Cyhoeddwyd:
30 Gorffennaf 2025
Mae adroddiad blynyddol Cyfryngau'r Genedl Ofcom ar gyfer y diwydiant, llunwyr polisi, academyddion a defnyddwyr. Ein prif amcanion yw cofnodi newidiadau yn ymddygiadau defnyddwyr a thueddiadau allweddol yn y sector cyfryngau, a nodi sut mae cynulleidfaoedd yn cael eu gwasanaethu yn y DU.
Rydym yn tynnu ar ystod o dystiolaeth, ac yn mabwysiadu persbectif traws-lwyfan, gan gynnwys y sectorau teledu, fideo ar-lein, radio a sain.
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n ymdrin â themâu a materion penodol sy’n berthnasol i’r gwledydd hynny.
Adroddiad y DU
Prif bwyntiau:
- Nid yw'r twf mewn gwylio gwasanaethau fideo ar-lein wedi gwrthbwyso'r gostyngiad mewn gwylio teledu llinol – ond cynnwys darlledwyr sy'n dal i gyfrif am y rhan fwyaf o'r gwylio yn y cartref.
- Er bod y defnydd o wasanaethau Fideo Tanysgrifiad ar Alw (SVoD) wedi sefydlogi, mae llawer, yn enwedig cynulleidfaoedd iau, yn troi at y gwasanaethau hyn wrth droi'r teledu ymlaen am y tro cyntaf.
- Cofnododd sector teledu masnachol a fideo ar-lein y DU dwf bach yn 2024, wedi'i yrru gan fideo ar-lein.
- Wrth i wylio YouTube ar setiau teledu barhau i dyfu, mae darlledwyr yn ceisio sicrhau ei fod yn cyrraedd mwy o bobl.
- Gostyngodd refeniw radio traddodiadol yn 2024, er bod gwariant defnyddwyr ar gerddoriaeth wedi parhau i dyfu.
- Mae gwrando ar radio byw yn parhau i fod yn wydn, er gwaethaf yr ystod o gynnwys sain arall y mae cynulleidfaoedd y DU yn gwrando arno.
- Mae'r nifer sy'n gwrando ar y radio trwy seinyddion clyfar yn parhau i dyfu, ond DAB (Darlledu Sain Ddigidol) yw'r platfform radio mwyaf fesul cyfran o hyd.
Adroddiadau cenhedloedd
Cyfryngau'r Genedl 2025: Cymru (PDF)
Media Nations 2025: Northern Ireland (PDF)
Media Nations 2025: Scotland (PDF)
Dogfennau eraill
Cynnwys cysylltiedig