Ar agor
Trendio Ltd
30 Gorffennaf 2025
Rydym yn ymchwilio i weld a yw Trendio Ltd wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wasanaeth trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Adran 12 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023
Ar 16 Ionawr 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf') i fonitro cydymffurfiaeth â dyletswyddau gwasanaethau rheoleiddiedig i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig.
I ddechrau, canolbwyntiodd y rhaglen ar ddyletswyddau gwasanaethau Rhan 5 - y rhai sy'n cyhoeddi neu'n arddangos eu cynnwys pornograffig eu hunain - i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol yn unol ag adran 81 o'r Ddeddf. Mae'r dyletswyddau hyn wedi bod yn berthnasol ers 17 Ionawr 2025. Ehangwyd y rhaglen orfodi ar 25 Gorffennaf 2025 i gynnwys gwasanaethau Rhan 3 - y rhai sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho neu gynhyrchu eu cynnwys pornograffig eu hunain.
Ar 30 Gorffennaf 2025, o dan y rhaglen orfodi estynedig hon, rydym wedi agor ymchwiliad i Trendio Ltd mewn perthynas â'r safleoedd oedolion www.theyarehuge.com, www.tranny.one, www. ah-me.com, www. ashemale.one, www. bdsm.one, www.bemyhole.com, www. gaygo.tv, www.gayxo.com, www. shemale.pub, www.sunporno.com, a www.yesvids.com.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol i gredu bod y darparwr wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu canlyniad yr ymchwiliad yn deg.
Byddwn yn rhoi diweddariad ar yr ymchwiliad maes o law.
CW/01316/07/25