Bwletin Gorfodi: Rhaglen Gorfodi i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol drwy ddefnyddio sicrwydd oedran

Cyhoeddwyd: 24 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd diwethaf: 28 Awst 2026

Ar agor

Gwybodaeth am y rhaglen

Dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein (‘y Ddeddf’) i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol drwy weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol.

Achos wedi’i agor

24 Gorffennaf 2025

Crynodeb

Mae Ofcom yn agor rhaglen waith, neu ‘rhaglen orfodi’, i fonitro a yw darparwyr gwasanaethau y mae plant yn debygol o gael mynediad atynt, y mae eu prif bwrpas yn lledaenu ‘Cynnwys Blaenoriaeth Sylfaenol’, yn cydymffurfio â’u dyletswyddau i ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant o unrhyw oedran rhag dod ar ei draws.

Un o’n blaenoriaethau ar gyfer y drefn Diogelwch Ar-lein newydd yw hyrwyddo gweithredu gwiriadau oedran cadarn gan wasanaethau y mae eu prif bwrpas yn lledaenu cynnwys sy’n niweidiol i blant. Prif amcanion y rhaglen hon yw monitro cydymffurfiaeth â’r dyletswyddau perthnasol yn y Ddeddf, monitro sut mae ein canllawiau ar sicrwydd oedran hynod effeithiol yn cael eu cymhwyso gan y diwydiant, a chefnogi mabwysiadu arfer gorau.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

dran 12 o’r Ddeddf

Mae Tasglu Cydymffurfiaeth 'Gwasanaethau Bach ond Peryglus' Ofcom yn dîm ymroddedig sy'n canolbwyntio ar nodi a’n gyrru cydymffurfiaeth gan wasanaethau rheoleidiedig sydd â sylfaeni ddefnyddwyr bach sy'n peri risg anghymesur o niwed difrifol i ddefnyddwyr y DU. 
Ar 24 Gorffennaf 2025, lansiodd Ofcom raglen orfodi sy'n canolbwyntio ar wasanaethau a'u prif bwrpas yw cynnal neu ledaenu 'Cynnwys Prif Flaenoriaeth' neu 'Gynnwys Blaenoriaeth', er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o'r fath yn defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i'r gwasanaeth. Ers hynny, mae'r Tasglu Cydymffurfiaeth wedi monitro a chynnal ymgysylltiad gweithredol â darparwyr 14 o wasanaethau sy'n cynrychioli risg sylweddol o niwed i blant o'r cynnwys niweidiol y maent yn ei gynnal neu'n ei ledaenu. Heddiw rydym yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd.

Gweithredu Geo-blociau:

Yn dilyn ymgysylltiad rhagweithiol gan y Tasglu Cydymffurfiaeth, mae saith o'r gwasanaethau a nodwyd, pob un ohonynt wedi’u neilltuo i gynnal mathau arbennig o gynnwys niweidiol - gan gynnwys cynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio, cynnwys treisgar a graffig, a chynnwys anhwylderau bwyta - wedi geo-blocio i’r DU ac nid ydynt bellach yn hygyrch i ddefnyddwyr y DU (gan gynnwys plant) o ddyddiad y diweddariad hwn. Mae hyn yn cynnwys pum gwasanaeth sy'n cynnal cynnwys trais graffig ac anafiadau difrifol, a dau sy'n cynnal cynnwys hunanladdiad. 

Mae'r Tasglu Cydymffurfiaeth yn parhau i fonitro effeithiolrwydd geo-blociau sydd wedi'u rhoi ar waith ac yn asesu'r angen am gamau gweithredu pellach. 

Llythyrau rhybudd:

Mae darparwyr tri gwasanaeth a nodwyd a fethodd ag ymgysylltu wedi cael llythyrau rhybudd gan dîm Gorfodi Ofcom. Mae'r rhain yn eu hysbysu o’u gofynion o dan Adran 12 o'r Ddeddf i atal a diogelu plant rhag dod ar draws cynnwys sy'n niweidiol iddynt ar eu gwasanaeth, gan gynnwys trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol. Rydym yn parhau i asesu a oes angen camau gweithredu ychwanegol a byddwn yn ystyried eu hymateb wrth ystyried ein hopsiynau.  

Gweithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol:

Mae dau wasanaeth proffil uchel a nodwyd gan y Tasglu Cydymffurfiaeth, sy'n cynnal cynnwys trais ac anafiadau difrifol, wedi gweithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal mynediad gan blant y DU ar ôl ymgysylltu. 

Camau nesaf:

Mae'r gwaith o dan y rhaglen orfodi hon wedi'i gydlynu ar draws timau Goruchwylio a Gorfodi Ofcom. Hyd yn hyn mae wedi dangos mai, yn aml, ceisio ymgysylltu gwirfoddol gan wasanaethau yw'r ffordd gyflymaf o ddiogelu defnyddwyr. Yn enwedig mewn achosion sy'n ymwneud â gwasanaethau llai nad oes ganddynt gyrhaeddiad eang o bosibl ond sy'n cynrychioli risg sylweddol o niwed trwy gynnal neu hyrwyddo cynnwys sy'n arbennig o niweidiol i blant. 

Rydym wedi gwneud cynnydd da gyda'r mwyafrif o'r gwasanaethau yr ydym wedi ymgysylltu â nhw hyd yn hyn. Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i flaenoriaethu ymgysylltu gweithredol â gwasanaethau sy'n peri'r risg uchaf o niwed i blant. 

Lle nad yw darparwyr gwasanaeth yn ymgysylltu neu'n methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf, gan gynnwys y rhai yn Adran 12, ni fyddwn yn oedi cyn symud i gamau gorfodi ffurfiol. 
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ar waith y Tasglu Cydymffurfiaeth maes o law. 

Mae ymchwil yn awgrymu bod nifer o wasanaethau bach ond peryglus ar gael i blant y DU y mae eu prif bwrpas yn cynnwys cynnwys niweidiol fel cynnwys anhwylderau bwyta, cynnwys hunan-niweidio, cynnwys hunanladdiad neu gynnwys treisgar difrifol. Mae'r Ddeddf yn diffinio'r holl fathau hyn o gynnwys fel 'Cynnwys Blaenoriaeth Cynradd' neu 'Gynnwys Blaenoriaeth' sy'n niweidiol i blant.

Mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn cyflwyno dyletswyddau penodol ar gyfer darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig y mae'n debygol y bydd plant yn cael mynediad atynt. Mae'r dyletswyddau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddefnyddio systemau a phrosesau cymesur sydd wedi'u cynllunio i leihau'r risg o niwed i blant yn effeithiol o gynnwys sydd ar gael ar eu llwyfannau, ac i atal plant rhag dod ar draws rhai mathau o gynnwys niweidiol yn gyfan gwbl. Daw'r rhwymedigaethau hyn - y cyfeirir atynt fel Dyletswyddau Diogelu Plant - i rym ar 25 Gorffennaf 2025.

Yn benodol, mae adran 12 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddefnyddio gwirio oedran hynod effeithiol neu amcangyfrif oedran hynod effeithiol (neu'r ddau) i atal plant o unrhyw oedran rhag dod ar draws 'Cynnwys Blaenoriaeth Cynradd' y mae'r darparwr yn ei nodi ar y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnwys sy'n annog, yn hyrwyddo neu'n darparu cyfarwyddiadau ar gyfer hunanladdiad, hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta a phornograffi, oni bai bod cynnwys o'r fath wedi'i wahardd ar y gwasanaeth.

Camau gweithredu rydym yn eu cymryd:

Dros y misoedd diwethaf, mae ein tasglu sy'n ymroddedig i ysgogi cydymffurfiaeth ymhlith gwasanaethau bach ond peryglus wedi nodi nifer o wasanaethau y mae eu prif bwrpas yn cynnwys cynnal neu ledaenu cynnwys sy'n niweidiol i blant.

Byddwn yn ymgysylltu â'r gwasanaethau hyn i'w hysbysu am eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf, ac i asesu'r prosesau sicrhau oedran y maent yn eu gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth â'u dyletswyddau o dan Ran 3.

Rydym yn disgwyl i'r rhaglen hon redeg am o leiaf bedwar mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw efallai y byddwn yn penderfynu agor ymchwiliadau ffurfiol ar wahân os oes gennym bryderon nad yw darparwr gwasanaeth yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf.

Cyfeirnod yr achos

CW/01311/07/25