
Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant, fod George Walker wei’i benodi’n Aelod o Fwrdd Ofcom dros yr Alban.
Mae George Walker yn Gyfarwyddwr Anweithredol profiadol gyda chefndir eang ar draws rheoleiddio, llywodraethu a diogelu defnyddwyr yn y sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae'n Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol yn The Pensions Regulator ac yn Gadeirydd i'r Social Investment Scotland. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd Rheoleiddiwr Tai yr Alban a Chadeirydd Dros Dro Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban.
Mae gwaith George wedi canolbwyntio ar sefydliadau sy'n gweithredu mewn amgylcheddau sy'n fwyfwy digidol ac sy'n cael eu gyrru gan ddata, gyda phwyslais cryf ar ymddiriedaeth defnyddwyr. Mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn diogelwch ar-lein a rheoleiddio digidol, yn enwedig ar effaith gwasanaethau cyfathrebu ar unigolion a chymunedau. Yn gynharach yn ei yrfa, bu'n gweithio ym maes rheoli asedau yn y DU a’n rhyngwladol, gan roi persbectif masnachol iddo ar sut mae sefydliadau mawr yn gweithredu.
Bydd y penodiad yn rhedeg rhwng 01 Mawrth 2026 a 28 Chwefror 2030.
George Walker: “Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno ag Ofcom fel aelod o Fwrdd Ofcom, dros yr Alban ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at waith y Bwrdd. Mae'n gyfnod hynod ddiddorol i Ofcom wrth iddo lywio amgylchedd a ddiffinnir gan arloesi technolegol cyflym ar draws ei sectorau rheoledig. Rwy'n gyffrous i weithio gydag aelodau eraill o'r Bwrdd a gweithrediaeth Ofcom wrth iddo ymateb i'r datblygiadau hyn mewn ffordd sy'n darparu canlyniadau da i bobl a busnesau heddiw ledled yr Alban gyfan, yn ogystal â buddsoddi yng ngwasanaethau'r dyfodol.”
Lord Grade, Ofcom Chair: “Rwy'n falch iawn bod George wedi cael ei gadarnhau fel aelod newydd o Fwrdd Ofcom dros yr Alban. Mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth, dealltwriaeth fasnachol gref ac ystod eang o arbenigedd anweithredol a fydd yn hynod werthfawr. Bydd ei benodiad yn sicrhau bod gan y Bwrdd lais cryf yn cynrychioli'r Alban a bydd yn adeiladu ar y gwaith da a wnaed gan ei ragflaenydd, Bob Downes.”
Angus Robertson MSP, Cabinet Secretary for the Constitution, External Affairs and Culture: “Rwy'n falch iawn o groesawu penodiad George Walker fel Aelod o Fwrdd Ofcom dros yr Alban. Mae gan Mr Walker gyfoeth o brofiad ar draws y sectorau ariannol, cyhoeddus a'r trydydd sector, a bydd yn dod â safbwyntiau gwerthfawr ar draws holl amrywiaeth gwaith Ofcom. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Mr Walker i sicrhau bod buddiannau'r Alban yn cael eu hadlewyrchu a'u hyrwyddo yn yr holl waith rheoleiddio hanfodol y mae Ofcom yn ei wneud. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Aelod Bwrdd sy'n gadael, Bob Downes, am ei wasanaeth rhagorol ar y Bwrdd dros ei ddau dymor Dros y cyfnod hwnnw mae wedi bod yn gynrychiolydd rhagorol dros fuddiannau a chynulleidfaoedd yr Alban.”
Nodiadau i olygyddion:
Ofcom yw'r rheoleiddiwr annibynnol a'r awdurdod cystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebu'r DU. Mae gennym gyfrifoldebau ar draws teledu, radio, fideo ar alw, telathrebu, cyfathrebu di-wifr, gwasanaethau post a diogelwch ar-lein.
Gwnaeth Cytundeb Comisiwn Smith, a gyhoeddwyd ar 27 Tachwedd 2014, sawl cynnig sy'n benodol i Ofcom, gan gynnwys darparu rôl ymgynghorol ffurfiol i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban wrth osod blaenoriaethau strategol Ofcom mewn perthynas â'i weithgareddau yn yr Alban.
Argymhellodd y Cytundeb hefyd y dylai Gweinidogion yr Alban benodi aelod newydd i Fwrdd Ofcom. Daeth hyn i rym gan Ddeddf yr Alban 2016.
Mae'r broses sy'n ymwneud â'r penodiad wedi'i nodi mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Senedd yr Alban a'r Swyddfa Gyfathrebiadau. Mae gan y penodwr yr un cyfrifoldebau ledled y DU ag aelodau anweithredol eraill o Ofcom.
Gan fod Ofcom yn gorff cyhoeddus ledled y DU, mae'r ailbenodi yn cael ei wneud yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa'r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus.
Y tâl am y rôl hon yw £42,519 am ddau ddiwrnod yr wythnos. Bydd y tymor y penodi yn para am bedair blynedd.
Related content