Beth yw pwrpas hyn
Ym mis Gorffennaf 2025, yn dilyn ymgynghoriad, cyhoeddwyd ein Canllawiau Tryloywder Terfynol lle nodwyd ein dull o adrodd ar dryloywder o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y 'Ddeddf') a sut y byddwn yn penderfynu pa wybodaeth y dylai darparwyr gwasanaethau ei chynnwys yn eu hadroddiadau tryloywder. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â sefydliadau cymdeithas sifil, ymchwilwyr a phobl ag arbenigedd perthnasol yn ystod pob cylch adrodd tryloywder, gan gynnwys datblygu hysbysiadau tryloywder.
Ein cam presennol
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ein hysbysiadau tryloywder ac yn ymgysylltu â sefydliadau cymdeithas sifil, ymchwilwyr a phobl ag arbenigedd perthnasol. Fodd bynnag, bydd gennym ddiddordeb mewn clywed gan bawb sy'n dymuno rhannu eu barn.
Pa fath o fewnbwn yr ydym yn ei geisio
Rydym yn gofyn am farn gan sefydliadau cymdeithas sifil a'r cyhoedd ar y wybodaeth y maent am i ddarparwyr gwasanaeth ei chyhoeddi. Gweler Atodlen 8 i'r Ddeddf am y materion posibl y gallwn ofyn am wybodaeth amdanynt mewn hysbysiadau tryloywder.
Ein camau nesaf
Byddwn yn defnyddio'r safbwyntiau a dderbyniwn i lywio datblygiad ein hysbysiadau tryloywder. Yn dilyn cyhoeddi'r Gofrestr o Wasanaethau wedi'u Categoreiddio yn yr haf, byddwn yn dechrau'r broses o gyhoeddi hysbysiadau drafft i ddarparwyr gwasanaethau wedi'u categoreiddio. Gweler ein Canllawiau Tryloywder am ragor o wybodaeth am ein proses hysbysiadau drafft.
Sut i gyflwyno barn
Anfonwch e-bost at OS-Transparency@ofcom.org.uk erbyn 5pm ar 30 Ebrill 2026.
I ddeall sut y gall Ofcom ddefnyddio eich data, cyfeiriwch at ein Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol.