Hysbysiad Tryloywder: Ymchwil Archwilio Ymddygiad

Cyhoeddwyd: 19 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 20 Mawrth 2026

Atodiad: Mawrth 2026

Yn Wanwyn 2026, byddwn yn cynnal Cyfnod 2 o'r prosiect hwn a fydd yn canolbwyntio'n fwy manwl ar offer a swyddogaethau rheoli rhieni a gynigir gan bedwar platfform ar-lein mawr. Fel gyda Chyfnod 1, ffocws yr archwiliad fydd casglu mewnwelediadau ar ddyluniad yr offer hwn; pa mor hawdd yw eu lleoli ar lwyfannau; a pha mor addysgiadol ydynt i ddefnyddwyr. Bydd yr holl weithgaredd yn cael ei reoli'n llym i sicrhau diogelwch ymchwilwyr a lleihau rhyngweithio defnyddwyr.

Yng Ngaeaf 2025, rydym yn cynnal ymchwil archwilio ymddygiadol ar bwnc mentrau digidol llythrennedd yn y cyfryngau ar draws nifer o blatfformau ar-lein. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan Hwb Mewnwelediadau Ymddygiadol Ofcom (BI Hub) mewn partneriaeth â Thîm Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau (MSOM) Ofcom. Mae'r gwaith yn gwasanaethu ffrwd waith Egwyddorion Dylunio Arfer Gorau MSOM ar gyfer Llythrennedd yn y Cyfryngau, a’i nod yw galluogi MSOM i weithio'n agos gyda llwyfannau i ddarparu ymyriadau effeithiol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd ymchwilwyr o'r BI Hub yn defnyddio cyfrifon a dyfeisiau a reolir gan Ofcom i gael mynediad a defnyddio swyddogaethau llythrennedd yn y cyfryngau a ddarperir gan blatfform, a chofnodi mewnwelediadau ar y swyddogaethau hyn. Bydd yr holl weithgareddau yn cael eu rheoli'n dynn i sicrhau diogelwch ymchwilwyr a lleihau rhyngweithio â defnyddwyr.