Uned Monitro Openreach


Trwy waith Uned Monitro Openreach (OMU), mae Ofcom yn sicrhau bod Openreach yn cyrraedd ein digsywliadau o ran sut mae'n ymdrin â'i gwsmeriaid a'i gystadleuwyr ill dau.

Ym mis Mawrth 2017, rhoddodd BT wybod i Ofcom am ei ymrwymiadau gwirfoddol i ddiwygio Openreach ymhellach, gan ei wneud yn gwmni ar wahân gyda’i staff, ei reolwyr, ei bwrpas a’i strategaeth ei hun. Yn wreiddiol, sefydlodd Ofcom Uned Monitro Openreach (OMU) i fonitro cydymffurfiaeth Openreach a BT â’r ymrwymiadau. Bob blwyddyn ers hynny, rydym wedi adrodd am y canfyddiadau o'n gwaith monitro.

Beth mae OMU yn ei wneud

Mae OMU yn monitro Openreach fel ei fod yn:

  • parhau i weithredu gan gynnal annibyniaeth strategol rhangach o Grŵp BT, fel y gall ac y bydd yn gweithredu er budd ei holl gwsmeriaid ac nad yw, er enghraifft, yn rhoi blaenoriaeth i frandiau Grŵp BT; a
  • bodloni'r gofynion a disgwyliadau rheoleiddio a osodwyd arno gennym yn yr Adolygiad o Farchnad Telathrebiadau Sefydlog Cyfanwerthol (WFTMR) i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau cyfradd gigabit.

Mae ein gwaith yn wahanol i waith rheoleiddio arall Ofcom mewn perthynas â BT ac Openreach. Mae Ofcom yn parhau i gyflawni gweithgareddau polisi a gorfodi'n unol â'r gofynion deddfwriaethol perthnasol ac unrhyw weithdrefnau a gyhoeddir.

Beth nad yw'n ei wneud

Ni fydd yr Uned yn ymwneud â materion unigol sy’n codi rhwng defnyddwyr a BT neu Openreach. Ac er ein bod yn awyddus i glywed gan randdeiliaid am faterion cysylltiedig y gallent fod yn eu hwynebu, ni fydd yr Uned o anghenraid yn datrys materion unigol rhwng cwmnïau a BT neu Openreach. Dylid cyflwyno anghydfodau rheoleiddio rhwng partïon i Ofcom lle bo hynny’n briodol o dan y broses bresennol (PDF, 276.7 KB).

Os oes gennych bryderon am agweddau penodol ar y gwasanaeth a ddarperir gan BT neu Openreach, dylech gysylltu â BT neu Openreach yn y lle cyntaf.

Cysylltu â ni

Rydym yn annog rhanddeiliaid i gysylltu ag OMU os oes ganddynt bryderon am gydymffurfiaeth Openreach âr ymdrwymiadau, neu broblemau sy'n gysylltiedig â'r fframwaith WFTMR.

I gysylltu ag OMU, gyrrwch e-bost OMU@ofcom.org.uk

Adroddiad diweddaraf

Ar 27 Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad monitro blynyddol (PDF, 141.4 KB). Rydym wedi parhau i weld tystiolaeth bod yr ymrwymiadau'n sefydledig ac wedi'u hymwreiddio'n dda ar draws BT ac Openreach.

Mae'r adroddiad hefyd yn ymdrin â ffocws OMU ar graffu ar weithgareddau Openreach yn erbyn y fframwaith WFTMR, yn ogystal ag ystyried nifer o bryderon gan y diwydiant.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?