
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a yw Meta wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, trwy beidio ag asesu'n ddigonol y risgiau a achosir gan Instagram Instants cyn iddo gael ei lansio.
Mae asesu risg yn ganolog i ddiogelwch trwy ddylunio
Mae asesiadau risg yn hanfodol i gadw defnyddwyr yn fwy diogel ar-lein. Nid yw darparwyr yn gallu diogelu pobl, yn enwedig plant, heb ddeall yn gyntaf sut y gallai niwed ddigwydd ar eu platfformau, a sut y gallai eu nodweddion a'u swyddogaethau gynyddu'r risgiau hynny o niwed.
O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, rhaid i gwmnïau technoleg asesu a lliniaru'r risg o bobl yn y DU yn dod ar draws cynnwys anghyfreithlon, a rhaid i blatfformau sy'n debygol o gael eu cyrchu gan blant hefyd asesu a lliniaru'r risg y bydd pobl dan 18 oed fod yn agored i fathau penodol o ddeunydd niweidiol.
Rhaid i ddarparwyr ddiweddaru eu hasesiadau risg cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i ddyluniad neu weithrediad eu gwasanaeth. Yn gynharach eleni, gwnaethom rybuddio platfformau mawr y gallent wynebu camau gorfodi os na fyddent yn asesu'r risg o newidiadau sylweddol cyn iddynt gael eu defnyddio.
Ymchwiliad i Instagram Instants
Ym mis Mai, lansiodd Meta Instants fel nodwedd yn Instagram, lle mae cynnwys a rennir gan ddefnyddwyr yn diflannu ar ôl iddo gael ei weld.
Rydym wedi lansio ymchwiliad ffurfiol i sefydlu a wnaeh Meta fethu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan y Ddeddf drwy beidio â chynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol ac asesiad risg plant cyn lansio Instants.
Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Mae cyfreithiau diogelwch ar-lein yn glir – rhaid asesu risg newidiadau sylweddol i blatfformau cyn iddynt gael eu lansio.
"Mae hwn yn gam hanfodol y mae'n rhaid i gwmnïau technoleg ei gymryd i ddiogelu eu defnyddwyr. Ni fyddech chi'n lansio car newydd heb ei brofi'n iawn, ac mae'r un peth yn wir ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
“Rhaid i ddiogelwch trwy ddylunio fod yn rhan annatod o’n broses, nid yn rhan ychwanegol o’r broses, ac mae ymchwiliad heddiw yn dangos y byddwn yn cymryd camau lle mae gennym bryderon bod darparwyr yn methu â chydymffurfio."
Proses ymchwilio Ofcom
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'r broses y mae'n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i gwmni a phenderfynu a yw wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol.
Ein cam cyntaf yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a yw toriad wedi digwydd. Os, yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, rydym o'r farn bod methiant cydymffurfio wedi digwydd, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad dros dro i'r cwmni, a fydd wedyn yn cael cyfle i ymateb i'n canfyddiadau yn llawn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.

Pwerau gorfodi
Os yw ein hymchwiliad yn canfod bod cwmni wedi torri'r gyfraith, gallwn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau gymryd camau penodol i gydymffurfio a/neu i unioni’r niwed a achosir gan y toriad. Gallwn hefyd osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf.
Byddwn yn darparu diweddariadau ar yr ymchwiliad hwn wrth iddo fynd rhagddo.
Cynnwys cysylltiedig