RSH WEB

Penodi Syr Ian Cheshire yn Gadeirydd Ofcom

Cyhoeddwyd: 11 Mehefin 2026

Sir Ian Cheshire 400x600Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau'n ffurfiol mai Syr Ian Cheshire yw Cadeirydd newydd Ofcom, yn dilyn ei wrandawiad cyn-benodi diweddar yn y pwyllgor dethol Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.

MaeSyr Ian wedi bod yn gadeirydd ar Channel 4 ac wedi dal rolau uwch ar draws ystod o fusnesau a sefydliadau – gan gynnwys bod yn gadeirydd ar Barclays UK ac yn brif weithredwr Kingfisher plc.

Dywedodd Syr Ian Cheshire, Cadeirydd Ofcom: "Mae'n fraint camu i fewn i rôl Cadeirydd Ofcom er mwyn bwrw ymlaen â'n hagenda bwysig, gan fynd i'r afael â rhai o'r materion dybryd sy'n effeithio ar gymdeithas heddiw. Ynghyd â fy nghyd-Aelodau Bwrdd a thîm talentog Ofcom, rwy’n edrych ymlaen at weithio'n effeithiol gyda'r Llywodraeth i wasanaethu buddiannau dinasyddion a defnyddwyr yn y DU."

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr, Ofcom: "Rwy'n falch iawn o groesawu Ian i Ofcom. Mae’n dod â phrofiad helaeth i'r rôl hon ar adeg o newid sylweddol yn y sectorau rydyn ni'n eu rheoleiddio. Mae rôl Ofcom yn cynnwys cofleidio cyfleoedd ar gyfer twf ac arloesi ac, ar yr un pryd, sicrhau bod pobl ledled y DU yn cael eu diogelu rhag niwed ar-lein ac yn parhau i gael y gorau o'u gwasanaethau cyfathrebu."