Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. Mae rhai darparwyr yn eu galw'n fand eang 'essential' neu 'basic'.
Maen nhw'n cael eu darparu yn yr un ffordd â phecynnau arferol, dim ond am bris is. Gyda chostau byw ar gynnydd, mae Ofcom yn annog cwmnïau i gynnig tariffau cymdeithasol i helpu cwsmeriaid sydd ar incwm isel.
Pum mantais i dariff band eang cymdeithasol (arbed hyd at £200 y flwyddyn)
Mae rhai darparwyr yn cynnig pecynnau band eang rhatach sydd ond ar gael i gwsmeriaid ar fudd-daliadau penodol. Mae BT a KCOM hefyd yn darparu tariffau llinell dir rhatach i aelwydydd cymwys. Mae manylion y rhain yn y dolenni BT a KCOM isod.
Pwy allai fod yn gymwys
Os ydych chi, neu rywun yn eich cartref, yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallech chi newid i unrhyw un o’r tariffau sydd ar gael. Mae pob prif ddarparwr hefyd yn cynnwys pobl ar Gredyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith a Chymhorthdal Incwm a gallai rhai darparwyr gynnwys budd-daliadau ychwanegol fel y Taliad Annibyniaeth Personol a Lwfans Gweini. Bydd angen i’r sawl sy’n derbyn y budd-dal fod y prif berson ar y contract.
Sut i wneud cais
Yn gyntaf, gwiriwch a yw eich darparwr presennol yn cynnig tariff cymdeithasol. Mae ein tabl isod yn rhestru'r holl dariffau sydd ar gael nawr. Gallwch wneud cais am y rhan fwyaf o dariffau ar-lein, neu ffonio'ch darparwr a gofyn am newid.
Os nad yw eich darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol, gallwch newid i ddarparwr sy'n darparu nhw Efallai y bydd eich darparwr yn caniatáu i chi adael eich contract presennol heb dalu ffi gosb. Darllenwch ein canllaw i newid band eang am ragor o wybodaeth.
Rhestr lawn o dariffau band eang a ffôn cymdeithasol
Dechreuwch deipio enw eich darparwr. Bydd y tabl yn diweddaru wrth i chi deipio
| Pecyn | Pris | Cyflymder cyfartalog | Ble mae ar gael* |
|---|---|---|---|
| 4th Utility Social Tariff | £13.99 y mis | 30 Mbit yr eiliad | Lloegr |
| BT Home Essentials No Income | £16 y mis | Tua 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| BT Home Essentials Unlimited 36 Mbp/s | £21 y mis | Tua 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| BT Home Essentials Unlimited 67 Mbp/s | £24 a month | Tua 67 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| Community Fibre Essential | £12.50 y mis | 35 Mbit yr eiliad | Lloegr (Llundain) |
| Connect Fibre Essentials | £20 y mis | 150 Mbit yr eiliad | Lloegr (Swydd Caergrawnt, Essex, Swydd Nottingham, Swydd Efrog a Swydd Derby) |
| Country Connect Social Tariff | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Cymru (Casnewydd) |
| County Broadband Essential Broadband Tariff | £15 y mis | 15 Mbit yr eiliad | Dwyrain Lloegr |
| EE Basics | £12 y mis | Hyd at 25 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| FibreNest Social Tarriff | £14.99 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Cymru, Lloegr a’r Alban |
| G.Network Essential Fibre Broadband | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Lloegr (Llundain) |
| Gigabit IQ Connect | £22.99 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr |
| Hey!Broadband Everyday Fibre | £16 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr (De-ddwyrain Lloegr) |
| Highland Broadband Social Tariff | £23.99 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Alban |
| Hyperoptic Fair Fibre 50 | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Cymru, Lloegr a’r Alban |
| Hyperoptic Fair Fibre 150 | £20 y mis | 150 Mbit yr eiliad | Cymru, Lloegr a’r Alban |
| KCOM Full Fibre Flex | £14.99 y mis | 30 Mbit yr eiliad | Lloegr (Hull) |
| Lightning Fibre Social Tariff | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Lloegr (Dwyrain Sussex a Swydd Caint) |
| NOW Broadband Basics | £20 y mis | 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig Shell Essentials Fast Broadband |
| O2 Essentials | £10 y mis | 5G | Y Deyrnas Unedig |
| Quickline Social Tariff | £16.50 y mis | 100 Mbit yr eillad | Lloegr (Swydd Efrog a Swydd Lincoln) |
| Sky Broadband Basics | £20 y mis | 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| SMARTY Social Tariff | £12 y mis | 5G lle bo ar gael | Y Deyrnas Unedig |
| toob essentials | £20 y mis | 50 Mbit yr eliad | Hampshire, Southampton, and Surrey’ |
| Truespeed Basic | £20 y mis | 30 Mbit yr eiliad | Lloegr (De Orllewin) |
| Virgin Media Essential Broadband | £12.50 y mis | 15 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| Virgin Media Essential Broadband Plus | £20 y mis | 54 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| Vodafone Fibre 2 Essentials | £20 y mis | 73 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
| VOXI For Now | £10 y mis | 5G lle bo ar gael | Y Deyrnas Unedig |
| Wildanet Helping Hand Social Tariff** | £20 y mis | 30-100 MB yr eiliad | Lloegr (Cernyw a Dyfnaint) |
| WightFibre Essential Broadband | £16.50 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr (Ynys Wyth) |
| YouFibre Social Tariff | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
* Efallai na fydd darparwyr yn gwasanaethu pob eiddo yn y rhanbarthau a restrir. Ewch i wefan y darparwr i gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth, neu defnyddiwch wiriwr darpariaeth band eang Ofcom.
**Mae tariff cymdeithasol Wildanet ar gael i ddechrau i’r rheini sy’n cael Credyd Cynhwysol; maent yn ystyried cynnwys budd-daliadau ychwanegol.
Efallai y bydd cymorth arall ar gael i gwsmeriaid sydd yn methu mynd ar-lein. Os ydych yn cael trafferth talu eich bil ffôn symudol neu fand eang, siaradwch â'ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut y gallent eich helpu.
Awgrymiadau i dorri eich costau
Mae llawer o bobl yn poeni am y cynnydd mewn costau byw ac yn chwilio am ffyrdd o arbed arian ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio bob dydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu.
Bwrw golwg ar ein hawgrymiadau i weld a allent eich helpu.