Ar agor
AVS Group Ltd
30 Gorffennaf 2025
Rydym yn ymchwilio i weld a yw AVS Group Ltd wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wasanaeth trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol. Rydym hefyd yn ymchwilio a yw AVS Group Ltd wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.
Adrannau 12 a 100 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023
Ar 3 Rhagfyr 2025, fe wnaethom gyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i AVS Group Ltd, lle gwnaethom osod dwy gosb sengl am fethu â chydymffurfio â'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yn cynnwys:
- £1 miliwn am ei dorri adran 12 o'r Ddeddf; ac
- £50,000 am dorri adran 102(8) o'r Ddeddf.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer talu'r cosbau sengl wedi mynd heibio erbyn hyn. Ar hyn o bryd nid ydym wedi derbyn taliad o'r cosbau ac rydym yn ystyried y camau nesaf ar gyfer adferiad.
Fe wnaethom hefyd osod dwy gosb ddyddiol i adlewyrchu bod y toriadau hyn yn parhau ar ddyddiad y Penderfyniad Cadarnhau. Os byddai diffyg cydymffurfio yn parhau, gwnaethom nodi y byddai'r cosbau dyddiol yn parhau i gronni am y ddau doriad nes naill ai: bod y cwmni wedi cymryd camau i gydymffurfio â'r dyletswyddau perthnasol; neu hyd at uchafswm o 100 diwrnod am dorri adran 12 o'r Ddeddf, a 60 diwrnod am dorri adran 102(8) o'r Ddeddf.
Ar ôl i'r Penderfyniad Cadarnhau gael ei gyhoeddi, cymerodd AVS Group Ltd gamau i gyflwyno sicrwydd oedran hynod effeithiol wrth nodi a yw defnyddiwr sy’n blentyn yn dod ar draws un o'r 18 o'r gwefannau sy’n cael eu hymchwilio. Cadarnhaodd Ofcom ar 8 Ionawr 2026 mai cyfanswm y gosb ddyddiol i'w gosod am y toriad hwn, felly, oedd £8,000. Mae'r dyddiad cau ar gyfer talu'r elfen hon o'r gosb bellach wedi mynd heibio. Nid ydym wedi derbyn taliad eto ac rydym yn ystyried y camau nesaf ar gyfer adferiad.
Mewn perthynas â thorri adran 102(8) o'r Ddeddf, daeth yr uchafswm cyfnod cronni o 60 diwrnod i ben ar 1 Chwefror 2026. Felly, ar 13 Chwefror 2026 cadarnhaodd Ofcom mai cyfanswm y gosb ddyddiol i'w gosod oedd £18,000. Yn unol â'r Ddeddf, rhaid i Ofcom ddarparu cyfnod rhesymol o'r dyddiad terfynol y cafodd y gosb ei thalu (sef 1 Chwefror 2026) i wneud taliad. Yn yr achos hwn, mae Ofcom wedi caniatáu tan 1 Ebrill 2026, ac erbyn hynny rhaid talu'r gosb.
Mae symiau terfynol y dirwyon wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen we ar gyfer adrodd ariannol.
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi fersiwn anghyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd gennym i AVS Group Ltd ar 3 Rhagfyr 2025 o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf').
Mae'r Penderfyniad yn ymwneud â'n hymchwiliad i gydymffurfiaeth AVS Group Ltd â'i ddyletswyddau i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wefannau drwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol, ac i ymateb i gais am wybodaeth.
Yn unol ag adran 132 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), ar 3 Rhagfyr 2025 gwnaethom gyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i AVS Group Ltd mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf a'i fethiant i gydymffurfio â chais am wybodaeth statudol.
Methiant i gydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf
Mae Ofcom wedi penderfynu bod AVS Group Ltd wedi methu â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf a bod y methiant hwn yn parhau.. Mae Adran 12 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ac sy’n caniatáu cynnwys pornograffig, i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
O 25 Gorffennaf 2025, hyd at o leiaf 25 Tachwedd 2025, mae pob un o'r gwasanaethau a weithredir gan AVS Group Ltd naill ai:
- heb weithredu unrhyw fesurau sicrwydd oedran; neu
- wedi gweithredu mesurau nad oeddent yn hynod effeithiol wrth benderfynu a oedd defnyddiwr yn blentyn. Yn benodol, defnyddiodd AVS Group Ltd wiriad uwchlwytho lluniau ar ei wasanaethau nad yw'n cynnwys canfod bywiogrwydd ac felly mae'n agored i blant osgoi’r gwiriadau (er enghraifft, trwy uwchlwytho llun o oedolyn). Mae Ofcom o'r farn nad yw'r dull hwn yn gallu bod yn effeithiol iawn o fewn ystyr y Ddeddf.
Rydym yn gosod cosb o £1,000,000 ar AVS Group Ltd mewn perthynas â thorri adran 12. Gosodwyd y gosb hon o ystyried ein Canllawiau Cosb.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i AVS Group Ltd gydymffurfio ag adran 12 drwy gymryd camau i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar holl wefannau AVS Group sy’n weddill sydd heb mesurau fel hyn ar wait, erbyn 5pm GMT ar 6 Rhagfyr 2025.
Os bydd AVS Group Ltd yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn, gosodir dirwy ddyddiol o £1,000 y dydd gan ddechrau o 6 Rhagfyr 2025 hyd nes y cydymffurfir â'r ddyletswydd adran 12 neu 16 Mawrth 2026, pa un bynnag sydd gyntaf.
Methiant i gydymffurfio ag adran 102(8) o'r Ddeddf
Mae Ofcom hefyd wedi penderfynu bod AVS Group Ltd wedi methu â chydymffurfio ag adran 102(8) o'r Ddeddf drwy fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth o fewn yr amserlen benodedig a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymchwiliad. Rydym yn gosod dirwy o £50,000 ar AVS Group Ltd mewn perthynas â thorri adran 102(8). Gosodwyd y gosb hon gan ystyried ein Canllawiau Cosb.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i AVS Group Ltd gymryd camau ar unwaith i ddarparu rhestr gyflawn i Ofcom o'r holl safleoedd a weithredir gan AVS Group Ltd.
Os bydd AVS Group Ltd yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn, gosodir dirwy i ddyddiol o £300 y dydd gan ddechrau o 4 Rhagfyr 2025 hyd nes y cydymffurfir â'r ddyletswydd adran 102(8) neu 1 Chwefror 2026 pa un bynnag sydd gyntaf..
Bydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Yn dilyn ymchwiliad, mae Ofcom wedi penderfynu dros dro fod sail resymol i gredu bod AVS Group Ltd wedi methu, ac yn methu â chydymffurfio ag adran 12 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf'). Mae Adran 12 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ac sy’n caniatáu cynnwys pornograffig, i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Felly, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad dros dro o dorri rheolau i AVS Group Ltd ar 10 Hydref 2025 o dan adran 130 o'r Ddeddf. Mae'r hysbysiad hefyd yn nodi ein barn dros dro bod AVS Group Ltd wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 102(8) o'r Ddeddf drwy fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae'r hysbysiad yn nodi'r ffeithiau y mae Ofcom wedi dibynnu arnynt i ddod i'w farn dros dro, y camau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd, a'r rhesymeg dros y penderfyniadau hynny. Bydd gan AVS Group Ltd gyfnod o 20 diwrnod gwaith i wneud sylwadau i Ofcom, a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol.
Ar 30 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth ffurfiol i AVS Group Ltd o dan adran 100 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ar adeg cyhoeddi'r cyhoeddiad hwn, nid ydym wedi derbyn ymateb i'r hysbysiad gwybodaeth. Felly, mae Ofcom bellach wedi ehangu'r ymchwiliad hwn i gynnwys ystyried a yw AVS Group Ltd wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.
Ar 16 Ionawr 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf') i fonitro cydymffurfiaeth â dyletswyddau gwasanaethau rheoleiddiedig i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig.
I ddechrau, canolbwyntiodd y rhaglen ar ddyletswyddau gwasanaethau Rhan 5 - y rhai sy'n cyhoeddi neu'n arddangos eu cynnwys pornograffig eu hunain - i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol yn unol ag adran 81 o'r Ddeddf. Mae'r dyletswyddau hyn wedi bod yn berthnasol ers 17 Ionawr 2025. Ehangwyd y rhaglen orfodi ar 25 Gorffennaf 2025 i gynnwys gwasanaethau Rhan 3 - y rhai sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho neu gynhyrchu eu cynnwys pornograffig eu hunain.
Ar 30 Gorffennaf 2025, o dan y rhaglen orfodi estynedig hon, rydym wedi agor ymchwiliad i AVS Group Ltd mewn perthynas â'r safleoedd oedolion www.pornzog.com, www.txxx.com, www.txxx.tube, www.upornia.com, www.hdzog.com, www.hdzog.tube, www.thegay.com, www.thegay.tube, www.ooxxx.com, www.hotmovs.com, www.hclips.com, www.vjav.com, www.pornl.com, www.voyeurhit.com, www.manysex.com, www.tubepornclassic.com, www.shemalez.com a www.shemalez.tube.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol i gredu bod y darparwr wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu canlyniad yr ymchwiliad yn deg.
Byddwn yn rhoi diweddariad ar yr ymchwiliad maes o law.
CW/01312/07/25