Rhaglen Orfodi i fonitro a yw gwasanaethau yn cyflawni eu dyletswyddau i asesu’r risg o gynnwys anghyfreithlon a’u dyletswyddau cadw cofnodion

Cyhoeddwyd: 14 Mai 2025

Ar agor

Gwybodaeth am y rhaglen

Rhaglen Orfodi i fonitro a yw gwasanaethau yn cyflawni eu dyletswyddau i asesu’r risg o gynnwys anghyfreithlon a’u dyletswyddau cadw cofnodion dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Achos wedi’i agor

3 Mawrth 2025

Crynodeb

Heddiw mae Ofcom yn agor rhaglen waith neu ‘raglen orfodi’ i fonitro a yw darparwyr yn cydymffurfio â’u dyletswyddau i asesu risg cynnwys anghyfreithlon a’u dyletswyddau cadw cofnodion ac adolygu dan y Ddeddf Ddiogelwch Ar-lein (y “Ddeddf”).

Prif nodau'r rhaglen hon yw monitro cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau perthnasol y Ddeddf, a monitro sut mae’r diwydiant yn rhoi ein canllawiau asesu risg a’n canllawiau cadw cofnodion ar waith er mwyn cefnogi a meithrin yr arferion gorau.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adran 9, 23, 26 a 34 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliadau i Kick Online Entertainment S.A, mewn perthynas â’r gwasanaeth Motherless. Mae hyn er mwyn ymchwilio a yw’n cydymffurfio â chais statudol am wybodaeth ac yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon. Mae’r bwletinau ar gyfer pob ymchwiliad ar gael yma ac yma.

Rhaid i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaethau chwilio gynnal asesiadau risg o gynnwys anghyfreithlon. Mae hyn yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar y darparwyr ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt asesu’r risg sy’n gysylltiedig â throseddau blaenoriaeth a chynnwys anghyfreithiol ar eu gwasanaethau. Rhaid i wasanaethau wneud a chadw cofnodion ysgrifenedig o bob agwedd ar bob asesiad risg gan gynnwys manylion am sut cafodd yr asesiad ei gynnal a beth oedd y canfyddiadau. Dylai’r cofnodion gael eu cadw ar ffurf sy’n hawdd ei ddeall.

Ar 16 Rhagfyr 2024, fe gyhoeddodd Ofcom Ganllawiau ar Asesu Risg a Phroffiliau Risg i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau i gydymffurfio â’u dyletswyddau i asesu’r risg o gynnwys anghyfreithlon. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys proses 4 cam i asesu risg, sy’n cynorthwyo’r gwasanaethau i gydymffurfio â’u dyletswyddau i asesu’r risg o gynnwys anghyfreithiol. Fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi Canllawiau ar Gadw Cofnodion ac Adolygu er mwyn cynorthwyo darparwyr i gyflawni eu dyletswyddau cadw cofnodion ac adolygu.

Yn sgil y dyletswyddau i asesu risg cynnwys anghyfreithlon sy’n cael eu gwneud yn weithredol, rydym ni wedi penderfynu gwneud cais am gofnodion o’r asesiadau risg o gynnwys anghyfreithlon gan nifer o ddarparwyr gwasanaethau sydd o fewn y cwmpas. Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth mae’r gwasanaethau yn eu darparu i adnabod pryderon posib sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth ac i fonitro sut mae ein canllawiau ar asesu’r risg o gynnwys anghyfreithiol a’n canllawiau ar gadw cofnodion ac adolygu yn cael eu rhoi ar waith gan y diwydiant.

Rydym ni’n disgwyl i’r rhaglen hon gael ei chynnal am o leiaf 12 mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw efallai y byddwn ni’n penderfynu cynnal arolygon ffurfiol eraill os oes gennym bryderon sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn ni’n cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiadau perthnasol.  

Yn ôl i'r brig