeth dan sylw gael eu gwneud yno (“ardal gymeradwy”).

Mae Ofcom wedi cymeradwyo ardal ar gyfer pob gwasanaeth lleol trwyddedig. Gweler yr ardaloedd sydd wedi eu cymeradwyo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon (PDF, 56.6 KB). Ar hyn o bryd rydyn ni’n ail-ymgynghori’r ardaloedd sydd wedi eu cymeradwyo yn yr Alban ac yng Nghymru. Gweler restr o’r trwyddedau lleol sy’n berthnasol o fewn pob ardal sydd wedi ei chymeradwyo (PDF, 101.5 KB) yn Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel.

Caiff unrhyw orsaf ddarparu ei rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol o’r ardal mae wedi’i thrwyddedu i’w gwasanaethu, neu o stiwdios unrhyw orsaf(oedd) eraill y mae eu hardal(oedd) trwyddedig hefyd yn yr ardal gymeradwy (sy’n cael ei alw yn ‘gydleoli’). Mae’r ardal drwyddedig/ardaloedd trwyddedig y mae gorsaf yn cael darparu ei rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol ohoni/ohonynt yn cael eu pennu yn ei Fformat.

Caiff gorsaf ofyn i Ofcom gymeradwyo ardal wahanol at ddibenion o ble daw ei raglenni sy’n cael eu gwneud yn lleol (hy un sy’n cynnwys un neu ragor o ardaloedd neu ardaloedd lleol nad ydyn nhw yn yr ardal gymeradwy a nodir yn y map a’r tabl isod). Yn ogystal â gorfod cael ei ystyried yn unol â'r broses newid Fformat statudol (sydd o bosibl yn gallu mynnu ymgynghoriad), rhaid cyhoeddi unrhyw gais o’r fath sut bynnag er mwyn gofyn am sylwadau cyn bydd modd i Ofcom ei gymeradwyo.

Mae Fformat gorsaf yn pennu a yw’n cael rhannu ei rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol ag unrhyw orsaf arall. Fel mater o bolisi cyffredinol bydd Ofcom yn caniatáu i orsaf rannu ei rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol ag unrhyw orsaf arall yn ei hardal gymeradwy, ac mae ein cyfarwyddyd newid Fformat yn adlewyrchu'r dull gweithredu hwn.

Caiff gorsaf hefyd rannu ei rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol ag un orsaf neu fwy nad ydyn nhw yn ei hardal gymeradwy. Ni fydd unrhyw geisiadau i newid Fformat sy’n gofyn am ganiatâd o’r fath yn cael eu cymeradwyo fel mater o bolisi cyffredinol, ond byddan nhw’n cael eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd hyn yn destun ymgynghoriad.

Pan fydd trefniadau cydleoli a/neu rannu rhaglenni ar waith, dylai pob gorsaf ddal ati i ddarparu deunydd lleol sy’n berthnasol i’r gwrandawyr yn eu hardaloedd trwyddedig unigol.

Mae rhagor o gyfarwyddyd ar ardaloedd cymeradwy, cyd-leoli a/neu rannu rhaglenni ar gael yn ein polisi newid Fformat.

Gorsafoedd ‘rhanbarthol’ a rhannu rhaglenni

Pan fydd rhai gorsafoedd analog ‘rhanbarthol’, a restrir isod, yn darparu fersiwn o’u gwasanaeth rhaglenni’n genedlaethol ar DAB, ein polisi ydy na ddylai fod yn rhaid iddyn nhw yn gyffredinol ddarlledu deunyddiau lleol na rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol. Mewn ffordd mae hyn yn caniatáu iddyn nhw fod yn orsafoedd DAB cenedlaethol gyda darpariaeth genedlaethol rannol ar FM. Fodd bynnag, oherwydd pwysigrwydd cynnwys sy’n berthnasol i’r gwledydd yn y gwledydd datganoledig, bydd yn dal yn rhaid i unrhyw orsafoedd rhanbarthol yn y gwledydd hynny gynhyrchu rhaglenni sy’n berthnasol i’r wlad yn unol â’r canllawiau ar gyfer gorsafoedd FM lleol.

Mae hwn yn eithriad i’r dull gweithredu cyffredinol ar ddeunyddiau lleol a rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol a amlinellir uchod. Mae’n adlewyrchu mai’r gorsafoedd 'rhanbarthol’ hyn ydy'r rheini sy’n canolbwyntio’n gyffredinol ar ddarparu estyniad o ddewis cerddoriaeth, yn ogystal â'r rhaglenni angenrheidiol sydd wedi cael eu gwneud yn lleol a deunyddiau lleol (rhanbarthol). O ganlyniad, maen nhw’n fwy tebygol o gael yr hyblygrwydd i fod fel gorsafoedd cenedlaethol, creu mwy o gystadleuaeth a dewis ar y lefel genedlaethol, drwy eu rhyddhau o ddyletswyddau i ddarlledu deunyddiau lleol a rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud yn lleol.

Gorsafoedd FM rhanbarthol a Llundain ganolog

Gorsaf

Rhanbarth(au)

Absolute Radio

Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr

Capital FM

Llundain, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Alban Ganolog, Swydd Efrog

GEM

Dwyrain Canolbarth Lloegr

Heart

Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Canol yr Alban, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, Swydd Efrog, De Cymru, Gogledd a Chanolbarth Cymru

Kiss

Lloegr, Dwyrain Lloegr, Aber Afon Hafren

LBC

Llundain

Magic

Llundain

Nation Radio

De Cymru

Radio X

Llundain

Sam FM

Solent

Smooth Radio

Llundain, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Lloegr, Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Lloegr

Wave 105

Solent

Locally-made programmes

Where a station is required to broadcast programmes including local material, a suitable proportion of them (as determined by Ofcom) must be locally-made programmes.